Peirianneg Awyrofod
Paratowch eich hun ar gyfer gyrfa yn y diwydiant awyrofod. Datblygwch arbenigedd perthnasol a chael profiad ymarferol gan ddefnyddio’r cyfleusterau o’r radd flaenaf ym Mhrifysgol De Cymru.
Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Archebu lle ar Ddiwrnod Agored Sgwrsio gyda ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-aerospace/Engineering-Showcase_38923.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
H502
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Nod y radd hon yw rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau i chi symud ymlaen i weithio yn y diwydiant awyrofod. Mae’r cwrs llawn yn cynnwys profiad hedfan byw, sy’n cael ei atgyfnerthu gan waith SIM yn yr efelychydd hedfan. Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant, ac rydym yn annog lleoliadau diwydiannol fel rhan o opsiwn blwyddyn ryngosod.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae gan beirianwyr awyrofod feddwl chwilfrydig, ac maen nhw’n dymuno deall sut mae pethau’n gweithio a sut mae defnyddio gwybodaeth i ddatrys problemau’r diwydiant. Er bod llawer o'n myfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd yn y sectorau awyrofod, mae'r cwrs hefyd yn cynnig sylfaen academaidd i'r rheini sydd â diddordeb mewn gyrfa fel Peiriannydd Mecanyddol.
Bod yn barod ar gyfer y diwydiant
Cynlluniwyd y cwrs i fodloni gofynion achredu'r RAeS ac IMechE ar gyfer statws Peiriannydd Siartredig.
Llwybrau Gyrfa
- Peiriannydd Ardystio ac Addasrwydd i Hedfan
- Peiriannydd Dylunio
- Peiriannydd Mecanyddol
- Rheoli Prosiect
- Peiriannydd Ymchwil
Y sgiliau a addysgir
- Datrys problemau drwy ddadansoddi, gan ddefnyddio damcaniaethau gwyddonol a pheirianyddol
- Gwybodaeth uwch o dechnoleg arloesol
- Gweithio mewn tîm, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Deall cyfrifoldebau proffesiynol
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-aerospace/subject-aerospace-engineering-equipment-42004.jpg)
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Trosolwg o’r Modiwl
Mae'r radd hon yn cyfuno dadansoddi mathemategol â dylunio ymarferol, gan roi hyblygrwydd i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf newid cyrsiau. O'r ail flwyddyn, cyflwynir modiwlau awyrofod unigryw. Wedi’i gynllunio i ystyried anghenion y diwydiant, mae Prifysgol De Cymru yn rhagori o ran lleoli graddedigion mewn rolau allweddol. Mae'r cwrs yn gwella sgiliau meddal, galluoedd rheoli ac ymchwil ar gyfer gyrfaoedd ym maes arweinyddiaeth peirianneg fodern.
Mae blwyddyn gyntaf y rhaglen beirianyddol hon yn darparu egwyddorion ac arferion gwyddonol hanfodol sy’n gysylltiedig â pheirianneg awyrenegol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i ddefnyddio offer dylunio a thechnegau gweithgynhyrchu / gweithdai cyffredinol. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae defnyddio pecynnau CAD safonol yn y diwydiant ac iaith rhaglennu.
Mathemateg ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol - 20 credyd
Dylunio a Gweithgynhyrchu - 20 credyd
Cymwysiadau Cyfrifiadura Peirianneg - 20 credyd
Mecaneg Beirianyddol 1 - 20 credyd
Gwyddor Drydanol - 20 credyd
Thermohylifau 1 - 20 credyd
Mae ail flwyddyn y rhaglen beirianyddol hon yn cynnwys modiwlau sy'n unigryw i'r cwrs peirianneg awyrofod. Yn ystod ail flwyddyn y cwrs byddwch yn archwilio meysydd allweddol ym maes peirianneg awyrofod, ochr yn ochr â thechnoleg roced a gofod a dylunio awyrofod sy'n unigryw i'r cwrs peirianneg awyrofod.
Rheolaeth ac Offeryniaeth - 20 credyd
Thermohylifau 2 - 20 credyd
Deunyddiau Peirianyddol - 20 credyd
Mathemateg Peirianyddol Pellach - 20 credyd
Technoleg Roced a Gofod - 20 credyd
Dylunio Awyrofod - 20 credyd
Mae’r flwyddyn hon yn adeiladu ar y blynyddoedd blaenorol yn y cwrs peirianneg awyrofod ac yn cynnig modiwlau pellach sy’n unigryw i’r cwrs hwn, gan gynnwys gyriant awyrofod, sy’n ystyried hedfan ar gyflymder sy’n uwch na Mach 1, a strwythurau a deunyddiau awyrofod, sy’n ystyried yr heriau unigryw sy’n codi wrth ddelio â strwythurau sydd wedi’u cynllunio i’w defnyddio y tu allan i’r atmosffer ac sy’n ddarostyngedig i rymoedd sy’n deillio o gyflymderau lansio nodweddiadol.
Prosiect Grŵp MEng Integreiddiol - 40 credyd
Dadansoddi Cyfrifiadurol Peirianneg - 20 credyd
Dynameg Hedfan Awyrennau - 20 credyd
Gyriant Awyrofod - 20 credyd
Strwythurau a Deunyddiau Awyrofod - 20 credyd
Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth (Dewisol - 120 credyd)
Mae blwyddyn olaf y cwrs gradd MEng Awyrofod yn cynnwys mwy o bynciau sy'n unigryw i beirianneg awyrofod, wrth adeiladu ar y sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygwyd yn y blynyddoedd blaenorol. Yn unigryw i'r cwrs hwn mae modiwlau fel rheoli amgylcheddol y gofod, systemau awyrofod ac aerothermodynameg sy'n ystyried cymwysiadau yn y sector gofod.
Prosiect Unigol - 40 credyd
Aeroelastigedd - 10 credyd
Rheoli Amgylcheddol y Gofod - 10 credyd
Rheoli Peirianneg Proffesiynol - 20 credyd
Systemau Awyrofod - 20 credyd
Aerothermodynameg - 20 credyd
Uchafbwyntiau’r Cwrs
Sut y byddwch chi'n dysgu
Gallwch astudio’r radd hon ar sail amser llawn ac mae hefyd yn cynnig lleoliad gwaith rhyngosod os byddwch yn penderfynu bod hwn yn llwybr priodol i chi.
Addysgir y rhaglen awyrofod hon drwy ddarlithoedd, a gefnogir gan diwtorialau, sesiynau ymarferol a grwpiau seminar. Lle bynnag y bo modd, bydd eich gwaith yn seiliedig ar brosiectau byw ac astudiaethau achos, gyda chyfraniadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.
Mae amrywiaeth o ddulliau asesu, fel arholiadau llyfr caeedig ffurfiol, gwaith grŵp, prosiectau unigol, asesiadau llafar ac arbrofion labordy.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-aerospace/Flight-Simulator-Exercise_41502-1-533X533.jpg)
Staff Addysgu
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau ystod eang o arbenigedd yn eu meysydd pwnc.
Mae rhai wedi datblygu’r arbenigedd hwn drwy waith ymchwil o ansawdd uchel. Mae’r meysydd ymchwil yn rhyngwladol eu cwmpas ar yr un pryd â bod yn berthnasol yn lleol, gan weithio’n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy’n gweithredu’n lleol.
Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd drwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maent bellach yn defnyddio'r wybodaeth honno i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd a gynrychiolir ymhlith ein staff academaidd yn rhoi ehangder i brofiad y myfyrwyr ac yn eu datblygu yn dechnegol a phroffesiynol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-aerospace/msc-aeronautical-engineering.png)
Lleoliadau
Rydym yn gwybod gwerth profiad gwaith a lleoliadau, ac rydym yn frwd dros weld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn gweithio gyda nifer o gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn helpu myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/engineering-aerospace/beng-aerospace-engineering-foundation-year.png)
Cyfleusterau
Mae'r Brifysgol wedi buddsoddi £3.3m yn ei chyfleusterau awyrofod, gan gynnwys estyniad deulawr i'r Ganolfan Awyrofod, sy'n cynnig 1,000m2 o ofod gweithdai a labordai i fyfyrwyr cyrsiau peirianneg, yn ogystal â dau awyrendy ac efelychydd hedfan MP521.
Mae'r Ganolfan yn gartref i awyren Jetstream 31 a gweithdai cynnal a chadw tyrbinau nwy, rhybedion, offer llaw, a weldio. Yn ogystal, mae'n cynnwys gweithdai cyfansawdd glân a budr, labordai i gynnal tasgau electronig, afioneg, hydroleg a niwmateg. Mae twneli gwynt is-sonig yn hwyluso hyfforddiant aerodynameg.
Mae efelychydd Merlin MP521, y gellir ei raglennu ar gyfer unrhyw fath o awyren, yn hanfodol ar gyfer profi dyluniadau a pharatoi ar gyfer profion hedfan.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/01-campus-and-facilities/11-campus-exterior-shots/campus-exterior-treforest-aerospace-centre-40504-2-800X800.jpg)
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/08-subjects/engineering-aerospace/subject-aerospace-engineering-students-50160.jpg)
Ymhlith y 10 uchaf yn y DU
ac ar y brig yng Nghymru ar gyfer Peirianneg Awyrofod
(Canllaw Prifysgolion y Guardian 2025)Gofynion mynediad
Pwyntiau UCAS: 120 (neu uwch)
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
- Lefel A: BBC i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall
- Mynediad i AU: BBC i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall
- Bagloriaeth Cymru: Gradd C a BB ar Lefel A i gynnwys Mathemateg ac un pwnc Gwyddoniaeth arall
- BTEC: Teilyngdod Rhagoriaeth Diploma Estynedig BTEC mewn pwnc Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Mathemateg.
Gofynion ychwanegol:
Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Sut i Wneud Cais
Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).
Mynediad uwch
Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.
Derbyniadau rhyngwladol
Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.