Cynigion Diamod
Os byddwch yn gwneud cais am gwrs gradd cymwys sy’n dechrau ym mis Medi 2027, efallai y cewch gynnig diamod. Mae hyn yn golygu na fydd eich lle gyda ni yn dibynnu ar y graddau terfynol y byddwch yn eu cyflawni.
Dysgwch fwy Telerau ac amodau
Mae dewis prifysgol yn benderfyniad mawr. Ym Mhrifysgol De Cymru, credwn na ddylai eich dyfodol gael ei ddiffinio gan un set o ganlyniadau.
Rydym yn credu yn eich potensial ac yn yr hyn y gallwch ei gyflawni gyda’r cyfleoedd, y cymorth a’r profiadau cywir o’ch cwmpas. Dyna pam y gall ymgeiswyr cymwys ar gyfer cyrsiau israddedig dethol gael cynnig diamod ar gyfer mis Medi 2027.
Beth yw cynnig diamod?
Mae cynnig diamod yn gwarantu lle i chi astudio’r cwrs y gwnaethoch gais amdano ym Mhrifysgol De Cymru. Nid yw’n dibynnu ar eich canlyniadau. Fodd bynnag, byddem yn dal i’ch annog i wneud pob ymdrech i gyflawni graddau da yn eich canlyniadau terfynol.
Hyder yn yr hyn y gallwch ei gyflawni
Rydym yn credu ym mhotensial ein myfyrwyr ac mae gennym hanes cryf o’u helpu i gyflawni canlyniadau llwyddiannus.
Rydym yn falch o fod yn brifysgol #1 yng Nghymru ac yn 24ain yn y DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027, sy’n ystyried addysgu, profiad myfyrwyr, gwerth ychwanegol a dilyniant gyrfa.
Ym Mhrifysgol De Cymru, byddwch yn cyfuno astudio sy’n canolbwyntio ar yrfa â dysgu ymarferol, cymorth a chyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder ar gyfer eich cam nesaf.
Darganfyddwch pam mai PDC yw #1 yng NghymruCwestiynau Cyffredin
Rydym yn gwybod y gallai fod gennych ragor o gwestiynau am gynigion diamod a’r broses dderbyn, felly rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i geisio ateb eich cwestiynau.
Nac ydy. Dim ond i ymgeiswyr cymwys a chyrsiau dethol y mae’r cynllun yn berthnasol. Byddwn yn asesu eich cais ac yn rhoi gwybod i chi pa fath o gynnig y byddwch yn ei gael.
Mae’n golygu na fydd eich lle ar y cwrs yn dibynnu ar gyflawni graddau terfynol penodol na phwyntiau Tariff UCAS penodol. Bydd angen i chi gwblhau eich cymwysterau presennol o hyd a bodloni unrhyw ofynion eraill sy’n berthnasol i’ch cwrs neu’ch cofrestriad.
Oes. Rhaid i chi gwblhau’r cymwysterau rydych wedi dweud wrthym eich bod yn eu hastudio. Rydym hefyd yn eich annog yn gryf i barhau i weithio tuag at y canlyniadau gorau y gallwch eu cyflawni.
Mae’r rhan fwyaf o gyrsiau israddedig amser llawn cymwys ym Mlwyddyn 0 a Blwyddyn 1 wedi’u cynnwys, ond mae rhai cyrsiau wedi’u heithrio oherwydd gofynion proffesiynol, rheoleiddiol neu ofynion mynediad penodol. Rhestrir isod y cyrsiau na ellir eu cynnwys yn y cynllun hwn:
- BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion)
- BSc (Anrh) Nyrsio (Plant)
- BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl)
- BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu)
- BSc (Anrh) Bydwreigiaeth
- BSc (Anrh) Ymarfer yr Adran Lawdriniaethau
- BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol
- BSc (Anrh) Ffisiotherapi
- Meistr Ceiropracteg
- BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol
- BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol
- BA (Anrh) Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC (Cyfrwng Saesneg)
- BA (Anrh) Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC (Cyfrwng Cymraeg)
- BSc (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig
Mae gan rai cyrsiau ofynion proffesiynol, rheoleiddiol neu academaidd penodol y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gallwch gofrestru.
Byddwn yn asesu eich cais ac yn cadarnhau eich cynnig. Os byddwch yn cael cynnig diamod, byddwn yn esbonio’n glir beth mae hynny’n ei olygu ac unrhyw ofynion eraill y bydd angen i chi eu bodloni o hyd.
Gallwch, yn bendant. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn ymweld â ni. Mae cynnig diamod yn rhoi sicrwydd i chi am eich lle academaidd, ond mae ymweld â PDC yn rhoi cyfle i chi wneud yn siŵr mai’r cwrs a’r brifysgol sydd orau i chi.
Dim ond i’r cwrs y gwnaed y cynnig ar ei gyfer y mae eich cynnig yn berthnasol. Os byddwch yn newid cwrs, bydd angen i ni asesu eich cymhwystra eto.