Golygu ar gyfer Teledu, Ffilm a Chyfryngau Digidol
Mae ein cwrs MA Golygu ar gyfer Teledu, Ffilm a Chyfryngau Digidol yn eich helpu i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth uwch sydd eu hangen i lwyddo fel golygydd ffilm proffesiynol. Byddwch yn ennill profiad ymarferol, yn archwilio technegau creadigol, ac yn hogi eich meddwl beirniadol i fodloni safonau'r diwydiant a chael effaith wirioneddol ar y sector golygu ffilmiau.
Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni
Manylion Cwrs Allweddol
Byddwch yn gweithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr eraill a gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, gan hogi eich sgiliau golygu ac ennill profiad yn y byd go iawn trwy gydweithio.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs MA Golygu ar gyfer Teledu, Ffilm a Chyfryngau Digidol wedi'i gynllunio ar gyfer darpar olygyddion uchelgeisiol sydd am adeiladu sylfaen gref mewn cynhyrchu ffilm a theledu wrth fireinio technegau golygu a graddio lliw. Byddwch yn datblygu sgiliau uwch, yn gwella arferion presennol, ac yn ennill profiad ymarferol gydag offer o safon y diwydiant, gan eich paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant sgrin.
Llwybrau Gyrfaol
- Golygydd ffilm
- Lliwiwr
- Dybio sain
- Technegydd Delweddu Digidol (DIT)
- Cynhyrchydd
Sgiliau a addysgir
- Sgiliau golygu Avid
- Sgiliau lliwio DaVinci Resolve
- Ôl-gynhyrchu sain a dylunio
- Cynllunio, datblygu ac ymchwilio
- Cydweithio
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£18,300
fesul blwyddyn*Mae gan PDC gyfrifiaduron ar gael ar y campws a gliniaduron i'w benthyca. Fodd bynnag, argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur eich hun, sy'n gallu rhedeg Microsoft Office 365. Gall myfyrwyr gael mynediad at gopi o Microsoft Office ac Adobe Creative Suite am ddim.
Cost: I fyny at £2000
Argymhellir bod sinematograffwyr a myfyrwyr ffilmiau dogfennol yn prynu eu cerdyn SSD eu hunain. Pan fyddwch yn dechrau'r cwrs, cewch eich cynghori ynghylch pa gyflymder a chapasiti i'w brynu.
Cost: I fyny at £40
Argymhellir bod myfyrwyr ar y llwybrau sinematograffeg, cyfarwyddo, ffilmiau dogfennol a golygu yn prynu eu gyriannau caled allanol eu hunain. Isafswm o 2GB, mae mecanyddol yn iawn ond SSD os gallwch ei fforddio.
Cost: I fyny at £120
Benthyca Offer Cyfryngau
Mynediad at gamerâu, cyfarpar goleuo, sain a recordio o safon y diwydiant, gyda chefnogaeth Benthyciadau Cyfryngau am ddim a thechnegwyr profiadol. Mae gennym bopeth sydd ei angen arnoch i'ch helpu i arbrofi, mireinio a gwireddu eich gwaith yn hyderus.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Astudio yn PDC
Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.
Llwyddiant i Fyfyrwyr Ffilm ac Animeiddio yng Ngwobrau RTS Cymru
Mae myfyrwyr a graddedigion Ffilm ac Animeiddio PDC wedi sicrhau wyth gwobr fawreddog yng Ngwobrau Cymdeithas Deledu Frenhinol Cymru (RTS), gan ddathlu creadigrwydd, arloesedd ac adrodd straeon wrth wraidd teledu Cymru. Roedd eu prosiectau arobryn yn cwmpasu adloniant, drama, comedi ac adrodd straeon ffeithiol, gan danlinellu ymrwymiad y brifysgol i feithrin talent greadigol.
SUT I WNEUD CAIS
Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).
Derbyniadau rhyngwladol
Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.