BEng (Anrh)

Peirianneg Drydanol ac Electronig gan gynnwys Blwyddyn Sylfaen

Ydych chi'n chwilfrydig ynghylch sut mae'r byd yn gweithio mewn gwirionedd? O ffonau i rwydweithiau pŵer, mae electroneg yn llunio popeth o'n cwmpas. Y flwyddyn sylfaen hon yw eich cam cyntaf at Beirianneg Drydanol ac Electronig; gan feithrin sgiliau, hyder a gwybodaeth i symud ymlaen i radd lawn a gyrfa dechnoleg gyffrous.

Sut i wneud cais Gwneud cais drwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    H60F

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,790*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £17,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Dewch i feithrin hyder yn ogystal ag arbenigedd wrth i chi baratoi ar gyfer ein gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig lawn, drwy astudio ar ein Blwyddyn Sylfaen gyda chymorth ein cyfleusterau arloesol a'n staff arbenigol.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn berffaith os ydych chi am astudio ein gradd Peirianneg Drydanol ac Electronig, ond nad oes gennych chi'r cymwysterau cywir. Bydd ein cwrs yn eich paratoi ar gyfer y radd lawn a gyrfa mewn peirianneg, gan ddefnyddio cyfuniad o ddamcaniaeth a dysgu ymarferol gyda'n cyfleusterau o'r radd flaenaf.

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Dylunio Electronig
  • Peiriannydd Electroneg a Chyfathrebu
  • Peiriannydd Systemau Pŵer
  • Peiriannydd Ffonau Symudol a Chyfathrebu

Sgiliau a addysgir

  • Dylunio Electronig
  • Optoelectroneg a Systemau
  • Dylunio systemau pŵer
  • Systemau rhwydwaith diwifr

A close up of two circuit boards wired up to small lights being held by two sets of hands in a USW electronic workshop

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Canolbwyntio ar ddiwydiant

Cysylltiadau cryf â'r diwydiant gyda phwyslais ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol, sy'n seiliedig ar broblemau.

Cyfleoedd lleoliad gwaith

Anogir lleoliadau diwydiannol ar ein gradd lawn, ac rydym yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr i helpu myfyrwyr i'w cael nhw.

Gwybodaeth arbenigol

Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, trwy weithgareddau ymchwil a phrofiad proffesiynol yn eu gyrfaoedd.

Wedi'i achredu gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET)

Wedi'i gydnabod yn broffesiynol, gan gryfhau eich cymwysterau a'ch paratoi â'r sylfeini hanfodol i symud ymlaen yn hyderus i gam nesaf eich gyrfa.

Bod yn barod ar gyfer y diwydiant

Wedi'i gynllunio i fodloni gofynion canlyniadau dysgu fersiwn 4 Achrediad Rhaglenni Addysg Uwch Cyngor Peirianneg y DU.

Trosolwg o'r Modiwl

Bydd ein Blwyddyn Sylfaen yn rhoi dealltwriaeth dda i chi o'n cyrsiau peirianneg ac yn rhoi sylfaen fathemategol dda i chi, fel y gallwch symud ymlaen i'r radd lawn yn hyderus.

Dechrau eich Taith yn y Brifysgol
Mae'r modiwl hwn yn eich helpu i ddatblygu sgiliau academaidd, personol a phroffesiynol ar gyfer astudio yn y brifysgol. Byddwch yn myfyrio ar eich cynnydd, yn meithrin hyder, ac yn creu portffolio sy'n seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi eich dysgu yn y dyfodol.

Peirianneg ar Waith: O Theori i Ymarfer
Archwiliwch heriau peirianneg y byd go iawn wrth i chi ddatblygu eich gwybodaeth ddamcaniaethol, gan gynnwys egwyddorion mathemategol a gwyddonol craidd. Dysgwch sgiliau allweddol trwy diwtorialau a seminarau cyn eu rhoi ar waith mewn labordai a gweithdai trochol.

Dylunio a Chynhyrchu ar Waith
Darganfyddwch egwyddorion sylfaenol dylunio a gweithgynhyrchu peirianneg, gan gynnwys y wybodaeth a'r sgiliau ymarferol i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn. Byddwch yn archwilio'r broses ddylunio lawn, o ymchwil i greu a phopeth yn y canol.

Her Effaith
Byddwch chi'n gweithio mewn timau gyda myfyrwyr Blwyddyn Sylfaen eraill i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn, gan ddatblygu atebion trwy ymchwil, chwilfrydedd, cydweithio a datrys problemau cyfrifol, wrth feithrin sgiliau a fydd yn cefnogi eich astudiaethau yn y dyfodol.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Byddwch chi'n dysgu drwy wneud, drwy weithgareddau byd go iawn a fydd yn eich helpu i ddeall sut mae dysgu'n gweithio yn y brifysgol. Byddwch chi'n cael eich annog i ofyn cwestiynau, archwilio syniadau newydd a gweithio gydag eraill, yn ogystal ag yn annibynnol. Mae addysgu'n meithrin hyder, meddwl beirniadol a myfyrio, gyda chefnogaeth offer digidol. Mae adborth rheolaidd yn eich helpu i olrhain cynnydd, cynllunio'r camau nesaf ac adeiladu gwydnwch a theimlad cryf o berthyn wrth i chi baratoi ar gyfer astudiaeth lefel uwch.

Staff addysgu

Byddwch yn cael eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys tasgau byr, gwaith cwrs, cyflwyniadau, a gwaith grŵp. Mae asesiadau cynnar wedi'u cynllunio i gefnogi eich dysgu a'ch helpu i ddeall beth a ddisgwylir yn y brifysgol. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau'n seiliedig ar waith cwrs ac yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol fel ymchwil, ysgrifennu academaidd, gwaith tîm, a chyfathrebu. Byddwch hefyd yn myfyrio ar eich cynnydd ac yn defnyddio systemau ac offer digidol y brifysgol. Bydd adborth clir ac amserol yn eich helpu i ddeall sut i wella a chefnogi eich camau nesaf.

Lleoliadau

Ar ôl eich Blwyddyn Sylfaen, wrth i chi symud ymlaen i'ch gradd, byddwch yn cael y cyfle i ddysgu a phrofi bywyd yn gweithio yn y diwydiant fel rhan o'r radd Peirianneg Drydanol ac Electronig lawn.

Rydym yn gwybod gwerth ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn ac felly rydym yn gweithio gyda sawl cwmni ar lefel leol a chenedlaethol. Gallwch ddewis gwneud Lleoliad Rhyngosod ar ôl eich ail flwyddyn, sy'n caniatáu blwyddyn lawn yn gweithio yn y diwydiant.

Mae myfyrwyr ar ein gradd lawn hefyd yn gweithio ar y campws ar friffiau byw ochr yn ochr ag arbenigwyr yn y diwydiant, gan ddefnyddio offer safonol y diwydiant ac efelychu'r prosesau a'r arferion a ddefnyddir mewn cwmnïau peirianneg mawr.

Cyfleusterau

Fel myfyriwr Peirianneg Drydanol ac Electronig, byddwch wedi'ch lleoli yng Nghampws Trefforest, lle byddwch yn dysgu trwy wneud o'r diwrnod cyntaf. Byddwch yn gweithio mewn labordai modern, safon y diwydiant, gan ddefnyddio'r un offer a geir mewn gweithleoedd peirianneg go iawn.

Mae ein cyfleusterau'n cael eu huwchraddio'n rheolaidd, felly byddwch bob amser yn dysgu gyda thechnoleg gyfoes. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ennill profiad ymarferol, yn magu hyder, ac yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a hynny i gyd mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar a gynlluniwyd i'ch helpu i lwyddo.

Achrediadau a Phartneriaethau

Wedi'i achredu gan Engineering Council

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein Blwyddyn Sylfaen yn paratoi myfyrwyr ar gyfer ein gradd BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig.

O’r maes modurol i feddygaeth i gyfathrebu, mae galw mawr am raddedigion o'n gradd lawn ledled y diwydiant trydanol ac yn aml maent yn symud ymlaen i rolau yn Tata Steel, y Grid Cenedlaethol, y GIG, y Weinyddiaeth Amddiffyn a mwy.

Partneriaid Diwydiant

Mae gennym gysylltiadau rhagorol â sefydliadau allweddol, gan sicrhau bod ein cwricwlwm yn berthnasol ac yn cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Mae'r cysylltiadau hyn hefyd yn darparu cyfleoedd lleoliad i fyfyrwyr ar y radd lawn.

Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Bwrdd Cynghori Diwydiannol i sicrhau bod ein cwrs yn cyd-fynd â thueddiadau'r diwydiant, gan eich galluogi i ddechrau eich gyrfa yn hyderus.

Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig amrywiaeth o gyngor ac arweiniad i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweliad a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar eich trywydd eich hun. Mae ein staff addysgu profiadol bob amser ar gael i drafod opsiynau gyrfa posibl o fewn peirianneg drydanol.

Hyb Arloesi yn PDC

A photo thumbnail for the

GOFYNION MYNEDIAD

Pwyntiau UCAS: 48 (neu uwch)

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: DD
  • Bagloriaeth Cymru: Amherthnasol
  • BTEC: BTEC Pas Pas Pas Diploma Estynedig neu BTEC Pas Pas Diploma 
  • Mynediad i AU: Llwyddo Mynediad i Ddiploma AU gydag o leiaf 48 pwynt Tariff UCAS.
  • Lefel T: P (D neu E)

Gofynion ychwanegol 

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 3 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C / Gradd 4 neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,790

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£17,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer yn ystod eich blwyddyn sylfaen. Gweler y rhestr isod sy'n cynnwys costau ar ôl i chi symud ymlaen i flwyddyn 1 eich rhaglen radd.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM gydag adeilad Calon newydd a chyffrous ynghanol ein Campws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Gall ymgeiswyr a dderbynnir drwy fynediad uwch astudio cyfuniad gwahanol o fodiwlau i'r rhai a hysbysebir, gan y byddant yn ymuno â chwrs sydd eisoes ar y gweill. Fe wnawn ni gysylltu â chi a’ch cynghori chi am y modiwlau hyn unwaith y bydd eich cais wedi'i brosesu a chynnig wedi'i wneud.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.