Ennill Profiad

Gwirfoddoli

Gallwch ennill profiad gwaith drwy gynnig eich amser a'ch sgiliau i sefydliadau yn ddi-dâl. Mae'n ffordd wych o ddatblygu galluoedd proffesiynol, cyfoethogi eich CV, a chael mewnwelediad i ddiwydiannau penodol.

A student sat on a sofa in front of a window with a laptop.

Y buddion a ddaw o wirfoddoli:

  • Cyfoethogi eich CV gyda phrofiad ymarferol
  • Datblygu sgiliau newydd a derbyn hyfforddiant achrededig
  • Datblygu hyder a chysylltiadau proffesiynol
  • Tynnu sylw cyflogwyr tuag atoch
  • Ehangu eich rhwydwaith

Drwy wirfoddoli, byddwch hefyd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr fel:

  • Cyfathrebu
  • Gweithio mewn tîm
  • Arwain 
  • Datrys problemau
  • Rheoli amser
  • Bod yn hyblyg
  • Sgiliau rhyngbersonol
  • Gallu trefnu
  • Bod yn flaengar

Mae gwirfoddoli yn helpu eich twf academaidd, proffesiynol a phersonol.

Cyfleoedd Hyblyg – Gallwch addasu eich gwaith gwirfoddol i gyd-fynd â'ch amserlen, boed hynny ychydig oriau'r mis neu sawl diwrnod yr wythnos.

Dod o hyd i'r Cyfle Iawn - Mae cyfle gwirfoddoli addas i bawb! Nid dim ond mater o baratoi at yrfa mohono; mae’n gyfle i dreulio amser yn ymwneud â’r pethau rydych chi’n angerddol drostyn  nhw. 

Ymrwymo'n Ddoeth - Ystyriwch eich nodau - boed yn ennill profiad neu'n cefnogi achosion sy’n bwysig i chi. Ystyriwch faint o amser y gallwch chi ymrwymo a’r gofynion teithio. Os ydych chi’n derbyn budd-daliadau, gwiriwch sut y gallai gwirfoddoli effeithio ar eich hawliadau.

Mynd Dramor

Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid i gefnogi gwirfoddoli dramor.

Dysgwch fwy am wirfoddoli dramor

Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG)

Efallai y bydd angen gwiriad GDG arnoch chi ar gyfer rhai lleoliadau. Mae'r math o wiriad yn dibynnu ar natur a lleoliad y rôl.

Dysgwch fwy am wiriadau GDG
Student sat in the USW Careers office

CareersConnect

Gallwch weld cyfleoedd gwirfoddoli (gartref a thramor) – a chwilio am gyfleoedd i ehangu eich profiad a'ch sgiliau.