Diwrnod Cyfweliad Bydwreigiaeth

Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod cyn mynychu eich cyfweliad Bydwreigiaeth. Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.

Archebwch eich Cyfweliad
A group of Midwifery students are watching a demonstration around a table.

Trefnu eich cyfweliad

I drefnu eich cyfweliad, cofrestrwch i'n Porth Digwyddiadau Prifysgol. Rhaid i ymgeiswyr fynychu cyfweliad cyn cael cynnig lle ar y cwrs. Os ydych wedi derbyn gwahoddiad am gyfweliad ond heb archebu eto, mewngofnodwch nawr i sicrhau eich lle.

Os nad ydych wedi defnyddio ein Porth Digwyddiadau o'r blaen, gallwch fewngofnodi gyda'r un cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd ar gyfer eich cais. I gael mynediad i'ch cyfrif a'ch opsiynau archebu, cliciwch ar 'Wedi anghofio eich cyfrinair?', dilynwch y camau i sefydlu'ch cyfrif, ac yna mewngofnodi i archebu eich lle.

Archebu eich cyfweliad

Methu gwneud dyddiad y cyfweliad?

Os nad ydych yn gallu mynychu unrhyw un o'r dyddiadau cyfweld sydd ar gael, neu os ydych wedi archebu ond bod angen i chi aildrefnu, gallwch gysylltu â'n Tîm Derbyn drwy e-bost ar [email protected] a fydd yn helpu i ddod o hyd i ddyddiad addas i chi.

[email protected]
student-25

Cyngor a pharatoi cyfweliad

Nid oes rhaid i gyfweliad deimlo'n frawychus. Ym Mhrifysgol De Cymru, dyma ein ffordd ni o ddod i'ch adnabod chi a deall eich ymrwymiad i'ch cwrs dewisol. Mae hefyd yn ein helpu i sicrhau eich bod chi'n rhannu gwerthoedd y proffesiwn ac yn barod i ofalu am eraill mewn lleoliad proffesiynol.

Dyma'ch cyfle i gwrdd â'n tîm, dangos i ni'r person y tu ôl i'r cais, a phenderfynu a yw Prifysgol De Cymru yn lle iawn i chi.

Bydd eich panel cyfweliad yn cynnwys darlithydd, clinigwr, ac weithiau defnyddiwr gwasanaeth. Gofynnir cwestiynau i chi am eich maes dewisol, eich dealltwriaeth o'r rôl, a'r rhinweddau sydd eu hangen i ddod yn nyrs neu'n fydwraig.

Meddyliwch amdano fel cyfle i fyfyrio ar eich sgiliau, eich profiadau, a'r hyn sy'n eich gwneud chi'n addas iawn ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol ym maes gofal iechyd.


Cyngor a pharatoi cyfweliad

Does dim rhaid i gyfweliad fod yn brofiad brawychus. Ym Mhrifysgol De Cymru rydym yn defnyddio'r broses gyfweld i asesu eich ymrwymiad i'ch dewis gwrs a sicrhau eich bod yn cynnal y gwerthoedd a ddisgwylir gan y proffesiwn ac yn addas i ofalu am eraill mewn lleoliad proffesiynol.  

Dyma’ch cyfle i gwrdd â ni a chaniatáu i ni ddod i adnabod y person y tu ôl i’r cais. Mae hefyd yn gyfle i chi benderfynu a ydym yn ffit iawn i chi a gallwch weld eich hun yn astudio gyda ni! 

Bydd y panel cyfweld yn cynnwys darlithydd a chlinigydd ac, mewn llawer o achosion, rydym hefyd yn gwahodd defnyddwyr gwasanaeth i fod yn rhan o'n panel cyfweld. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, gofynnir cyfres o gwestiynau i chi am eich dewis faes, eich dealltwriaeth o’r rôl, a’r rhinweddau sydd eu hangen ar bydwraig.  

Cofiwch, dyma’ch cyfle i feddwl am y rôl a’r rhinweddau sydd eu hangen, a sut mae eich doniau, eich sgiliau a’ch profiad trosglwyddadwy yn cyd-fynd â’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano mewn bydwregiaeth yn y dyfodol.  

A close up shot of a nurse, wearing scrubs and a stethoscope, looking at information on an iPad.

Cwestiynau Cyffredin Cyfweliad

Rydym wedi casglu rhai o'r cwestiynau cyfweliad nodweddiadol, fel y gallwch deimlo'n hyderus eich bod chi'n gwybod popeth a ofynnir i chi yn eich cyfweliad.

  • Beth ydych chi'n meddwl y mae bydwraig yn ei wneud?  
  • Ydych chi wedi siarad ar ran rhywun yn enwedig os oedd ganddynt bryderon?  
  • Sut mae'n gwneud i chi deimlo pan fyddwch chi'n clywed am bobl yn cael eu cam-drin?  

  • Pam ydych chi eisiau bod yn bydwraig gymwys?  
  • Beth wnaeth eich ysbrydoli i ystyried y proffesiwn hwn?  
  • Pam ydych chi'n meddwl eich bod chi'n addas iawn i ddod yn bydwraig yn y dyfodol?  

  • Pa rannau o'r cwrs ydych chi'n meddwl fydd fwyaf heriol i chi?  
  • Beth ydych chi'n edrych ymlaen ato fwyaf am y cwrs?  
  • Ble ydych chi'n gobeithio gwneud y gwahaniaeth mwyaf? Pam?  

  • Pa rinweddau sydd eu hangen arnoch i fod yn broffesiynol?  
  • Beth ydych chi'n ei wneud sy'n dangos ymddygiad proffesiynol?  
  • Sut mae eich gwerthoedd yn cyd-fynd â gwerthoedd y GIG a sut ydych chi'n dangos y gwerthoedd hynny?  
Exterior shot of the University Clinical Simulation Centre, Tramsheds.

Cyrraedd eich cyfweliad

Mae ein campws Glyn-taf (adeilad Elaine Morgan yng Nglyn-taf Isaf) yn hawdd i gyrraedd mewn car ac mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rhagorol. Rydym hefyd yn cynning Bwrsariaeth Teithio sy'n talu cost mynychu cyfweliad.