Meddygaeth Wrth-Heneiddio
Mae gwybodaeth arbenigol mewn rheoli oedran yn chwarae rhan ganolog wrth wella lles ac ansawdd bywyd ymhlith y genhedlaeth hŷn. Mae ein Tystysgrif Ôl-raddedig ar-lein a rhan-amser mewn meddygaeth wrth-heneiddio wedi'i chynllunio i baratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel chi gyda'r sgiliau angenrheidiol i helpu i reoli'r broses heneiddio.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Trwy gydweithio â chyd-fyfyrwyr o ranbarthau daearyddol amrywiol, byddwch yn cymryd rhan mewn cydweithrediad syniadau a fydd yn ehangu eich persbectif. Byddwch hefyd yn meithrin ymagweddau arloesol at ymyriadau a thriniaethau gwrth-heneiddio.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd ein gradd yn gwella eich sgiliau cyflogadwyedd technegol, ymarferol ac allweddol, yn eich eithrio rhag cymwysterau proffesiynol ac yn cynnig pynciau arbenigol sy’n ychwanegu gwerth.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Ymarferwyr esthetig
- Nyrsys arbenigol endocrin ac endocrinolegwyr
- Gofal sylfaenol - meddygon teulu preifat
- Dietegwyr
- Fferyllwyr
Y sgiliau a addysgir
- Sgiliau datrys problemau uwch
- Gwerthuso tystiolaeth
- Gwybodaeth systematig o'r ymchwiliad a rheolaeth ar sail tystiolaeth mewn meddygaeth gwrth-heneiddio
- Dadansoddiad beirniadol o fesurau biolegol, epigenetig a ffisiolegol i asesu heneiddio
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Bydd y rhaglen hon yn darparu'r wybodaeth ddiweddaraf sydd ei hangen i fynd i'r afael yn effeithiol â'r sylfaen dystiolaeth mewn ffisioleg, bioleg, epigeneteg, estheteg sy'n ymwneud â meddygaeth hirhoedledd. Mae'r rhaglen hefyd yn darparu dull dysgu hyblyg sy'n gweddu i’ch amserlen, gan eich galluogi i gydbwyso addysg â'ch ymrwymiadau presennol.
Ar ôl cwblhau'r rhaglen, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ddilyn swyddi arbenigol amrywiol sy'n ymgorffori agweddau eang ar feddygaeth wrth-heneiddio, yn ogystal â dilyniant i Ddiploma Ôl-raddedig a MSc, i ddylanwadu ar ddatblygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y maes hwn, a chyfrannu at ymchwil mewn gwyddoniaeth heneiddio.
Gwyddoniaeth ac Endocrinoleg Heneiddio
Nod y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o'r sylfaen wyddonol a'r mecanweithiau endocrinolegol sy'n sail i'r broses heneiddio. Bydd yn archwilio'r newidiadau ffisiolegol allweddol sy'n gysylltiedig â heneiddio a rôl y system endocrin yn y broses gymhleth hon. Bydd cyfranogwyr yn ymchwilio i'r ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf yn y maes, gan eu paratoi i nodi a gwerthuso pryderon iechyd sy'n gysylltiedig ag oedran mewn lleoliad gofal iechyd, gan gynnwys mesurau biolegol heneiddio.
Strategaethau Gwrth-heneiddio Cosmetig ac Esthetig
Mae'r modiwl hwn yn archwilio dulliau gwrth-heneiddio cosmetig ac esthetig, gan ganolbwyntio ar arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n gwella lles a hunan-fri cleifion. Bydd cyfranogwyr yn ymchwilio i wahanol dechnegau nad sy’n cynnwys llawdriniaeth a thechnegau gyda’r driniaeth leiaf posibl, gan asesu’n feirniadol eu heffeithiolrwydd, diogelwch ac ystyriaethau moesegol. Nod y modiwl yw paratoi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gyda'r wybodaeth i gynghori cleifion ar yr ymyriadau cosmetig diweddaraf wrth flaenoriaethu diogelwch cleifion a phenderfynu gwybodus.
Ymyriadau Gwrth-heneiddio Therapiwtig
Mae'r modiwl hwn yn canolbwyntio ar ymyriadau therapiwtig sy'n targedu cyflyrau sy'n gysylltiedig ag oedran ac yn hyrwyddo heneiddio'n iach. Bydd cyfranogwyr yn archwilio ymyriadau ffarmacolegol, ymyriadau maethol ac ymyriadau o fewn ffordd o fyw, gan asesu'n feirniadol eu buddion a'u risgiau posibl. Rhoddir pwyslais ar arferion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gofal personol i optimeiddio canlyniadau cleifion. Nod y modiwl yw grymuso gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i weithredu strategaethau therapiwtig arloesol i wella ansawdd bywyd cleifion wrth iddynt heneiddio.
Gofynion Mynediad
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
I sicrhau eich lle ar y cwrs, fel arfer bydd gan ymgeiswyr radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn pwnc perthnasol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
* Rhwymedig
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Cynhelir ein cyrsiau yn gyfan gwbl ar-lein trwy ddysgu o bell hunangyfeiriedig. Byddwch yn derbyn arweiniad trwy gydol eich cwrs gyda thrafodaethau academaidd wedi'u hysgogi gan diwtor, sy'n seiliedig ar senarios achosion clinigol-gyfoethog.
Mae'r rhain fel arfer yn digwydd o fewn grwpiau o 10-20 o fyfyrwyr, sy'n eich galluogi i gyfathrebu'n glir â'ch tiwtor a'ch cyd-fyfyrwyr.
Mae Cyflenwi Ar-lein o Bell yn fodd o gyflwyno ar gyfer myfyriwr unigol sy’n astudio cwrs yn gyfan gwbl ar-lein heb unrhyw hyfforddiant yn cael ei ddarparu na’i gefnogi trwy ddulliau wyneb yn wyneb sy’n rhoi elfen gref o reolaeth dros amser, lleoliad a chyflymder y cyflwyno.
Staff addysgu
Byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau gan dîm ymroddedig o arbenigwyr addysgol a gydnabyddir yn rhyngwladol.
Mae'r rhaglen yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael trafodaeth gan gymheiriaid dan arweiniad tiwtor ar bynciau allweddol gydag ymagwedd amlddisgyblaethol, gan archwilio cymhwysiad realistig gyda chyrhaeddiad byd-eang. Bydd myfyrwyr yn cael cynnig y cyfle i wella eu sgiliau ymchwil, cyfathrebu, datrys problemau, sgiliau TG a'r hyder a'r gwydnwch sydd eu hangen i ddefnyddio eu menter eu hunain a rheoli eu hamser yn effeithiol.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna