Mae'r cwrs hwn yn arwain at gymhwyster proffesiynol ac academaidd cydnabyddedig ar gyfer gyrfa ym maes ‘Cymorth Dysgu’ yn y sector Addysg Bellach, Addysg Oedolion ac Addysg Alwedigaethol.
Apply Direct Apply Through UCAS Book an Open Day Chat to Us
Manylion Cwrs Allweddol
Gan ein bod yn rhoi mwy o brofiadau dysgu seiliedig ar gyflogaeth i fyfyrwyr nag erioed o'r blaen, mae angen gweithlu cymorth dysgu o safon uchel i lenwi'r bylchau yn yr hyn a gafodd ei ddysgu yn ystod ein cyfnodau o gyfyngiadau symud cenedlaethol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs arloesol hwn wedi cael ei gynllunio er mwyn datblygu unrhyw un sy'n gweithio ym maes cymorth dysgu mewn addysg bellach, addysg oedolion ac addysg alwedigaethol ymhellach, neu ar gyfer y rhai sydd am ddechrau ar yrfa ym maes cymorth dysgu yn y sector ôl-orfodol
Llwybrau Gyrfa
- Cynorthwywyr Cymorth Dysgu
- Cydlynwyr Cymorth Dysgu
- Rolau ADY/ADP
Sgiliau a addysgir
- Gwydnwch
- Proffesiynoldeb
- Sensitifrwydd a dirnadaeth mewn perthynas ag amrywiaeth
- Ymarfer myfyriol
- Cysylltu theori ag ymarfer
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Trosolwg
- Fi fy hun – 20 credyd (Lefel 3)
- Cyflwyniad i gymorth dysgu – 20 credyd (Lefel 4)
- Datblygu adnoddau ar gyfer cymorth dysgu – 20 credyd (Lefel 4)
- Dysgu seiliedig ar ymarfer 1 – 20 credyd (Lefel 4)
--
Fi Fy Hun
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i'r cwrs yn ei gyfanrwydd a chyfle i rannu a datblygu profiadau dysgu proffesiynol a phersonol, archwilio cymhellion a nodau, a datblygu dull seiliedig ar werthoedd o ymdrin â chymorth dysgu.
Cyflwyniad i Gymorth Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i archwilio diffiniadau o ADY a niwroamrywiaeth, herio modelau diffyg a hyrwyddo dulliau dysgu sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Caiff myfyrwyr eu helpu i ddeall polisi ac ymarfer a rolau a chyfrifoldebau llywodraeth, sefydliadau ac unigolion, a'r cydberthnasau rhyngddynt.
Datblygu Adnoddau ar gyfer Cymorth Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn annog myfyrwyr i ganolbwyntio ar gyfathrebu deialogaidd a deallusrwydd emosiynol wrth gefnogi dysgwyr yn effeithiol. Byddwch yn ymwneud â Chynlluniau Dysgu Unigol/Cynlluniau Datblygu Unigol, proffiliau ac asesiadau diagnostig, yn dysgu am werth cronfeydd gwybodaeth ac yn defnyddio technolegau cynorthwyol a digidol fel y bo'n briodol i ddatblygu adnoddau sy'n cymell ac yn ennyn diddordeb.
Dysgu Seiliedig ar Ymarfer 1
Yr hyn sydd wrth wraidd y modiwl hwn yw dysgu drwy brofiad ar leoliad. Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol o rôl gweithiwr cymorth dysgu mewn perthynas ag anghenion dysgwyr a'r cwricwlwm.
Trosolwg
- Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ym myd addysg
- Cynllunio ar gyfer cymorth dysgu
- Iaith a llythrennedd ar gyfer dysgu
- Dysgu seiliedig ar ymarfer 2
--
Cynllunio ar gyfer Cymorth Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn cefnogi dull cydweithredol o rannu arferion o'r gweithle mewn perthynas â chynllunio ar gyfer cymorth dysgu. Mae hyn yn helpu dysgwyr i rannu arferion, syniadau a heriau, ac i gymharu profiadau.
Iaith a Llythrennedd ar gyfer Dysgu
Man cychwyn y modiwl hwn yw myfyrio ar arferion y myfyrwyr eu hunain o ran llythrennedd, rhifedd a/neu lythrennedd digidol mewn cyd-destunau pob dydd a rhannu syniadau, canfyddiadau a dirnadaethau o weithgareddau mewn sesiynau gweithdai cydweithredol.
Cynwysoldeb, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth ym myd Addysg
Mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn werthoedd sylfaenol sy'n sail i'r cwrs. Bydd myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth o gydraddoldebau ac anghydraddoldebau mewn lleoliadau cymdeithasol a phroffesiynol ac yn cydnabod eu rôl eu hunain o ran cyfoethogi ymarfer cynhwysol a chefnogi newid cadarnhaol.
Dysgu Seiliedig ar Ymarfer 2
Bydd myfyrwyr yn gallu ymestyn eu hymarfer proffesiynol a meithrin eu sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ymhellach yn unol â dealltwriaeth ddyfnach o hanesion amrywiol ac anghenion dysgu cyfredol dysgwyr.
Trosolwg
- Meithrin cydberthnasau cadarnhaol ar gyfer cymorth dysgu
- Partneriaethau ym maes cymorth dysgu 3
- Astudiaeth achos dysgwr
- Dysgu seiliedig ar ymarfer 3
--
Meithrin Cydberthnasau Cadarnhaol ar gyfer Cymorth Dysgu
Yn y modiwl hwn, bydd angen i fyfyrwyr fyfyrio ar eu profiadau o feithrin cydberthnasau proffesiynol â dysgwyr a chydweithwyr. Bydd myfyrwyr yn archwilio dulliau o sefydlu a chynnal amgylcheddau cefnogol ar gyfer cymorth dysgu a deall modelau cymorth sy'n seiliedig ar hyfforddi a mentora.
Partneriaethau ym maes Cymorth Dysgu
Mae'r modiwl hwn yn edrych ar ddwy agwedd ar bartneriaeth:
1) arferion gwaith beunyddiol ym maes cymorth dysgu a gofyn cwestiynau am y cysylltiadau a'r gorgyffwrdd rhwng cymorth dysgu a phartïon mewnol ac allanol
2) partneriaethau ar gyfer datblygu dysgu proffesiynol a rhwydweithiau er mwyn cyfrannu at gorff o waith, undod, a llais proffesiynol a rennir yn y sectorau addysg bellach, addysg oedolion ac addysg alwedigaethol.
Astudiaeth Achos Dysgwr
Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyfle i ddeall sut y caiff gweithgareddau ymchwil eu dylunio a'u cynnal er mwyn cyfoethogi profiad y dysgwyr ac ymarfer y myfyrwyr eu hunain.
Dysgu Seiliedig ar Ymarfer 3
Dyma'r trydydd o dri modiwl dysgu seiliedig ar ymarfer cysylltiedig. Bydd myfyrwyr yn parhau i ddefnyddio adborth gan fentoriaid, tiwtoriaid a dysgwyr a'u dirnadaeth a'u myfyrdodau eu hunain er mwyn cynllunio'r camau nesaf yn eu datblygiad eu hunain.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
|
Eitem |
Cost |
Disgrifiad |
|
DBS* |
£55.42 |
Mae'r ffi hon yn cynnwys £ 40 am y dystysgrif DBS uwch, ffi Gweinyddu Swyddfa'r Post a'r ffi weinyddu ar-lein. |
|
Gwasanaeth Diweddaru DBS * |
£13 |
Mae angen tanysgrifiad ar gyfer pob blwyddyn o'r cwrs am ffi flynyddol o £ 13. Sylwch fod yn rhaid ymuno â'r gwasanaeth cyn pen 30 diwrnod ar ôl derbyn eich tystysgrif DBS manwl. |
|
Teithio i'r Lleoliad |
£0 - £300 |
Blynyddoedd 1, 2 a 3 - Mae'r gost yn dibynnu ar leoliad y lleoliad. |
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut y byddwch yn dysgu
Cwrs dysgu cyfunol yw hwn, sy'n cynnwys cyfuniad o sesiynau dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb, dysgu wrth ymarfer, a deialogau proffesiynol/tiwtorialau ar-lein.
Mae'r asesiad yn arloesol ac yn cynnig ehangder ac amrywiaeth o dechnegau asesu. Ymhlith yr enghreifftiau o'r asesiadau mae llunio dyddiaduron gweledol, arddangos posteri, a chreu adnoddau dysgu.
Hefyd, bydd cyfle i fynd i dri diwrnod grŵp ar y campws lle y gall dysgwyr gwrdd wyneb yn wyneb a rhannu eu profiadau wrth ymarfer, yn ogystal â dysgu am faes cymorth dysgu gan siaradwyr gwadd. Gwaith cwrs fydd yr holl asesiadau ac ni fydd arholiadau.
Staff addysgu
- Jodene Jenkinson
- Janet Best
- Jodie Rees
- Dr Alison Straker
- Darlithwyr gwadd
Lleoliadau
Bydd y rhan fwyaf o'r ymgeiswyr eisoes yn gweithio ym maes cymorth dysgu. Fodd bynnag, i'r rhai sy'n gobeithio dechrau gweithio yn y sector cymorth dysgu, byddwn yn helpu i ddyrannu lleoliad addas ar eu cyfer.
Bydd gan fyfyrwyr fentor lleoliad i'w helpu a'u hasesu yn ystod eu cyfnod ar leoliad, a byddant hefyd yn cael eu cefnogi a'u hasesu gan eu tiwtor yn y brifysgol. Bydd pob blwyddyn o'r lleoliad yn cynnwys:
- 50 awr wedi'u cofnodi ar leoliad mewn rôl cymorth dysgu
- Dau arsylwad gan eich tiwtor ym Mhrifysgol De Cymru neu eich mentor lleoliad. Bydd un arsylwad gyda grŵp o ddysgwyr a bydd y llall gyda dysgwr unigol
- Defnydd rheolaidd o ddyddiadur myfyriol
Cyfleusterau
Caiff y rhan fwyaf o'r cwrs ei gyflwyno ar-lein gan ddefnyddio Blackboard Collaborate. Caiff y sesiynau ar y campws (tair y flwyddyn) eu cynnal ar gampws y ddinas Prifysgol De Cymru fel y gallwch ymgyfarwyddo â'r mannau dysgu deniadol ac amrywiol sydd ar gael yn y Brifysgol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cael cyfle i rannu arferion da a dysgu gan arweinwyr yn y sector.
Bydd cyfleusterau llyfrgell ar gael ar bob campws a bydd adnoddau ar-lein ar gael hefyd.
Pam Prifysgol De Cymru?
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg – Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg (Complete University Guide 2023)
Pam Prifysgol De Cymru?
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg – Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg – Tabl Cynghrair y Guardian 2023
Y gorau yng Nghymru o ran Rhagolygon i Raddedigion ym myd Addysg (Complete University Guide 2023)