Company Portal
Beth yw Company Portal?
Ap Microsoft yw Company Portal sy'n caniatáu i weithwyr sefydliad gael mynediad diogel at adnoddau corfforaethol gan ddefnyddio dyfeisiau allanol fel gliniaduron a ffonau symudol.
Company Portal ar ddyfeisiau symudol
O 2022, dim ond staff Cyber Essentials sydd am gael mynediad at ddata PDC trwy eu dyfais symudol sydd angen yr ap symudol Company Portal. Bydd eich Adran neu'ch Cyfadran yn cael gwybod ymlaen llaw pan fydd Gwasanaethau TG yn bwriadu cyflwyno Company Portal i'ch dyfeisiau symudol Android neu IOS.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am osod Company Portal ar eich dyfais symudol.
Company Portal ar liniaduron PDC
Mae Company Portal hefyd ar gael trwy liniaduron PDC. Yn y capasiti hwn, defnyddir Company Portal gan Wasanaethau TG i reoli dyfeisiau yn fwy effeithlon a sicrhau eu bod yn gyfoes â diweddariadau Windows a chlytiau diogelwch.
Fel un o weithwyr PDC, mae Company Portal hefyd yn caniatáu i chi gael mynediad diogel a gosod cymwysiadau allanol. Mae rhai cymwysiadau sydd â maint ffeil arbennig o fawr neu sy'n anghydnaws ag Uniapps felly os na allwch chi gael mynediad at gymwysiadau ar Uniapps, dylent fod ar gael i chi trwy Company Portal.
Sylwch hefyd fod Company Portal, a'r cymwysiadau sydd wedi'u gosod, yn unigryw i bob dyfais felly nid oes cysylltiad rhwng cyfrif Company Portal ar eich gliniadur a chyfrif Company Portal ar eich dyfais symudol.