Rheoli Poen
Mae gan yr MSc Rheoli Poen ffocws unigryw ar ddulliau rhyngddisgyblaethol ac amlddisgyblaethol o reoli poen a darparu gwasanaeth.
Sut i wneud cais/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/03-courses/nursing/nursing-msc-pain-management-placeholder-01.jpg)
Ar ôl cwblhau'r cwrs Rheoli Poen ar-lein, byddwch yn gallu ehangu'r wybodaeth am ddulliau ymchwil a'u cymhwyso i ymarfer ar lefel MSc a dangos y gallu i ddefnyddio gwybodaeth i addasu ymarfer proffesiynol i fodloni gofynion newidiol systemau gofal iechyd.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd y cwrs yn galluogi mwy o weithwyr gofal iechyd proffesiynol i gael yr wybodaeth ofynnol i drin cleifion, gan ddatblygu sgiliau datrys problemau a chlinigol.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- Gweithiwr Gofal Iechyd Proffesiynol
Sgiliau a addysgir
- Ymchwil
- Gwerthuso
- Datrys problemau
- Arweinyddiaeth
Trosolwg o'r Modiwl
Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol: Rheoli Poen
Bydd y modiwl yn helpu myfyrwyr i adnabod, deall, dehongli a chymhwyso dulliau a ddefnyddir mewn ymchwil gofal iechyd a gwerthuso'n feirniadol y gwahanol fethodolegau mewn ymchwil Rheoli Poen gan ddatblygu sgiliau arwain.
Prosiect Proffesiynol: Rheoli Poen
Byddwch yn datblygu gallu i werthuso meysydd ymarfer proffesiynol yn feirniadol; gwerthuso meysydd penodol o ymarfer clinigol, ymchwil a sefydliadol yn feirniadol; datblygu sgiliau mewn ymchwil ac astudio annibynnol a sgiliau sy'n berthnasol i gyhoeddiadau gwyddonol.
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Mae mynediad i'r cwrs fel arfer trwy'r cymwysterau canlynol:
- Gradd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol).
- Cymwysterau gofal iechyd proffesiynol perthnasol (ee meddyg, nyrs).
Bydd y rhai heb gymwysterau cydnabyddedig yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Disgwylir i fyfyrwyr yn yr 8 wythnos gyntaf ryngweithio â'u tiwtor yn wythnosol. Yna byddwch yn dewis prosiect penodol ac yn cyflwyno crynodeb/cynnig prosiect (tua 1,500 o eiriau).
Ar ôl i'r cynnig gael ei gymeradwyo, cwblheir y prosiect proffesiynol (10,500 o eiriau) ei hun trwy arweiniad a goruchwyliaeth ar-lein a gynigir gan y tiwtor.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Staff addysgu
Bydd y myfyriwr a'r tiwtor yn rhyngweithio'n rheolaidd (wythnosol) ar ardal drafod benodol y myfyrwyr/tiwtor neu drwy unrhyw ddulliau cyfathrebu eraill y mae'r ddau barti yn eu hystyried yn briodol (ffôn/SKYPE/e-bost).
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Cyfleusterau
Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.
/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/15-placeholder-images/South-Wales-Business-School_49782.jpg)
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna