MSc

Peirianneg Broffesiynol

Cyfle i baratoi ar gyfer gyrfa ym maes Peirianneg Fecanyddol. Cael arbenigedd perthnasol a phrofiad ymarferol gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Ar-lein

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £1,229*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r MSc Peirianneg Broffesiynol ar gael i'r rhai sydd mewn swydd ar hyn o bryd ac mae'n ddelfrydol os ydych chi’n ceisio symud ymlaen a datblygu ymhellach yn y proffesiwn peirianneg. Mae'r cymhwyster peirianneg rhan-amser arloesol a hyblyg yn eich galluogi i ennill gradd Meistr a symud ymlaen tuag at statws Peiriannydd Siartredig (CEng) trwy weithgareddau a wneir yn y gweithle.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Bwriedir yr MSc mewn Peirianneg Broffesiynol ar gyfer graddedigion peirianneg neu ddisgyblaeth sydd â chysylltiad agos sy'n dymuno ymestyn eu harbenigedd i lefel uwch wrth baratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol.

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Dylunio
  • Peiriannydd Mecanyddol
  • Rheoli Prosiect
  • Peiriannydd Ymchwil

Sgiliau a addysgir

  • Datrys problemau drwy ddadansoddi gan ddefnyddio theori wyddonol a pheirianneg
  • Gwybodaeth ddatblygedig am dechnoleg flaengar
  • Gwaith tîm, rheoli ac arwain
  • Sgiliau cyfathrebu
  • Deall cyfrifoldebau proffesiynol 

Placeholder Image 1

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Dysgu pellach ar gyfer statws CEng

Mae'r cwrs hwn yn bodloni'r gofyniad academaidd ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng). Rhaid bod gan ymgeiswyr radd Baglor (Anrh) hefyd sydd wedi'i hachredu fel un sy'n bodloni'r gofyniad academaidd yn rhannol ar gyfer cofrestru fel Peiriannydd Siartredig (CEng).

Cyngor Peirianneg

Mae'r MSc Peirianneg Broffesiynol yn rhan o fenter Pyrth Peirianneg y Cyngor Peirianneg.

Trosolwg o'r Modiwl

Archwiliad o Ddatblygiad Proffesiynol

Myfyrio ar agweddau ar eich dysgu cysylltiedig â gwaith a'u dadansoddi'n feirniadol yng nghyd-destun mynd i'r afael â Chymhwysedd Peirianneg Safonol y DU (UK-Spec) ar gyfer Peiriannydd Siartredig.

Contract Dysgu

Nodi bylchau mewn gwybodaeth academaidd a phroffesiynol a datblygu cyswllt dysgu manwl i nodi amcanion dysgu a llunio rhaglen astudiaeth sy'n gysylltiedig â gwaith i fodloni gofynion y rhaglen â'r UK-Spec.

Technolegau Presennol a Newydd

Gwerthuso ac asesu'n feirniadol dechnoleg a/neu dechnegau presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg wrth geisio canfod yr ateb gorau posibl.

Dylunio Peirianneg

Creu a datblygu cynnyrch, proses neu system sy'n economaidd hyfyw i ddiwallu angen diffiniedig. Dylunio datblygiadau mewn meysydd lle mae gwybodaeth ymchwil yn gyfyngedig neu'n anghyflawn.

Dadansoddi Peirianneg

Arddangos defnydd o ddulliau priodol wrth ddadansoddi problemau peirianneg a gwerthuso'r canlyniadau'n feirniadol.

Rheoli Prosiectau ar gyfer Peirianwyr

Ymwybyddiaeth feirniadol o faterion rheoli wrth gyflawni prosiectau peirianneg, er mwyn datblygu sgiliau arwain wrth gynllunio a gweithredu prosiectau.

Sgiliau Cyfathrebu Technegol

Myfyrio'n feirniadol ar sgiliau rhyngbersonol effeithiol, cyfathrebu yn y gweithle a chyfleu deunydd technegol i gynulleidfaoedd annhechnegol.

Cyfrifoldebau Peirianneg Broffesiynol

Deall oblygiadau ehangach y broses beirianneg a’u hasesu'n feirniadol. Adolygu a myfyrio ar oblygiadau cymdeithasol ehangach y proffesiwn peirianneg.

Traethawd Hir

Gan ddefnyddio adnoddau priodol, ymgymryd â darn mawr o ymchwil ymchwiliol sy'n datblygu ac yn dangos y gallu i gasglu, dadansoddi ac adrodd ar gynnyrch yr ymchwil mewn modd rhesymegol a phroffesiynol.

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

Dylai fod gan ymgeiswyr radd Anrhydedd BEng achrededig a dylent fod mewn swydd berthnasol. 

Yna gwahoddir ymgeiswyr addas i gael cyfweliad. Gellir hefyd ystyried ymgeiswyr sydd ag achrediad gan IEng neu sydd wedi cwblhau adolygiad academaidd gan gorff proffesiynol. 

 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£1,229

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae'r cwrs Meistr hyblyg hwn mewn peirianneg yn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol sy'n gweithio na allant ymrwymo i astudio amser llawn ennill cymhwyster proffesiynol o'r cartref/gweithle.

Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i gwblhau'r MSc Peirianneg Broffesiynol yn amrywio yn dibynnu ar brofiad pob myfyriwr wrth gychwyn. Fodd bynnag, tua thair blynedd yw'r amser a gymerir ar gyfartaledd.

Staff addysgu

Mae gan fyfyrwyr fynediad at arweinydd y rhaglen, arweinwyr dyfarniad a thiwtoriaid modiwl drwy bolisi 'drws agored' yn bersonol, ar y ffôn neu drwy e-bost a Blackboard.

Darperir gofal bugeiliol gan siop Cyngor y Gyfadran a gwasanaethau cymorth myfyrwyr y Brifysgol sy'n cynnwys cydgysylltwyr Anghenion Arbennig.

Mae cefnogaeth academaidd mewn mathemateg, Saesneg ac ysgrifennu traethodau ar gael gan y https://studyskills.southwales.ac.uk/cym/

Dyrennir mentor diwydiannol i fyfyrwyr yn y gweithle yn ogystal â mentor academaidd yn y Brifysgol.

Lleoliadau

Gall graddedigion peirianneg fecanyddol??? ymuno ag ymgynghorwyr peirianneg o'r radd flaenaf, contractwyr a chleientiaid gyda rhaglenni hyfforddi achrededig sefydledig a chyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus ledled y byd. Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at gyngor gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd drwy gydol eich astudiaethau ac ar ôl i chi raddio.

Mae gan ein gwasanaeth Gyrfaoedd dimau pwrpasol: Tîm profiad gwaith canolog i'ch helpu i ddod o hyd i leoliadau perthnasol; tîm datblygu cyflogadwyedd sy'n cynnwys rhaglen gyflogadwyedd o'r enw Grad Edge; a thîm Menter sy'n canolbwyntio ar syniadau busnes newydd ac entrepreneuriaeth.

Cyfleusterau

AMHERTHNASOL

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd i Raddedigion

Mae'r fframwaith pyrth peirianneg yn darparu dull dysgu hyblyg seiliedig ar waith sy'n caniatáu i chi symud ymlaen i gofrestriad proffesiynol heb fod angen i chi adael gwaith, gan leihau lefel y ddyled yr ewch iddi yn ogystal â gwella eich rhagolygon o ran cyflogaeth ac enillion.

Llwybrau gyrfa posibl

Ar ôl graddio o'r cwrs meistr hwn mewn peirianneg, byddwch yn barod am Adolygiad Proffesiynol ar gyfer Statws Siartredig, ac mewn sefyllfa dda i symud ymlaen yr yrfa beirianneg o'ch dewis. Gallwch symud ymlaen i PhD neu radd ymchwil mewn peirianneg hefyd. Cewch ddarganfod mwy fwy amhttps://engineering.research.southwales.ac.uk/canolfan-ymchwil-peirianneg/ yn PDC.

Cymorth Gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar y trywydd yr hoffech ei ddilyn.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.