MEng

Peirianneg Drydanol ac Electronig

Cyfle i ddatblygu eich sgiliau a'ch cymwysterau ar gyfer gyrfa ym maes Electroneg. Cewch fanteisio ar gyfleusterau o'r radd flaenaf yn PDC.

Sut i wneud cais Gwneud cais trwy UCAS Trefnu Diwrnod Agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Côd UCAS

    D327

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £9,535*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,200*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Mae'r cwrs MEng mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig yn cyfuno deunydd BEng (Anrh) gyda chynnwys lefel Meistr, gan gynnig sgiliau proffesiynol a thechnegol uwch i fyfyrwyr mwy datblygedig. Mae'r radd hon yn sicrhau cydbwysedd rhwng theori ac ymarfer, gan baratoi graddedigion ar gyfer rolau arwain mewn diwydiant.

CYNLLUNIWYD AR GYFER

Mae gan beirianwyr trydanol feddwl chwilfrydig, ac maen nhw am ddeall sut mae pethau'n gweithio a sut i gymhwyso gwybodaeth i broblemau'r byd go iawn. Os oes gennych ddiddordeb yn y ffordd y mae'r byd yn gweithio, dyma'r cwrs i chi.

Bod yn barod ar gyfer y diwydiant

  • Wedi'i gynllunio i fodloni gofynion canlyniadau dysgu fersiwn 4 Achrediad Rhaglenni Addysg Uwch Cyngor Peirianneg y DU.

 

Llwybrau Gyrfa

  • Peiriannydd Dylunio Electronig
  • Peiriannydd Electroneg a Chyfathrebu
  • Peiriannydd Systemau Pŵer
  • Peiriannydd Ffonau Symudol a Chyfathrebu

Sgiliau a addysgir

  • Dylunio Electronig
  • Optoelectroneg a Systemau
  • Dylunio systemau pŵer
  • Systemau rhwydwaith diwifr

A close up of two circuit boards wired up to small lights being held by two sets of hands in a USW electronic workshop

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Canolbwyntio ar Yrfa

Mae gennym gysylltiadau cryf â diwydiant ac rydym yn rhoi cryn bwyslais ar brosiectau myfyrwyr a dysgu ymarferol sy'n seiliedig ar broblemau.

Cyfleoedd lleoliad gwaith

Rydym yn annog lleoliadau diwydiannol ac yn cydweithio'n agos â chyflogwyr i gynorthwyo myfyrwyr gyda'r cyfle hwn.

Gwybodaeth arbenigol

Mae staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, rhai drwy weithgareddau ymchwil a rhai drwy ymarfer proffesiynol mewn gyrfaoedd diwydiannol.

Trosolwg o'r Modiwl

Mae blynyddoedd un a dau yn darparu gwybodaeth a sgiliau hanfodol i'ch paratoi ar gyfer blynyddoedd olaf y cwrs peirianneg drydanol. Mae'r meysydd astudio’n cynnwys electroneg analog a digidol, systemau sydd wedi’u hymwreiddio,  mathemateg, pŵer, peiriannau a rheolaeth, a signalau a chyfathrebu digidol.Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymdrin â dylunio electroneg, dylunio system reoli, electroneg pŵer a gyriannau, telathrebu a dylunio systemau wedi’u hymwreiddio. Byddwch yn cyflawni prosiect ymarferol mawr hefyd.

 

 

  • Mathemateg i Beirianwyr - 20 credyd
  • Egwyddorion Trydanol - 20 credyd
  • Cymwysiadau Peirianneg - 20 credyd
  • Cyflwyniad i raglennu C a Systemau wedi’u Hymwreiddio - 20 credyd
  • Electroneg Analog a Digidol 1- 20 credyd
  • Diogelwch Iechyd a Datblygiad Proffesiynol - 20 credyd
  • Datblygiad Proffesiynol ac Ymarfer Diwydiannol*

*Galliwch astudio hanner y modiwl hwn yn Gymraeg.

  • Cyfathrebu Analog a Digidol - 20 credyd
  • Pŵer, Peiriannau a Rheolaeth - 20 credyd
  • Egwyddorion Trydanol a Dulliau Dadansoddol - 20 credyd
  • Ffurfweddu a Rhaglennu Systemau wedi’u Hymwreiddio - 20 credyd
  • Electroneg Analog a Digidol 2- 20 credyd
  • Prosiect Grŵp a Rheoli i Beirianwyr - 20 credyd
  • Peirianneg Cyfathrebu a Chymhwyso - 20 credyd
  • Dyluniad System Reoli - 20 credyd (Dewisol)
  • Electroneg a Gyriannau Pŵer - 20 credyd
  • Systemau Uwch wedi’u Hymwreiddio - 20 credyd (Dewisol)
  • Dylunio Electroneg - 20 credyd
  • Prosiect Singleton a Rheoli Prosiectau (40)
  • Profiad Gwaith dan Oruchwyliaeth - 120 credyd
  • Prosiect Grŵp MEng - 40 credyd
  • Systemau Cyfathrebu Digidol - 20 credyd
  • Prosesu Signalau Digidol Cymhwysol - 20 credyd
  • Dylunio Digidol gan ddefnyddio VHDL - 20 credyd
  • Arloesi Cynnyrch ac Entrepreneuriaeth - 20 credyd

 

  • Prosiect MEng Singleton a Rheoli Prosiect - 60 credyd

Mae gan fyfyrwyr yr opsiwn hefyd i adael ar ôl pob blwyddyn gyda'r cymwysterau canlynol: Blwyddyn Un: Tystysgrif Addysg Uwch Peirianneg Drydanol ac Electronig; Blwyddyn Dau: Diploma Addysg Uwch Peirianneg Drydanol ac Electronig; Blwyddyn Tri: BSc (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig; Blwyddyn Pedwar: MEng (Anrh) Peirianneg Drydanol ac Electronig.

 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Cewch eich addysgu drwy ddarlithoedd, sesiynau tiwtorial a gweithdai sy'n cynnwys modelu systemau ymarferol ac efelychiadau gan ddefnyddio cyfleusterau caledwedd a meddalwedd o'r radd flaenaf. Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymchwil dan oruchwyliaeth hefyd a gefnogir gan fynediad llawn at gyfleusterau ar-lein a llyfrgell o'r radd flaenaf.

Lle bynnag y bo modd, bydd eich gwaith yn seiliedig ar brosiectau byw ac astudiaethau achos, gyda chyfraniadau gan weithwyr proffesiynol yn y diwydiant.

Staff addysgu

Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd pwnc, ar ôl gweithio mewn diwydiant neu gyda diwydiant, cynnal gwaith ymchwil, cyflwyno mewn cynadleddau, cyhoeddi eu gwaith, a llywio eich astudiaethau gyda'r ddealltwriaeth ddiweddaraf. 

Lleoliadau

Rydym yn eich annog i ennill profiad yn y gweithle fel rhan o'ch gradd mewn peirianneg. Mae ein myfyrwyr wedi cwblhau lleoliadau blwyddyn o hyd gyda chwmnïau amrywiol, gan gynnwys Tata Steel, 3M, Renesas, Airbus UK, Renishaw, GlaxoSmithKline, Panasonic, Bosch, ac IBM.

 

Cyfleusterau

Mae ein llyfrgell Prifysgol o'r radd flaenaf yn darparu mynediad i gyhoeddiadau byd-eang o bwys. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys labordy rhwydweithio Academi Cisco, labordy Cyfathrebu Di-wifr gyda siambr ddiadlais 1-65 GHz, gorsaf gyfathrebu lloeren, a labordy efelychu Systemau Cyfathrebu gyda'r feddalwedd ddiweddaraf fel MATLAB. 

Mae'r labordy Calypto, a noddir gan Calypto Design Systems Inc, yn canolbwyntio ar ddatblygu cynnyrch electronig cyflym, cost-effeithiol gyda grant meddalwedd gwerth £1.9m, sy'n unigryw i brifysgolion dethol ledled y byd. 

Mae gan ein labordy Systemau Gwreiddio, a gynlluniwyd gyda gwerthwyr microreolwyr blaenllaw, 32 o gyfrifiaduron datblygedig gyda'r offer dylunio electronig diweddaraf, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gweithio gyda thechnolegau blaengar.

 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Mae ein graddedigion yn gyflogadwy iawn ac mewn sefyllfa gref i gael cyfleoedd gwerth chweil, gyda sgiliau datblygedig iawn mewn meysydd fel rhifedd, gwaith tîm, ysgrifennu adroddiadau a chreadigrwydd. Mae cryn alw am raddedigion Prifysgol De Cymru, gan fod safonau academaidd uchel y brifysgol a'r addysgu rhagorol yn denu llawer o recriwtwyr.

 

Llwybrau gyrfa posibl

Mae twf aruthrol yn y defnydd o ddata ffonau symudol a datblygiadau mewn technoleg, fel rhwydweithiau diwifr 5G/6G a systemau lloeren a chyfathrebu optegol trwybwn uchel, yn creu cyfleoedd gyrfa cyffrous i raddedigion sydd â'r sgiliau cywir. 



Cymorth gyrfaoedd

Mae ein gwasanaeth gyrfaoedd yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr. Gallwn eich cysylltu â diwydiant, gallwn eich helpu gyda sgiliau cyfweld a CVs a'ch helpu i ganolbwyntio ar y trywydd yr hoffech ei ddilyn.

GOFYNION MYNEDIAD

pwynt tariff UCAS: 80 - 104

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Lefel A: BBC i gynnwys Mathemateg ac o leiaf un Wyddoniaeth rifog arall fel Ffiseg, Cemeg, Bioleg neu Ddaearyddiaeth 
  • Bagloriaeth Cymru: Gradd C a BB ar Lefel A i gynnwys Mathemateg ac o leiaf un Wyddoniaeth rifog arall fel Ffiseg, Cemeg, Bioleg neu Ddaearyddiaeth 
  • BTEC: Diploma Estynedig BTEC Rhagoriaeth Teilyngdod Teilyngdod mewn pwnc perthnasol y mae'n rhaid iddo gynnwys modiwlau Mathemateg a Pheirianneg neu Wyddoniaeth 
  • Mynediad i AU: Diploma Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Beirianneg gyda 60 credyd yn gyffredinol i gynnwys 45 credyd lefel 3 sy'n cyfateb i 18 Rhagoriaeth, 24 Teilyngdod a 3 Llwyddo 

Gofynion ychwanegol 

TGAU: Mae'r Brifysgol fel rheol yn gofyn am o leiaf 5 TGAU gan gynnwys Mathemateg a Saesneg ar Radd C neu'n uwch, neu'r hyn sy'n cyfateb iddynt ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£9,535

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,200

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Cymorth Costau Byw

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.

Cyflwyno Calon

Rydym yn buddsoddi yn nyfodol STEM yn PDC gyda datblygiad Cyfrifiadureg, Mathemateg, Peirianneg a Thechnoleg cyffrous newydd ar Gampws Pontypridd.


Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Sut i Wneud Cais

Dylid gwneud pob cais am gyrsiau israddedig amser llawn neu raddau sylfaen drwy UCAS. Cymerwch y cam nesaf: Gwnewch gais drwy UCAS. Gallwch wneud cais i ni yn uniongyrchol am bob cwrs israddedig rhan-amser, os ydych yn chwilio am fynediad uwch neu os ydych yn fyfyriwr rhyngwladol. I wneud cais yn uniongyrchol, dewiswch y ffurflen gais isod ar gyfer eich dyddiad cychwyn dewisol a'ch dull astudio (amser llawn neu ran-amser).

Mynediad uwch

Os oes gennych gymhwyster neu brofiad perthnasol eisoes sy'n gysylltiedig â'r cwrs rydych yn gwneud cais amdano, efallai y byddwch yn gymwys i ddechrau ar gam diweddarach o'r cwrs. Er enghraifft, gall myfyrwyr o golegau partner 'ychwanegu ato' eu cymwysterau i radd trwy ymuno â ni ym Mlwyddyn Dau neu Flwyddyn Tri cwrs. Gelwir y broses hon yn 'fynediad uwch', gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r Brifysgol am 'fynediad uwch' gan ddefnyddio'r ffurflenni cais a ddarperir uchod.

Derbyniadau rhyngwladol

Gall ymgeiswyr rhyngwladol wneud cais yn uniongyrchol i ni. Os oes gan y Brifysgol dîm mewn gwlad yn eich rhanbarth, bydd eich cais yn cael ei neilltuo iddynt am gymorth.