Ennill Profiad

Llesiant yn eich rôl newydd

Gall ddechrau rôl newydd fod yn gyfnod cyffrous, ond weithiau gall fod yn anodd. Efallai eich bod mewn dinas wahanol neu’n llywio’ch rôl newydd ar-lein. Gall yr amgylchedd newydd hwn deimlo’n frawychus, ond mae hyn yn hollol normal.

Student sat in SU with a cup of tea

Mae gofalu am eich iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol yn allweddol er mwyn caniatáu i chi deimlo a pherfformio ar eich gorau.

Awgrymiadau ar gyfer Llesiant

  1. Cydbwyso Bywyd a Gwaith – Nid yw llwyddiant yn ymwneud â gwaith yn unig. Blaenoriaethwch amser ar gyfer ffrindiau, teulu, ymarfer corff a hobïau er mwyn cadw cydbwysedd iach.
  2. Meithrin Cysylltiadau – Dewch i adnabod eich cydweithwyr. Mae perthnasoedd cryf yn darparu cefnogaeth ac yn agor cyfleoedd.
  3. Cymerwch Doriadau – Camwch i ffwrdd o’ch gwaith yn rheolaidd a gwnewch yn siwr eich bod yn cael toriad ginio iawn er mwyn cael egni.
  4. Manteisiwch ar Gamgymeriadau – Mae camgymeriadau yn rhan naturiol o ddysgu. Peidiwch â gadael iddynt eich digalonni, defnyddiwch nhw i dyfu.
  5. Rheoli Straen – Nodwch wraidd eich straen, fel llwyth gwaith trwm, a chymerwch gamau i fynd i’r afael â hyn. Gall arferion iach, fel ymwybyddiaeth ofalgar a lleihau caffein, helpu i leddfu pryder.

Awgrymiadau ar gyfer Gweithio’n Effeithiol o Adref

Datblygwch arferion iach o weithio o adref er mwyn rhoi hwb i’ch cynhyrchiant a’ch llesiant. Dyma ein hawgrymiadau:

  1. Cyfathrebu’n aml – Arhoswch mewn cysylltiad â’ch goruchwyliwr a’ch cydweithwyr, a threfnwch alwadau fideo rheolaidd ar gyfer amser wyneb pwysig.
  2. Gosodwch Ffiniau -  Cadwch waith a bywyd cartref ar wahân. Gosodwch oriau gwaith penodol a gwnewch yn siwr nad ydynt yn cymryd drosodd eich amser personol.
  3. Gwnewch y mwyaf o’r man gweithio – Cynheliwch fan gwaith proffesiynol, heb annibendod. Buddsoddwch mewn desg a chadair iawn i aros yn gyfforddus ac wedi canolbwyntio, yn enwedig yn ystod galwadau fideo.
  4. Ymarferwch hunan reolaeth – Byddwch yn drefnus gyda’ch amcanion trwy reoli eich amser yn dda, gosod terfynau amser, a blaenoriaethu tasgau.
  5. Blaenoriaethwch Lesiant – Gwrandewch ar eich anghenion – siaradwch â rhywun os ydych yn teimlo’n unig, a chymerwch doriadau fel mynd am dro i’ch dadflino.

Mae llawer ohonom yn ei chael yn anodd siarad am ein brwydrau gydag iechyd meddwl yn y gweithle, a all arwain at deimladau o unigrwydd. Fodd bynnag, mae’n bwysig atgoffa’ch hun bod help ar gael os oes ei angen arnoch, ac nad oes dim byd o’i le ar ofyn amdano. Felly, os ydych yn teimlo ei fod yn effeithio ar eich gallu i ffynnu, siaradwch â’ch goruchwyliwr amdano. Os byddwch yn sylwi bod eich iechyd meddwl yn gwaethygu’n sylweddol, ystyriwch siarad â gweithiwr proffesiynol.

Llesiant Gyrfa

Mae ein rhaglen o weithgareddau wedi’i chynllunio i gefnogi myfyrwyr a graddedigion wrth iddynt lywio’r heriau o ddechrau rôl newydd. Rydym yn cynnig ystod o adnoddau sy’n canolbwyntio ar adeiladu gwytnwch, rheoli straen, a chynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Nod ein rhaglen yw rhoi’r offer a’r strategaethau sydd eu hangen arnoch i ffynnu’n bersonol ac yn broffesiynol yn eich amgylchedd newydd.