Rheoli Pwysau a Gordewdra
Mae'r cwrs Gordewdra a Rheoli Pwysau ar-lein hwn yn canolbwyntio ar alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gaffael yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol i drin cleifion yn effeithiol.
Sut i wneud cais
Manylion Cwrs Allweddol
Mae'r cwrs Meistr mewn Gordewdra a Rheoli Pwysau, sy'n cael ei gynnal gyda'r Diploma MSc partner cydweithredol, yn creu gweithwyr proffesiynol sy'n gallu cyrchu gwybodaeth yn annibynnol a defnyddio'r wybodaeth i asesu, gwerthuso a lledaenu'r sylfaen dystiolaeth sy'n gysylltiedig â Gordewdra a Rheoli Pwysau yn feirniadol.
CYNLLUNIWYD AR GYFER
Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau datrys problemau a chlinigol gyda'i gilydd a fydd yn eu paratoi ar gyfer rolau arwain.
Mewn partneriaeth â
- Learna | Diploma MSc
Llwybrau Gyrfa
- GP
- Meddyg
- Deietegydd
- Seicolegydd
- Cwnselydd
Sgiliau a addysgir
- Datrys problemau
- Sgiliau clinigol
- Arweinyddiaeth
Trosolwg o'r Modiwl
Mae myfyrwyr sy'n symud ymlaen o'r cwrs Gordewdra a Rheoli Pwysau ôl-raddedig yn gwneud yr MSc blwyddyn sy'n cynnwys y modiwlau canlynol.
- Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol
- Prosiect Proffesiynol
Bydd myfyrwyr sy'n penderfynu cofrestru'n uniongyrchol ar yr MSc (yn hytrach na'r Diploma ôl-raddedig) yn gwneud y fersiwn dwy flynedd, sy'n cynnwys y modiwlau canlynol:
- Yr adipocyte, rheoleiddio archwaeth a maeth
- Gordewdra: diffinio gordewdra, epidemioleg a risgiau iechyd
- Achos gordewdra ac ennill pwysau mewn perthynas â chlefyd a geneteg
- Rheoli pwysau, Deiet, ymarfer corff a newid ymddygiad
- Rheoli Pwysau – Triniaethau meddygol a therapïau sy'n dod i'r amlwg
- Dulliau llawfeddygol o reoli pwysau
- Methodolegau Ymchwil a Gwerthuso Beirniadol
- Prosiect Proffesiynol
GOFYNION MYNEDIAD
Gofynion cymhwyster nodweddiadol:
Er mwyn sicrhau eich lle ar y cwrs, bydd ymgeiswyr fel arfer yn meddu ar radd gyntaf neu gyfwerth (gan gynnwys cymwysterau rhyngwladol) mewn maes gofal iechyd proffesiynol perthnasol, fel gradd feddygol neu nyrsio. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cofrestredig heb y cymwysterau cydnabyddedig hyn yn cael eu hystyried yn unigol a gellir ystyried ystod eang o brofiad blaenorol.
Gofynion Ychwanegol:
Mewn rhai achosion, efallai y gofynnir i ymgeiswyr gyflwyno darn o waith i'w asesu er mwyn cadarnhau eu bod yn gallu gweithio'n gyffyrddus ar lefel ôl-raddedig, a dangos y wybodaeth glinigol a phroffesiynol ofynnol.
Cynigion cyd-destunol
Mae’n bosibl y byddwn yn gwneud cynnig is i chi yn seiliedig ar amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys eich cefndir (ble rydych chi'n byw a'r ysgol neu'r coleg y buoch yn ei mynychu, er enghraifft), eich profiadau a'ch amgylchiadau unigol (fel rhywun sy'n gadael gofal, er enghraifft). Cyfeirir at hyn fel cynnig cyd-destunol, ac rydym yn derbyn data gan UCAS i'n cefnogi wrth wneud y penderfyniadau hyn.
Mae PDC yn ymfalchïo yn ei phrofiad myfyrwyr ac rydym yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni eu nodau a dod yn raddedigion llwyddiannus. Mae'r dull hwn yn ein helpu i gefnogi myfyrwyr sydd â'r potensial i lwyddo ac a allai fod wedi wynebu rhwystrau sy'n ei gwneud hi'n anoddach cael mynediad i brifysgol.
Rydym yma i helpu
P'un a oes gennych gwestiwn am eich cwrs, ffioedd a chyllid, y broses ymgeisio neu unrhyw beth arall, mae digon o ffyrdd y gallwch gysylltu, a byddem wrth ein bodd yn siarad â chi. Gallwch gysylltu â'n tîm mynediadau cyfeillgar dros y ffôn, e-bost neu sgwrsio â ni ar-lein.
Ffioedd a Chyllid
Costau Ychwanegol
Fel myfyriwr PDC, bydd gennych fynediad at lawer o adnoddau am ddim i gefnogi'ch astudiaethau a'ch dysgu, megis gwerslyfrau, cyhoeddiadau, cyfnodolion ar-lein, gliniaduron, a digon o adnoddau mynediad o bell. Yn y rhan fwyaf o achosion mae'r adnoddau hyn yn fwy na digon i'ch cefnogi i gwblhau eich cwrs. Efallai y bydd costau ychwanegol, yn orfodol ac yn ddewisol, ar gyfer teithio, aelodaeth, diwrnodau profiad, deunydd ysgrifennu, argraffu neu offer ac ati.
Sicrwydd Ansawdd Brifysgol
Yn PDC, rydym yn adolygu ein cyrsiau yn rheolaidd ar mwyn ymateb i batrymau newidiol y galw am gyflogaeth a sgiliau i sicrhau ein bod yn cynnig dysgu sydd wedi'i gynllunio i adlewyrchu anghenion myfyrwyr heddiw a gofynion cyflogwyr yfory.
Os bydd cynnwys cwrs yn cael ei newid yn sylweddol yn ystod proses adolygu, byddwn yn ysgrifennu i'ch hysbysu ac yn trafod y newidiadau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond beth bynnag fydd y canlyniad, ein nod yw arfogi ein myfyrwyr â'r sgiliau a'r meddylfryd i lwyddo beth bynnag a ddaw yfory. Eich dyfodol, mewn dwylo da.
Uchafbwyntiau'r Cwrs
Sut byddwch chi'n dysgu
Addysgir pob un o'r modiwlau ar-lein ac maent yn cynnwys dysgu hunangyfeiriedig, trafodaeth wedi'i hysgogi gan diwtor ar senarios achos, arholiadau, prosiectau grŵp a phrosiectau annibynnol. Astudir ymarfer myfyriol hefyd sy'n cynnwys ystyried sut y gallwch gymhwyso'r wybodaeth a gafwyd mewn gwaith ac ymarfer bob dydd.
Byddwch yn cynhyrchu adroddiad 12,000 o eiriau a fydd yn cynnwys cynnig prosiect 1,500 o eiriau a bydd y 10,500 gair sy'n weddill yn cynnwys adolygiad llenyddiaeth ac arfarniad tystiolaeth, archwiliad ymarfer clinigol neu sefydliadol. Bydd yn cynnwys gweithredu ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymgymryd ag ymchwil ansoddol neu feintiol hefyd.
Staff addysgu
Cyflwynir y cwrs gan fwrdd sydd ag enw da rhyngwladol ym maes Gordewdra a Rheoli Pwysau a darparu addysg ar-lein:
- Yr Athro Nadim Haboubi – Gastroenterolegydd Ymgynghorol a Chyfarwyddwr y Cwrs
- Dr Karl New, Arweinydd y Cwrs
Cyfleusterau
Fel rhan o'ch astudiaethau ar-lein, bydd gennych fynediad at ddeunyddiau'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ym Mhrifysgol De Cymru. FINDit yw porth y Brifysgol sy'n eich galluogi i chwilio am dros 13,000 o erthyglau cyfnodolion testun llawn, erthyglau newyddion, trafodion cynhadledd a thua 160 o gronfeydd data trwy un blwch chwilio - mae mwyafrif y deunyddiau hyn ar gael ar-lein. Mae modiwlau sgiliau astudio rhyngweithiol ar gael i'w hastudio drwy Blackboard i'ch galluogi i ddefnyddio'r gwasanaethau llyfrgell yn llawn.
Sut i wneud cais
Os ydych chi'n barod i wneud cais am y cwrs hwn, y cam nesaf yw cwblhau eich cais drwy ein partner cyflwyno, Learna Ltd. Er bod y cwrs hwn wedi'i ddilysu gan Brifysgol De Cymru, caiff pob cais ei brosesu'n uniongyrchol gan Learna. Ewch i wefan Learna, lle byddwch yn dod o hyd i gyfarwyddiadau manwl ar sut i wneud cais, gan gynnwys y dogfennau gofynnol a dyddiadau cau allweddol. Drwy wneud cais drwy Learna, byddwch yn cymryd y cam cyntaf tuag at ymuno â phrofiad dysgu hyblyg o ansawdd uchel wedi'i gynllunio i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau.
Gwefan Learna