MSc

Rheoli

P'un a oes gennych gefndir rheoli a busnes ai peidio, bydd yr MSc Rheoli’n datblygu eich gwybodaeth eang am reolaeth gyfoes trwy archwiliad manwl o theori ac ymarfer meysydd allweddol.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio gyda ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Chwefror

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Chwefror

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

Trwy raglen astudio wedi'i theilwra, byddwch yn dysgu meddwl yn feirniadol am sut mae busnesau'n rhedeg, gan ddatblygu dealltwriaeth o’r rhesymau pam mae sefydliadau’n cael eu strwythuro ac yn gweithredu mewn ffordd benodol. Byddwch yn archwilio tueddiadau sy'n newid mewn meddwl strategol hefyd i ddatblygu dealltwriaeth gyfannol o sut mae sefydliadau'n ymwneud â'u hamgylcheddau yn wyneb newid cyflym a thameidiog.

Trosolwg o'r Modiwl

Byddwch yn archwilio disgyblaethau rheoli eang a'r berthynas rhwng sefydliadau a'u hamgylcheddau, gan ddod i gysylltiad â diwydiant a phrofiadau'r byd go iawn, fel eich bod yn graddio fel rheolwr hyderus a medrus ac arweinydd yn y dyfodol.

Rheoli Trawsnewid Digidol
Mae’r modiwl hwn yn archwilio ymddangosiad yr economi ddigidol sydd wedi datgloi cyfleoedd newydd i fusnesau yn fyd-eang.

Rheoli Gweithrediadau Strategol
Mae’r modiwl hwn yn cynnig cyfle cyffrous i ddatblygu eich galluoedd a’ch sgiliau mewn offer a thechnegau rheoli gweithrediadau strategol.

Dulliau Ymchwil
Datblygu sgiliau megis casglu a dadansoddi data, syntheseiddio ac adrodd ar syniadau a'r gallu i werthuso trylwyredd a dilysrwydd ymchwil gyhoeddedig mewn busnes a rheoli.

Rheoli Rhyngwladol – Strategaethau ac Atebion
Bydd y modiwl hwn yn dangos i chi yr heriau byd go iawn y mae mentrau rhyngwladol yn eu hwynebu yn yr amgylchedd byd-eang gan ystyried cydberthnasau, materion rhyngwladol a negodi.

Tueddiadau Newydd mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Fel arweinydd/rheolwr y dyfodol, bydd y modiwl hwn yn eich ymgysylltu’n ddeinamig i ddeall yn feirniadol bwysigrwydd arweinyddiaeth a rheolaeth a sut i’w gymhwyso mewn byd busnes sy’n newid yn gyflym.

 

Rheoli Entrepreneuriaeth ac Arloesi
Yn y modiwl hwn byddwch yn ystyried yr amgylchedd byd-eang cymhleth sy’n datblygu heddiw, y cysylltiad ag Entrepreneuriaeth a’r broses o gynhyrchu syniadau a all greu gwerth, annog arloesi, cynnal busnesau a chynyddu refeniw.

Byddwch yn cael dewis naill ai'r traethawd estynedig neu'r prosiect rheoli cymhwysol.

Traethawd estynedig
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag astudiaeth academaidd fanwl lle byddwch yn gwerthuso llenyddiaeth yn feirniadol ac yn ei defnyddio i danategu darn o ymchwil cynradd sydd fel arfer yn eich gweithle.

Prosiect Rheoli Cymhwysol
Bydd hwn yn gyfle cyffrous i chi weithio ar her fusnes go iawn, i roi eich holl wybodaeth a sgiliau a ddatblygwyd ar y cwrs ar waith.

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae’r cwrs yn defnyddio dull dysgu cyfunol gyda darlithoedd ar-lein a gweithdai rhyngweithiol mewn grwpiau llai i atgyfnerthu a dwyn ynghyd eich dysgu o fewn ac ar draws modiwlau. Mae pob modiwl yn darparu cyfleoedd dysgu seiliedig ar her gyda gweithgareddau fel gwaith grŵp, adeiladu tîm, cwisiau, efelychu, ymarfer myfyriol, dadleuon a chyflwyniadau i ddatblygu a gwella eich sgiliau cyflogadwyedd. Gyda chyfleoedd i ymchwilio i theori academaidd a chymhwyso theori ar waith, gan archwilio astudiaethau achos yn y byd go iawn trwy lens feirniadol i'w chymhwyso i'r byd go iawn.

Staff addysgu

Mae gan yr MSc Rheoli dîm cwrs amrywiol, sy'n dod â chymysgedd o brofiad yn y diwydiant ac arbenigedd academaidd, i sicrhau bod eich dysgu’n gyfoes, yn ddifyr, ac yn heriol – i'ch ymestyn a'ch cynorthwyo i gyflawni eich potensial llawn. Gwahoddir siaradwyr gwadd hefyd o amrywiaeth o sefydliadau a diwydiannau i rannu eu gwybodaeth a'u profiadau.

Asesu

Mae'r asesiadau ar y cwrs wedi'u cynllunio'n ofalus nid yn unig i asesu eich gwybodaeth, ond hefyd eich gallu i gymhwyso hyn i broblemau a senarios byd go iawn. Mae natur amrywiol y dulliau asesu, megis portffolios, dadleuon, cyflwyniadau a gweithio ar astudiaethau achos byw, yn rhoi profiad a hyder i chi wrth ddatblygu'r sgiliau, y priodoleddau a'r galluoedd y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Llwybrau gyrfa posibl

P'un a ydych yn cychwyn eich gyrfa, neu mewn swydd reoli sefydledig eisoes, bydd y wybodaeth a'r sgiliau a enillir trwy gydol y cwrs MSc Rheoli yn eich galluogi i ddod yn ymgeisydd deniadol i gyflogwyr. Gall graddedigion symud ymlaen i Ddoethuriaeth mewn Gweinyddiaeth Busnes, Doethuriaeth neu radd ymchwil hefyd.

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb wedi'u rhestru yn southwales.ac.uk/gyrfaoedd ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes yna gyrsiau pwysig eraill neu fentrau penodol i bwnc yn cael eu cynnal yn lleol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. Boed hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a'u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi'r hyder, yr anogaeth a'r cymhelliant i ddarpar fyfyrwyr wneud cais. 

GOFYNION MYNEDIAD

Gofynion cymhwyster nodweddiadol:

  • Gradd anrhydedd ail ddosbarth o leiaf yn y DU neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol cydnabyddedig.

Gofynion Ychwanegol:

  • Bydd 2-3 blynedd neu fwy o brofiad perthnasol mewn rôl Uwch Reoli yn cael ei ystyried yn unigol.

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.  

* Rhwymedig 

Nid oes angen gwerslyfrau gorfodol i'w prynu, ond gallwch ddewis prynu eich copïau unigol eich hun.

Cost: £300

Argymhellir yn gryf bod gennych eich gliniadur personol eich hun, a fydd yn gallu rhedeg Microsoft Office 365. Fel myfyriwr byddwch yn gallu lawrlwytho copi am ddim o unrhyw feddalwedd sy'n berthnasol i'r cwrs.

Cost: £170 neu fwy

Mae’n bosibl y bydd cyfleoedd yn ystod eich astudiaethau i ymwneud â gweithgareddau allgyrsiol lle gallai fod angen cyfraniad at gostau teithio a/neu fynediad.

Cost: I fyny at £600

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.