Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol
Datblygu sgiliau datrys problemau a chlinigol ynghyd â pharatoi myfyrwyr i gymryd rôl arwain yn y maes meddygol hwn.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol yn darparu dull integredig unigryw o ymdrin â meddygaeth gardiofasgwlaidd ataliol, a bydd yn canolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion gwyddonol i ofal uniongyrchol i gleifion.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae'r cwrs yn creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol.
Mewn partneriaeth â
Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Meddyg Teulu
- Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
- Nyrs Practis
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau
- Sgiliau clinigol
Trosolwg o'r Modiwl
Bydd y cwrs yn darparu dull integredig o ymdrin â meddygaeth gardiofasgwlaidd ataliol, gan ganolbwyntio ar gymhwyso egwyddorion gwyddonol i ofal uniongyrchol i gleifion a chreu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a all asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â meddygaeth ataliol gardiofasgwlaidd yn annibynnol.
Egwyddorion Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar yr wyddoniaeth sy'n sail i feddygaeth gardiofasgwlaidd ataliol ac asesu risg gardiofasgwlaidd fel y'i cymhwysir i ymarfer clinigol.
Rheoli Risg Gardiofasgwlaidd
Nod y modiwl hwn yw datblygu dealltwriaeth feirniadol o ffactorau maetheg a ffordd o fyw yn natblygiad clefyd cardiofasgwlaidd.
Metabolaeth Lipid mewn Ymarfer Clinigol
Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o fetaboledd ac anhwylderau lipid, a'u cyflwyniad a'u hasesiad mewn ymarfer clinigol.
Rheoli Anhwylderau Lipid
Mae'r modiwl hwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o fetaboledd ac anhwylderau lipid, a'u cyflwyniad a'u hasesiad mewn ymarfer clinigol.
Gorbwysedd: Diagnosis a Rheolaeth
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o bathoffisioleg a rheolaeth gorbwysedd.
Meddygaeth Gardiofasgwlaidd Ataliol mewn Sefyllfaoedd Arbennig
Mae'r modiwl hwn yn ymwneud ag ennill dealltwriaeth feirniadol o feddygaeth gardiofasgwlaidd ataliol mewn amrywiaeth eang o gyflyrau clinigol perthnasol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd dosbarth cyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Ystyrir gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.
Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Er y byddwch chi'n dysgu ar-lein, byddwch chi'n rhan o grŵp gyda 10 i 15 o fyfyrwyr eraill. Bydd eich dysgu o bell hunangyfeiriedig yn cael ei arwain gan drafodaeth wedi'i hysgogi gan diwtor yn seiliedig ar senarios achos sy'n gyfoethog yn glinigol.
Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.
Staff addysgu
Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.
Cyfleusterau
Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.