PGDip

Meddygaeth Arennol

Mae'r cwrs, a gaiff ei gyflwyno gyda'n Diploma MSc partner cydweithredol wedi'i fwriadu'n benodol ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nad ydyn nhw'n arbenigwyr arennol ond sy'n aml yn gweld cleifion sy'n arddangos symptomau clefyd yr arennau.

Sut i wneud cais

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

Ffioedd

Mae gan gynnwys y cwrs ffocws clinigol. Fe'i cynlluniwyd yn seiliedig ar ymchwil helaeth gydag ymarferwyr gofal sylfaenol, mae'n berthnasol iawn ac mae'n cynnwys y datblygiadau diweddaraf mewn meddygaeth arennol.

Dyluniwyd ar gyfer

Mae'r arbenigwr nad yw'n arbenigwr mewn arennau'n dod ar draws clefyd yr arennau yn aml mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, felly mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen angen y sgiliau a'r wybodaeth.

Mewn partneriaeth â

  • Learna | Diploma MSc

Llwybrau Gyrfa

  • Arbenigwr Arennau 
  • Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol

Sgiliau a addysgir

  • Sgiliau Clinigol 
  • Ymchwil

Trosolwg o'r Modiwl

Bydd y Diploma Ôl-raddedig mewn Meddygaeth Arennol yn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth i weithwyr gofal iechyd proffesiynol presennol i ymdrin â chleifion arennol yn hyderus ac yn effeithiol. Bydd y cwrs yn cynnwys chwe modiwl, pob un yn para chwe wythnos, a astudir mewn un flwyddyn galendr, yn gyfan gwbl ar-lein.

Adnabod Anaf Acíwt yr Arennau a Chlefyd Cronig yr Arennau
Mae’n rhoi’r wybodaeth a'r sgiliau i chi allu mynd ati’n hyderus i ddiagnosio a chychwyn rheolaeth cleifion ag anaf acíwt yr arennau (AKI) a chlefyd cronig yr arennau (CKD).

Rheoli Anaf Arennau Acíwt
Rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi allu rheoli cleifion AKI yn hyderus a deall pryd mae atgyfeirio i ofal eilaidd yn briodol ac yn angenrheidiol.

Rheoli Clefyd Cronig yr Arennau
Eich helpu i reoli cleifion CKD yn hyderus a deall pryd mae atgyfeirio i ofal eilaidd yn briodol ac yn angenrheidiol.

Cyflyrau Systemig sy'n Effeithio ar yr Arennau
Rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr i chi o glefyd systemig ar yr aren a sut i ddarparu gofal ar sail tystiolaeth ar gyfer y cyflyrau cymhleth hyn.

Cleifion Dialysis a Thrawsblaniad mewn Gofal Sylfaenol
Mae’n eich galluogi i reoli problemau meddygol a llawfeddygol cyffredinol yn hyderus yn y claf dialysis a thrawsblaniad o safbwynt gofal sylfaenol.

Byw gyda Chlefyd yr Arennau
Mae’n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth ichi  ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar y claf sy'n eu grymuso i gael gafael ar gyngor gofal iechyd ac opsiynau triniaeth sy'n berthnasol i'w hamgylchiadau, a'u helpu i wneud penderfyniadau gwybodus sy'n cynyddu ansawdd eu bywyd i'r eithaf.

Achrediadau a Phartneriaethau

Mewn partneriaeth â

Gofynion Mynediad

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol. 

Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch chi'n gwneud cyfuniad o brosiectau unigol a grŵp, a bydd gennych bortffolio ymarfer myfyriol i'ch helpu chi i ystyried sut y gellir trosi'r hyn rydych chi'n ei ddysgu ar y cwrs yn waith ac ymarfer bob dydd.

Ar ôl i chi sicrhau eich lle ar y cwrs, fe'ch gwahoddir i Weminar Diwrnod Sefydlu Ar-lein.

Staff addysgu

Cewch eich addysgu gan Richard Smith, Neffrolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Meddygol Cyswllt ar gyfer Ymchwil ac Arloesi yn Ysbyty Ipswich, sef cyfarwyddwr y cwrs.

Cewch gefnogaeth tîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gydag unrhyw heriau y gallech eu hwynebu - o help i lywio eich ffordd o gwmpas ein platfform dysgu ar-lein i gyngor ar yr hyn y mae angen i chi ei wneud i basio'r cwrs a bodloni terfynau amser.

Cyfleusterau

Cyflwynir y cwrs drwy Moodle – ein platfform dysgu rhithwir. Cewch arweiniad llawn ar sut i wneud y gorau o Moodle, gan gynnwys y fforymau trafod a'r fforwm cymdeithasol. Cewch fynediad at holl ddeunyddiau dysgu'r Brifysgol hefyd, gan gynnwys cyfnodolion a chyhoeddiadau ar-lein.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

Mewn ymarfer clinigol, mae'r arbenigwr nad yw'n arbenigwr arennau yn dod ar draws clefyd yr arennau yn aml, mewn gofal sylfaenol ac eilaidd, yn enwedig gan ei fod yn gymhlethdod mewn cyflyrau cyffredin, megis diabetes a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Felly, mae angen i'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y rheng flaen, gan gynnwys gofal sylfaenol ac unedau arbenigol, feddu ar y sgiliau a'r wybodaeth i ymdrin â darpar gleifion neffroleg yn hyderus ac yn effeithiol. Bydd y cwrs yn rhoi'r gallu a'r wybodaeth hon i chi.

Sut i wneud cais

Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.

Gwefan Learna