MSc

Rheoli Peirianneg

Gwella datblygiad eich gyrfa drwy gael gwybodaeth eang am reoli cyfoes.

Sut i wneud cais Archebu lle ar Noson Agored Sgwrsio â Ni

Manylion Cwrs Allweddol

  • Dyddiad Cychwyn

    Medi

  • Lleoliad

    Pontypridd

  • Côd y Campws

    A

Ffioedd

  • Myfyrwyr cartref

    £10,800*

  • Myfyrwyr rhyngwladol

    £16,900*

  • Mae'r ffioedd amser llawn fesul blwyddyn. Mae'r ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd.

Fel deiliad gradd mewn peirianneg, gallwch wella datblygiad eich gyrfa trwy ennill gwybodaeth eang am reoli cyfoes. Mae'r MSc Rheoli Peirianneg yn cynnig archwiliad manwl o theori ac ymarfer meysydd allweddol, sy'n ddelfrydol os oes gennych gefndir peirianneg ymarferol ac os oes gennych ddiddordeb neu'ch bod yn gweithio mewn rôl reoli yn y sector preifat neu gyhoeddus.

Trosolwg o'r Modiwl

Bydd damcaniaethau rheoli’n cael eu trafod a'u cymhwyso i'ch sector a'ch sefydliad.

Damcaniaethau Arwain a Rheoli
Datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o amrywiaeth o ddamcaniaethau arweinyddiaeth a rheoli a'u cymhwysiad cyfoes mewn lleoliadau sefydliadol amrywiol.

Rheoli Datblygiad Proffesiynol
Cyflawni datblygiad personol a phroffesiynol ar gyfer gyrfa broffesiynol sy'n gysylltiedig â busnes. Byddwch chi’n rheoli ac yn cynnal cyflogadwyedd yn bersonol drwy fyfyrio beirniadol i ddeall eich hun ac eraill.

Problemau ym maes Rheoli Rhyngwladol
Datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o'r gydberthynas gymhleth rhwng problemau sy’n datblygu ym maes rheoli ryngwladol a thrawsgenedlaethol.

Rheoli Arloesedd
Meithrin dealltwriaeth o theori ac arferion rheoli arloesedd mewn sefydliadau. Byddwch yn dysgu am y fframweithiau a ddefnyddir gan sefydliadau i reoli arloesedd a ffynonellau arloesi y tu mewn a'r tu allan i'r sefydliad.

Rheoli Gweithrediadau Strategol ac Ymchwil Weithredol
Meithrin gwerthfawrogiad o brosesau gweithredol, technegau, systemau cynllunio a rheoli gan gyfeirio at y diwydiannau gweithgynhyrchu a gwasanaeth o safbwynt ansoddol a meintiol.

Dulliau Ymchwil
Cynnal ymchwiliad gwyddonol cywir a'i gyflwyno ar ffurf ysgrifenedig. Bydd hyn yn datblygu eich sgiliau deall ac ymchwil mewn cyd-destun rheoli a/neu ddatblygiad proffesiynol.

Prosiect Traethawd Hir
Darn sylweddol o ymchwil i faes astudio priodol.

Byddwch yn astudio dau fodiwl dewisol hefyd. Mae'r modiwlau dewisol yn cynnwys:

  • Rheoli Prosiectau a Thechnegau
  • Technegau a Dadansoddiad Ansawdd 
  • Gwerthuso a Rheoli yn y Gweithle
  • Rheoli Busnes a Risg
  • Modiwlau peirianneg perthnasol eraill

GOFYNION MYNEDIAD

I gael eu derbyn ar gyfer y cwrs MSc Rheoli Peirianneg, fel rheol bydd yn ofynnol i ymgeiswyr feddu ar radd anrhydedd 2il ddosbarth y DU neu gymhwyster cyfwerth rhyngwladol cydnabyddedig mewn pwnc sy'n gysylltiedig â pheirianneg. Gellir ystyried profiad gwaith perthnasol hefyd a byddai pob ymgeisydd yn cael ei ystyried yn unigol. 

Cynigion cyd-destunol

Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.

Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.

 

Rydym yma i helpu

P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.

 

Ffioedd a Chyllid

Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser y DU

£10,800

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*
Ffi Llawn Amser Rhyngwladol

£16,900

fesul blwyddyn*

Gwybodaeth Bellach

Astudio yn y Brifysgol yw un o'r buddsoddiadau mwyaf sylweddol y byddwch yn ei wneud erioed. Tra byddwch yn astudio, bydd gennych ddau brif rwymedigaeth ariannol – ffioedd dysgu a chostau byw. Mae llawer o gymorth ariannol ar gael gan Brifysgol De Cymru a ffynonellau cyllid allanol, a all ddarparu benthyciadau (sy’n rhaid eu talu’n ôl) a grantiau, ysgoloriaethau a bwrsarïau (nad oes rhaid eu talu'n ôl).

*Mae ffioedd llawn amser fesul blwyddyn. Mae ffioedd rhan-amser fesul 20 credyd. Ar ôl cofrestru, disgwylir i'r ffi barhau ar yr un gyfradd trwy gydol eich astudiaethau ar y cwrs hwn, ac eithrio fel y disgrifir isod.

Byddwch yn ymwybodol y gallwn gynyddu'r ffi uchaf ar gyfer myfyrwyr cartref ar gyrsiau israddedig llawn amser dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu'r lefel chwyddiant ffioedd a ganiateir. Gellir diwygio ffioedd ar gyfer pob myfyriwr (gan gynnwys myfyrwyr rhan-amser, ôl-raddedig a rhyngwladol) yn unol â'n Polisi Rheoli Ffioedd a Dyled perthnasol.  Byddwn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael gwybodaeth glir, ddealladwy, ddiamwys ac amserol am ein cyrsiau a'n costau mewn digon o bryd, cyn y flwyddyn academaidd nesaf.

 

Ffioedd a Chyllid Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau Gostyngiad Cyn-Fyfyrwyr

Costau Ychwanegol

Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati. 

Gwerslyfrau

  • £300
  • Dim gwerslyfrau gorfodol i'w prynu.

Sicrwydd Ansawdd Brifysgol

Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.

Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da. 

Uchafbwyntiau'r Cwrs

Sut byddwch chi'n dysgu

Mae yna raglen ddarlithoedd a seminarau amrywiol, gyda gwaith grŵp helaeth, astudiaethau achos a siaradwyr gwadd o gefndiroedd amrywiol.

Asesu

Mae asesu’n digwydd drwy aseiniadau sy'n seiliedig ar waith cwrs. Mae'r asesiad terfynol yn draethawd hir, lle byddwch yn archwilio maes rheoli sydd o ddiddordeb arbennig i chi, neu brosiect sy'n seiliedig ar gwmni. Rhaid mai rheoli peirianneg yw pwnc y traethawd hir hwn.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Gyrfaoedd graddedigion

Llwybrau gyrfa posibl

Mae'n bwysig rhestru amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa posibl y gallai myfyrwyr eu dilyn ar ôl cwblhau'r cwrs. Ystyriwch y llwybrau gyrfa hynny a allai fod â chysylltiad uniongyrchol ac anuniongyrchol â gyrfa er mwyn rhoi amrywiaeth o opsiynau a syniadau i ddarpar fyfyriwr. Efallai bod gan lawer o fyfyrwyr lwybr clir iawn yn eu meddyliau, tra gallai eraill fod yn chwilio am ysbrydoliaeth ynghylch pa opsiynau gyrfa posibl sydd ar gael iddyn nhw. Os oes angen ysbrydoliaeth arnoch chi ynghylch llwybrau gyrfa posibl sy'n ymwneud â'ch maes pwnc, edrychwch ar prospects.ac.uk. 

Cymorth gyrfaoedd

Mae Gwasanaethau Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig cyngor ac arweiniad amrywiol i fyfyrwyr, a bydd cyfeiriadau at y gwasanaethau sydd ar gael i bawb wedi'u rhestru yn southwales.ac.uk/gyrfaoedd ac yn cael eu hychwanegu at wefan y cwrs yn ddiofyn. Fodd bynnag, os oes yna gyrsiau pwysig eraill neu fentrau penodol i bwnc yn cael eu cynnal yn lleol, mae cyfle i ychwanegu rhagor o fanylion yma. Boed hyn yn cynnwys cysylltu â gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr diwydiant neu fentoriaid, neu strategaethau i wella eu cystadleurwydd a'u dyheadau yn y farchnad swyddi, bydd rhagor o fanylion yn rhoi'r hyder, yr anogaeth a'r cymhelliant i ddarpar fyfyrwyr wneud cais.

Astudio yn PDC

Mae ein cyrsiau wedi'u cynllunio gydag arweinwyr diwydiant ac yn darparu'r sgiliau a'r profiadau ymarferol y mae'r diwydiant yn gofyn amdanynt. Mae ein cyrsiau hyblyg yn adlewyrchu'r angen am ddysgu gydol oes. Os ydych chi'n gwerthfawrogi addysg yn ymarferol, nid mewn theori yn unig, yna mae PDC ar eich cyfer chi.

SUT I WNEUD CAIS

Mae yna broses ymgeisio ar-lein ar gyfer y cwrs hwn. Dewiswch y ffurflen gais ar gyfer y dyddiad cychwyn a’r dull astudio o’ch dewis (h.y. amser llawn neu ran-amser).

Derbyniadau rhyngwladol

Gweler ein cyngor derbyn rhyngwladol i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais fel darpar fyfyriwr rhyngwladol.