PGDip

Meddygaeth Anadlol

Mae'r cwrs Diploma Ôl-raddedig hwn mewn Meddygaeth Anadlol yn gyfle i chi archwilio ac astudio'r prif ddosbarthiadau o glefyd anadlol.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae'r Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Anadlol, a gynhelir gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn eich galluogi i gymhwyso gwybodaeth er budd clinigol uniongyrchol ac astudio mewn meddygaeth anadlol yn y dyfodol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bwriedir y Diploma Ôl-raddedig ar gyfer Meddygon, Meddygon Teulu, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Nyrsys Practis neu'r rheini sydd â chymwysterau proffesiynol cyfatebol a phrofiad cefndir.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Meddyg
  • Meddyg Teulu
  • Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
  • Nyrs Practis

 

Trosolwg o'r Modiwl

  • Meddygaeth anadlol – Symptomau, Arwyddion ac Ymchwiliadau
  • Asthma ac Alergedd
  • Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint
  • Oncoleg Thorasig a Chlefyd Eisbilennol
  • Heintiau Anadlol; Diagnosis a Rheolaeth
  • Gorwel Anadlol Ehangach

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Bydd tiwtoriaid ymroddedig a phrofiadol yn cyflwyno cynnwys y cwrs, a bydd disgwyl i chi gyfathrebu'n uniongyrchol, a chymryd rhan weithredol mewn trafodaethau ar y fforwm. Byddwch yn cymryd rhan mewn prosiectau unigol a grŵp drwy gydol eich astudiaethau.

Staff addysgu

Cyflwynir y Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Anadlol gan fwrdd sydd ag enw da yn rhyngwladol ym maes meddygaeth anadlol ac addysg iechyd:

  • Dr Ramsey Sabit, Ymgynghorydd Meddygaeth Anadlol, Cyfarwyddwr y Cwrs
  • Yr Athro Mark Williams, Arweinydd y Cwrs

Mae ein tiwtoriaid yn arbenigwyr cydnabyddedig mewn meddygaeth anadlol ac addysg
iechyd ac yn brofiadol mewn cyflwyno dysgu ar-lein.

Cyfleusterau

Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.

 

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Cymorth gyrfaoedd

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd dosbarth cyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Ystyrir gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.

Gofynion Ychwanegol:

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Cyfeiriwch at wefan ein partner cydweithredol.

Gwefan Learna

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.