Ein Polisïau
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau myfyrwyr a graddedigion yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Hysbysiadau Preifatrwydd a defnydd o ddata personol Gyrfaoedd
Mae'r 'Hysbysiad Preifatrwydd i Fyfyrwyr' yn amlinellu sut defnyddir data myfyrwyr Prifysgol De Cymru. Mae’r Brifysgol yn casglu gwybodaeth sy’n ymwneud â’i myfyrwyr ar adegau amrywiol yn ystod eu cyfnod fel myfyrwyr. Bydd data personol yn cael ei gasglu pan fyddwch chi’n gwneud cais, pan fyddwch yn cofrestru, ac yn ystod eich astudiaethau er mwyn ffurfio eich cofnod myfyriwr.
Pan fydd myfyrwyr yn cofrestru, bydd gofyn i’r Brifysgol gasglu, storio, defnyddio a phrosesu data amdanoch at unrhyw ddibenion sy’n gysylltiedig â’u hastudiaethau iechyd a diogelwch, ac am resymau eraill sy’n gysylltiedig â chyflawni contract gyda’r Brifysgol neu ar gyfer tasg gyhoeddus y Brifysgol er budd y cyhoedd. Bydd y Brifysgol hefyd yn defnyddio’ch data at ddibenion cyfyngedig ar ôl i chi raddio.
Mae'r 'Hysbysiad Preifatrwydd Cyn-Fyfyrwyr' yn darparu gwybodaeth ar sut mae ein tim Alumni yn defnyddio data. Mae’r Brifysgol, trwy ei gweithrediadau Alumni, yn casglu data personol at y diben cyffredinol o hysbysu a chefnogi ei chymuned o gyn-fyfyrwyr ar newyddion, datblygiadau a chyfleoedd ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae’r Tîm Datblygu Alumni yn gweithio’n agos gyda Gyrfaoedd PDC i ddarparu cymorth gyrfaoedd a hyrwyddo cyfleoedd gyrfa i raddedigion i’n cyn-fyfyrwyr.
Mae'r 'Hysbysiad Preifatrwydd Cyffredinol' yn nodi syt y bydd y Brifysgol yn prosesu data personol unigolion sy'n darparu gwybodaeth i Brifysgol De Cymru. Dylid ei ddarllen ar y cyd ag unrhyw hysbysiad a ddarparwyd gan yr adran/cyfadran a gasglodd y data.