Peirianneg Fecanyddol
Cyfle i baratoi ar gyfer gyrfa ym maes Peirianneg Fecanyddol. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.
Gwneud Cais yn Uniongyrcho Gwneud Cais Drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Manylion Cwrs Allweddol
-
Côd UCAS
L21H
-
Dyddiad Cychwyn
Medi
-
Lleoliad
Pontypridd
-
Côd y Campws
A
Ffioedd
Myfyrwyr cartref
£9,535*
Myfyrwyr rhyngwladol
£16,200*
- Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.
Drwy gyfuno ein gradd BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol â deunydd ar lefel Meistr, mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i ennill bri pellach gyda set uwch o sgiliau proffesiynol a thechnegol. Hefyd, mae'r cwrs Peirianneg Fecanyddol yn dileu'r angen i ddod o hyd i ragor o gyllid i astudio cymhwyster lefel Meistr.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Mae gan beirianwyr mecanyddol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw am ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn. Mae atebion cynaliadwy i feysydd pwysig fel diogelwch ynni, cyflenwadau bwyd a dŵr, trafnidiaeth gynaliadwy ymhlith y meysydd lle mae Peirianwyr Mecanyddol yn cyfrannu eu gwybodaeth.
Achredir gan
- Achredir gan Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), gan ffurfio'r sylfaen addysgol ar gyfer Peiriannydd Corfforedig a, gyda dysgu pellach, statws Peiriannydd Siartredig.
Llwybrau Gyrfa
- Rheolwr Cynhyrchu
- Peiriannydd Biofeddygol
- Rheoli Prosiect
- Peiriannydd Modurol
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau drwy ddadansoddi gan ddefnyddio theori wyddonol a pheirianneg
- Datblygu gwybodaeth am dechnoleg arloesol
- Gwaith tîm, rheoli ac arwain
- Sgiliau cyfathrebu
- Dealltwriaeth o gyfrifoldebau proffesiynol fel cynaliadwyedd a moeseg
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/13-video-thumbnails/video-meng-beng-mech-eng_thumbnail.png)
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Trosolwg o'r Modiwl
Mae'r radd Peirianneg Fecanyddol hon yn cynnwys y gwyddorau cyfrifiadurol, mathemategol a ffisegol sy'n ofynnol i ddylunio, datblygu a chynhyrchu systemau peirianneg amrywiol. Yn ystod y bedwaredd flwyddyn, byddwch yn astudio ar lefel Meistr, lle anogir myfyrwyr i feddwl yn annibynnol a herio damcaniaethau a chanlyniadau.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, cewch eich cyflwyno i rai o'r meysydd pwnc craidd sy'n sail i Beirianneg Fecanyddol. Nod y cwrs yw cyflwyno amrywiaeth o bynciau, fel bod y wybodaeth yn cael ei sefydlu mewn arddulliau addysgu amrywiol.
Mathemateg ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol
Mae'n rhoi hyder i fyfyrwyr mewn mathemateg ac yn dangos perthnasedd mathemateg mewn peirianneg.
Dylunio a Gweithgynhyrchu
Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth sylfaenol am ddylunio peirianyddol a gweithgynhyrchu a deunyddiau ac yn ennill sgiliau mewn ymarfer gweithgynhyrchu.
Rhaglenni Cyfrifiadura Peirianneg
Nod y modiwl hwn yw cyflwyno myfyrwyr i'r defnydd o raglenni cyfrifiadurol ym maes peirianneg drwy raglennu a dylunio â chymorth cyfrifiadur
Mecaneg Peirianneg 1
Mae cynnwys y modiwl yn ymwneud yn uniongyrchol â Mecaneg Peirianneg a Mecaneg Deunyddiau, er mwyn i fyfyrwyr ddysgu am broblemau ym maes mecaneg fel y'u cymhwysir i senarios credadwy y byd go iawn.
Gwyddoniaeth Drydanol
Mae'r modiwl hwn yn cydnabod natur drawsddisgyblaethol peirianneg mewn ymarfer proffesiynol ac yn rhoi cipolwg ar bwysigrwydd gwybodaeth am theori drydanol a dylunio cylched.
Thermohylifau 1
Mae'n rhoi dealltwriaeth sylfaenol i fyfyrwyr o briodweddau mecaneg thermodynamig a hylif ar gyfer hylifau a nwyon.
Mae'r ail flwyddyn yn adeiladu ar sylfeini'r flwyddyn astudio flaenorol, gan ddyfnhau'r wybodaeth a datblygu'r gallu i gymhwyso'r wybodaeth honno i broblemau fwyfwy cymhleth. Mae'r arddull addysgu’n parhau ag ethos ymarferol y rhaglen sy'n seiliedig ar broblemau.
Mathemateg Bellach ar gyfer Peirianwyr Mecanyddol ac Awyrenegol
Mae'r modiwl hwn yn addysgu myfyrwyr i ddewis a chymhwyso amrywiaeth o ddulliau dadansoddi mathemategol i ddatrys problemau peirianneg. Bydd myfyrwyr yn gallu datblygu modelau mathemategol o systemau peirianneg.
Dylunio Peirianneg Gynaliadwy
Mae'r modiwl hwn yn adeiladu ar wybodaeth y myfyriwr am y broses ddylunio ac yn datblygu eu gwybodaeth am y defnydd o ddylunio â chymorth cyfrifiadur yn y broses ddylunio
Mecaneg Peirianneg 2
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i ddadansoddi a datrys problemau mwy datblygedig mewn Stateg a Dynameg. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i nifer o brif egwyddorion gwyddonol sy'n sail i ddylunio a gweithredu systemau peirianneg.
Rheolaeth ac Offeryniaeth
Ar ôl cwblhau'r modiwl hwn yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu asesu ymddygiad statig a dynamig systemau offeryniaeth a rheolaeth drwy ddulliau dadansoddol sylfaenol a theori rheoli mewn parthau amser ac amlder.
Thermohylifau 2
Mae'r modiwl hwn yn ymestyn egwyddorion thermodynameg ac yn eu cymhwyso i amrywiaeth o gymwysiadau peirianneg a diwydiannol. Mae cysyniadau sy'n ymwneud â llif hylif yn cael eu cyfnerthu i alluogi myfyrwyr i ddadansoddi ffenomenau cymhwysol mwy cymhleth.
Deunyddiau Peirianneg
Mae'r modiwl hwn yn datblygu dealltwriaeth o ddulliau safonol o brofi deunyddiau a methiannau mewn deunyddiau. Mae'n datblygu gwybodaeth am y berthynas rhwng strwythur, priodweddau, prosesu ac wedi hynny'r defnydd o ddeunyddiau peirianneg
Mae'r flwyddyn olaf yn atgyfnerthu'r wybodaeth a gafwyd hyd yn hyn ac yn ei datblygu i lefel uwch gyda'r problemau a gyflwynir yn fwy amwys eu natur bellach er mwyn paratoi myfyrwyr ar gyfer ymarfer proffesiynol mewn diwydiant. Mae'r prosiect unigol yn rhan allweddol o'r flwyddyn hon ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu gwybodaeth a'u sgiliau wrth wynebu problem neu her beirianneg sylweddol.
Prosiect Unigol BEng (Craidd)
Wedi'i gynllunio fel y gall myfyrwyr gynnal ymchwil/prosiectau manwl sy'n berthnasol i'w pwnc. Mae'n gwella gwybodaeth, yn hyrwyddo gwaith annibynnol, ac yn annog dysgu gydol oes.
Prosiect Unigol (Dewisol)
Thermohylifau 3
Pwrpas y modiwl hwn yw atgyfnerthu ac ymestyn ymhellach egwyddorion thermodynameg a gymhwysir i amrywiaeth o systemau cynhyrchu pŵer a systemau ynni ac i atgyfnerthu ac ymestyn ymhellach egwyddorion mecaneg hylif a'u cymhwyso i amrywiaeth o beiriannau tyrbo.
Dadansoddiad Cyfrifiadurol Peirianneg
Nod y modiwl yw addysgu'r dull o gymhwyso technegau elfennau meidraidd a rhoi cyflwyniad ymarferol i fyfyrwyr ar gymhwyso dulliau cyfrifiadurol mewn mecaneg hylifau a dadansoddiadau aerodynameg.
Rheolaeth Ddiwydiannol
Nod y modiwl hwn yw ymestyn gwerthfawrogiad a gwybodaeth y myfyriwr am Systemau Rheoli Peirianneg.
Mecaneg a Rheolaeth
Mae'r modiwl hwn yn rhoi'r gallu i'r myfyriwr ddadansoddi systemau mecanyddol a rheoli cymhleth.
Yn y bedwaredd flwyddyn, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol, gan ddysgu trafod yn feirniadol a chwestiynu theori a chanlyniadau. Mae'r sgiliau hyn yn cael eu cymhwyso mewn cyd-destunau unigol a grŵp ac yn gwahaniaethu'r myfyrwyr o safbwynt cyflogadwyedd.
Modiwlau Blwyddyn Pedwar
Prosiect Integredig Grŵp MEng
Mae'r modiwl hwn yn galluogi myfyrwyr i gymhwyso a gwella eu sylfaen wybodaeth ymarferol am beirianneg, i brosiect dylunio mawr sy'n gysylltiedig â diwydiant. Mae'n caniatáu i fyfyrwyr gymhwyso eu sgiliau mewn amgylchedd tîm.
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch
Bydd myfyrwyr yn cael gwybodaeth ac yn ennill sgiliau dadansoddi ar amrywiaeth o ddeunyddiau peirianneg a phrosesau gweithgynhyrchu modern ac wedi hynny byddant yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r meini prawf dethol ar gyfer cymwysiadau peirianneg.
Dadansoddiad Pellach o'r Elfennau Meidraidd
Bydd myfyrwyr yn dysgu cynnal dadansoddiad priodol o elfennau meidraidd gan ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau modelu a dadansoddi'n feirniadol y canlyniadau a gafwyd.
Dynameg Hylif Gyfrifiadurol Bellach
Pwrpas y modiwl hwn yw rhoi dealltwriaeth ymarferol i fyfyrwyr o'r dulliau rhifog sy'n sail i ddadansoddiadau cyfrifiadurol o ddynameg hylifau.
Rheoli Peirianneg Proffesiynol
Bydd myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau i ddadansoddi damcaniaethau arweinyddiaeth a rheolaeth yn feirniadol a sut mae'r rhain yn llywio cyfeiriad strategol ac effeithiolrwydd sefydliad.
Systemau Gwresogi Diwydiannol
Bydd hyn yn caniatáu i fyfyrwyr gael dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion gweithredu a nodweddion systemau hylosgi a'u galluogi i gymhwyso'r rhain ar gyfer modelu a dylunio ffwrneisi diwydiannol effeithlon o ran ynni.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Byddwch yn dysgu trwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a seminarau. Yn ogystal â hyn, byddwch yn treulio amser yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am faterion cyfredol yn y diwydiant peirianneg. Byddwch yn dysgu drwy waith ymarferol, prosiectau grŵp a phrosiect blwyddyn olaf hefyd, ynghyd ag ymweliadau â'r diwydiant.
Asesir y radd peirianneg fecanyddol trwy aseiniadau, gwaith cwrs, profion dosbarth parhaus ac arholiadau. Caiff cyflwyniadau eu cynnwys fel elfennau o asesiadau mewn rhai modiwlau, er mwyn datblygu sgiliau cyfathrebu a chyflwyno allweddol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Mae gan y staff sy'n cyflwyno'r modiwlau arbenigedd eang yn eu meysydd pwnc.
Mae rhai wedi datblygu'r arbenigedd hwn trwy ymchwil o ansawdd uchel. Mae'r meysydd ymchwil yn rhyngwladol o ran eu cwmpas ac yn berthnasol yn lleol hefyd, gan weithio'n aml gyda chwmnïau rhyngwladol sy'n gweithredu'n lleol.
Mae eraill wedi datblygu eu harbenigedd trwy yrfaoedd llwyddiannus mewn diwydiant ac maen nhw’n defnyddio'r wybodaeth honno bellach i addysgu a pharatoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd eu hunain.
Mae'r cyfuniad hwn o gefndiroedd sydd gan y staff academaidd yn sicrhau bod profiad y myfyriwr yn un eang ac yn eu datblygu'n dechnegol ac yn broffesiynol.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Lleoliadau
Rydym yn gwybod beth yw gwerth lleoliad a phrofiad gwaith ac rydym yn awyddus iawn i weld ein myfyrwyr yn manteisio ar y cyfleoedd hyn. Rydym yn cydweithio ag amryw o gwmnïau lleol a chenedlaethol er mwyn helpu myfyrwyr i fanteisio ar y cyfleoedd hyn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Mae ein cyfleusterau Peirianneg Fecanyddol yn rhagorol. Maent yn cynnwys:
- Ystafelloedd cyfrifiadurol gyda chyfarpar o safon a meddalwedd dylunio a dadansoddi o'r radd flaenaf (safon diwydiant). (SolidWorks, Ansys, FEA a CFD, LS-Dyna, SolidCAM, Simul8, ac ati), gyda chlwstwr (Super Computer) i'w ddefnyddio ar weithgareddau cyfrifiadurol lefel uwch.
- Ystafelloedd prosiect pwrpasol ar gyfer pob carfan, mynediad at dorrwr laser a llwybrydd CNC pedair echelin.
- Cyfleusterau gweithgynhyrchu cyfansawdd, gan gynnwys awtoclafau.
- Cyfleusterau gweithgynhyrchu ychwanegion (argraffu 3D), sganiwr laser, twnnel gwynt, cyfleusterau profi deunydd helaeth, yn ogystal â labordai gydag offer ar gyfer ategu addysgu ym mhob pwnc craidd, mecaneg, dynameg, deunyddiau, thermodynameg, dynameg hylif a rheolaeth.
- Cyfleusterau profi annistrywiol (NDT).
- Mynediad at staff technegol yn ein gweithdai sy'n cynnwys canolfan beiriannu CNC, turnau a pheiriant melino, driliau, ac ati, i'w defnyddio ar yr holl waith prosiect a wneir.
- Ardal fawr amlddisgyblaeth mynediad agored a adeiladwyd ar gyfer prosiectau.
- Ardal adeiladu Fformiwla Myfyriwr (Agor mewn tab newydd) llawn cyfarpar.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
£9,535
fesul blwyddyn*£16,200
fesul blwyddyn*COSTAU YCHWANEGOL
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Cyflwyno Calon
Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.