PGDip

Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol - Nyrsio Ysgolion

Bydd y Diploma Ôl-raddedig (PGDip) mewn Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (Nyrsio Ysgol) yn paratoi nyrsys a bydwragedd i fod yn Nyrsys Iechyd Cyhoeddus Cymunedol Arbenigol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

Byddwch yn ennill y wybodaeth a’r sgiliau, ac yn gwella’r sgiliau rhyngbersonol a'r galluoedd rheoli sydd eu hangen i ymarfer yn hyderus, yn gymwys ac yn effeithiol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Nyrsys a bydwragedd sy'n dymuno gweithio ym maes gofal sylfaenol yn hyrwyddo iechyd a lles i blant, teuluoedd a chymunedau, gan gynnig rhaglen wedi’i threfnu o wasanaethau, wedi'u seilio ar dystiolaeth a pholisi i blant oed ysgol a’u teuluoedd.

Wedi'i gymeradwyo gan

  • Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth

Llwybrau gyrfa

  • Nyrsio Ysgol
  • Arweinydd Imiwneiddio
  • Arbenigwr Diogelu
  • Nyrs Arweiniol ar gyfer Nyrsio mewn Ysgolion a Phlant sy'n Derbyn Gofal
  • Nyrs Datblygu Ymarfer Nyrsio mewn Ysgolion
  • Rheolwr Nyrsio Iechyd y Cyhoedd yn y Gwasanaethau Nyrsio Ysgol
  • Addysg Uwch

Sgiliau a addysgir

  • Arwain a Gweithio mewn Tîm
  • Cyfathrebu Soffistigedig
  • Asesu a Chwilfrydedd Proffesiynol
  • Llythrennedd Iechyd
  • Gwerthuso Beirniadol 

Uchafbwyntiau’r Cwrs

Dyblygu Bywyd Go Iawn

Trwy ein Canolfan Efelychu Hydra a'n Canolfan Efelychu Clinigol, gallwn atgynhyrchu profiadau ymarfer yn effeithiol mewn amgylchedd diogel â chymorth.

Lleoliadau Diwydiant

Cynhelir lleoliadau gwaith o fewn y bwrdd iechyd sy’n cyflogi/cynnal.

Rhagolygon Gyrfa Amrywiol

Mae graddedigion fel arfer yn cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd lleol y GIG fel nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol – ymwelwyr iechyd ac mewn rolau ymwelwyr iechyd arbenigol eraill.

Trosolwg o’r Modiwl

Bydd cwblhau'r modiwlau yn llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais i'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (CNB) am gofrestriad Rhan Tri fel NICCA (Nyrsio Ysgol) a gorffen y cwrs gyda Diploma Ôl-raddedig ar ddiwedd blwyddyn os yn astudio'n llawn amser neu ar ddiwedd blwyddyn 2 os yn astudio'n rhan amser.

Blwyddyn Un
Ymchwil ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth; trawsnewid ymarfer NICCA
Asesu, Gwyliadwriaeth ac Ymyrryd i wella deilliannau iechyd y boblogaeth 
Gwella a Hybu Iechyd a Lles y Boblogaeth gydol oes 
Diogelu ac amddiffyn unigolion, cymunedau a phoblogaethau
Arwain, cydweithio a hyrwyddo gwasanaethau NICCA 
Datblygu Ymarfer Annibynnol  mewn Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol

Blwyddyn Dau
Datblygu Ymarfer Annibynnol mewn Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol 
Arwain, cydweithio a hyrwyddo gwasanaethau NICCA 
Diogelu ac amddiffyn unigolion, cymunedau a phoblogaethau 

Ymchwil ac ymarfer yn seiliedig ar dystiolaeth; trawsnewid ymarfer NICCA (Blwyddyn 1 rhan-amser)
Datblygu gwybodaeth a sgiliau uwch i werthuso, cloriannu a chymhwyso dulliau ymchwil, ystadegau a chysyniadau epidemiolegol yn feirniadol o fewn maes ymarfer nyrsio iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol mewn ysgolion

Asesu, Gwyliadwriaeth ac Ymyrryd i wella deilliannau iechyd y boblogaeth (Blwyddyn 1 rhan-amser)
Datblygu gwybodaeth uwch am theori cyfathrebu a datblygu perthnasoedd mewn amgylcheddau cymhleth gyda phoblogaethau amrywiol. Cymhwyso theori, ymchwil ac offer i asesu datblygiad, ymlyniad, iechyd a lles corfforol ac emosiynol. Gwerthuso strategaethau asesu ac archwilio damcaniaethau bio-seicogymdeithasol yn feirniadol, ynghyd â pherthynas unigolion, cymunedau a phoblogaethau ag iechyd a lles.

Gwella a Hybu Iechyd a Lles y Boblogaeth gydol oes (Blwyddyn 1 rhan-amser)
Datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr ymhellach o ran  cysyniadau ynghylch elfennau lleol, cenedlaethol a byd-eang o iechyd y cyhoedd. Cefnogi myfyrwyr i archwilio, dadansoddi a syntheseiddio data epidemiolegol a demograffig yn feirniadol i nodi anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion cymdeithasol ac ymddygiadol sy'n effeithio ar deilliannau iechyd poblogaethau er mwyn argymell mentrau hyrwyddo iechyd i wella deilliannau iechyd. 

Diogelu ac amddiffyn unigolion, cymunedau a phoblogaethau    
Gwerthuso'r egwyddorion, polisïau, fframweithiau deddfwriaethol a moesegol sy'n ymwneud â grwpiau agored i niwed, asesiadau risg a diogelu yn feirniadol ac archwilio’n feirniadol ffyrdd y gall ymarferydd NICCA Nyrsio mewn Ysgolion reoli risgiau sy'n ymwneud ag unigolion, teuluoedd a chymunedau yn effeithiol o fewn fframwaith rhyng-asiantaethol

Arwain, cydweithio a hyrwyddo gwasanaethau NICCA    
Galluogi cyfranogwyr i archwilio damcaniaethau a gyrwyr arweinyddiaeth yn feirniadol, gan gynnwys datblygu polisïau sy'n hwyluso newid personol, proffesiynol a sefydliadol ym maes ymarfer NICCA Nyrsio mewn Ysgolion. Galluogi cyfranogwyr i ddadansoddi a gwerthuso  cydweithredu a chyd-gynhyrchu yn feirniadol drwy gymhwyso’r gwaith o rheoli newid a gwelli ansawdd ym maes ymarfer NICCA Nyrsio mewn Ysgolion.

Datblygu Ymarfer Annibynnol  mewn Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol    
Helpu i gyflawni hyfedredd mewn NICCA, yn gyffredinol ac mewn meysydd penodol, yn Nogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan ar lefel gymwys neu uwch. Datblygu annibyniaeth broffesiynol ymarferwyr NICCA fel arweinwyr a hwyluswyr yn eu maes ymarfer

Datblygu Ymarfer Annibynnol mewn Nyrsio Iechyd y Cyhoedd Cymunedol Arbenigol (Blwyddyn 2 rhan-amser)

Arwain, cydweithio a hyrwyddo gwasanaethau NICCA (Blwyddyn 2 rhan-amser)

Diogelu ac amddiffyn unigolion, cymunedau a phoblogaethau (Blwyddyn 2 rhan-amser)

Dysgu ac Addysgu

Sut y byddwch chi'n dysgu

Bydd dysgu ac asesu yn digwydd yn y Brifysgol ac mewn ystod o amgylcheddau ymarfer. Byddwch yn cael eich asesu drwy ystod o ddulliau gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniad llafar, cyflwyniad poster, arholiadau, cyflwyniad wedi'i recordio ac asesiadau ymarfer clinigol.

Staff addysgu

  • Dwynwen Spargo (Arweinydd y Cwrs)
  • Dr Michelle Thomas
  • Hayley Lewis
  • Precious O’Driscoll
  • Dr. Anne-Marie Coll
  • Dr. Joseph Sunday
  • Arbenigwyr Allanol

Lleoliadau a phrofiad gwaith

Cynhelir lleoliadau gwaith o fewn y bwrdd iechyd sy’n cyflogi/cynnal. Gall myfyrwyr ymgymryd â lleoliad gwaith amgen wythnos o hyd mewn lleoliad daearyddol gwahanol. Sylwer, nid oes cyllid ar gyfer hyn.

Mae'r lleoliadau gwaith o fewn byrddau iechyd yng Nghymru a disgwylir i fyfyrwyr weithio ym maes Ymwelwyr Iechyd yng Nghymru unwaith y cwblheir y cwrs.

Cyfleusterau

Trwy addysgu Hybrid, yn defnyddio cyfleusterau addysgu ar y campws a'r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADRh), yn ogystal â Chanolfan Efelychu Hydra a’r Ganolfan Efelychu Clinigol, rydym yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu gan ddefnyddio gweithdai, darlithoedd, tiwtorialau, a gwaith grŵp amlddisgyblaethol. 

Achrediadau a Phartneriaethau

Wedi'i gymeradwyo gan

Gyrfa a chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedig

Fel arfer, mae graddedigion yn cael eu cyflogi gan fyrddau iechyd lleol y GIG fel nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol Nyrsio Ysgol ac mewn rolau arbenigol eraill yn Addysg a Gwelliant Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a thimau arbenigol eraill.

Llwybrau gyrfa posibl

  • Nyrsio Ysgol
  • Arweinydd Imiwneiddio
  • Arbenigwr Diogelu
  • Nyrs Arweiniol ar gyfer Nyrsio mewn Ysgolion a Phlant sy'n Derbyn Gofal
  • Nyrs Datblygu Ymarfer Nyrsio mewn Ysgolion
  • Rheolwr Nyrsio Iechyd y Cyhoedd yn y Gwasanaethau Nyrsio Ysgol
  • Addysg Uwch

GOFYNION MYNEDIAD

  • Mae angen cymwysterau proffesiynol ac academaidd ar ymgeiswyr. Rhaid i chi gael cofrestriad proffesiynol CNB yn Rhan Un a/neu Ran Dau Cofrestr CNB fel Nyrs Gofrestredig a/neu Fydwraig Gofrestredig.
  • Dylai ymgeiswyr fel arfer gael gradd Anrhydedd, er y bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi trwy fecanwaith achredu dysgu blaenorol a thrwy brofiad (APEL) os nad oes gennych y cymwysterau hyn.

Noder, y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Hydref 2025.

Gofynion ychwanegol 

Bydd darpar ymgeiswyr yn cael eu cyfweld gan dîm y cwrs, aelodau o’r ymddiriedolaeth GIG sy'n darparu’r lleoliadau myfyrwyr ar gyfer 50% o hyd y cwrs, a defnyddiwr gwasanaeth.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu gwahodd i gyfweliad gyda staff y brifysgol, y byrddau iechyd a defnyddwyr gwasanaeth. Fel arfer, bydd ymgeiswyr yn gweithio i fwrdd iechyd yng Nghymru ar adeg y cais. Ar hyn o bryd ariennir ffioedd y cwrs a chyflog yr ymgeiswyr gan Addysg a Gwell Iechyd Cymru. Dylai ymgeiswyr drafod eu cais gyda'u rheolwr a sicrhau secondiad i'r cwrs lle bo hynny'n bosibl. Bydd angen geirda i gefnogi’r cais.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) ar y Rhestr Gweithlu Plant ac Oedolion a’r Rhestr Gwahardd Plant ac Oedolion ac mae angen tanysgrifiad â  Gwasanaeth Diweddaru’r GDG. (Y system gyfatebol yn ofynnol ar gyfer ymgeiswyr nad ydynt yn y DU).

Modiwlau atodol MSc

Os ydych chi'n gwneud cais am y modiwlau atodol MSc, trafodwch absenoldeb astudio am y 9 diwrnod astudio gyda'ch rheolwr a gwnewch yn siŵr bod cyllid ar gael ar gyfer y modiwlau cyn cyflwyno'ch cais. Wrth wneud cais, gwnewch yn glir yn eich datganiad personol eich bod chi'n gwneud cais i atodi'r PgDip i MSc. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am y modiwlau hyn yw 1 Rhagfyr.

Ar gau i ymgeiswyr rhyngwladol

Yn anffodus, nid yw'r cwrs hwn yn agored i ymgeiswyr rhyngwladol ar hyn o bryd, ewch i'n tudalennau cwrs lle gallwch ddod o hyd i ddewis arall o gyrsiau.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£7,373

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£11,934

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Mae angen poster A1

Cost: £15

Mae angen gwiriad DBS uwch ar gyfer y cwrs hwn

Cost: £49.50

Blwyddyn 1 llawn amser a Blwyddyn 1 a 2 rhan amser. Bydd costau lleoliad gwaith yn amrywio yn dibynnu ar ble mae'r myfyriwr yn cael ei leoli, ond gellir adennill rhai costau.

Cost: Amrywiol

Mae costau presenoldeb mewn cynadleddau a gweithgareddau allgyrsiol yn newidiol, gyda rhai yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, mae'r rhain yn gyfleoedd dewisol ac allgyrsiol. Mae costau'n amrywio yn dibynnu ar y digwyddiad a'r lleoliad.

Cost: Yn amrywio yn dibynnu ar y digwyddiad a'r lleoliad.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.