Telerau ac Amodau
Cynllun Cynigion Diamod Prifysgol De Cymru

1. Mae Cynllun Cynnig Diamod ("y Cynllun") Prifysgol De Cymru ("y Brifysgol") yn galluogi'r Brifysgol i adolygu ceisiadau a gwneud cynnig Diamod i Ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion cymhwysedd.  
  
Cymhwysedd 

2. Dim ond i ymgeiswyr sy'n talu ffioedd Cartref ac sy'n seiliedig yn y DU y mae'r Cynllun ar gael.  

3. I fod yn gymwys, rhaid i ymgeiswyr fod wedi gwneud cais i astudio blwyddyn 0 (Blwyddyn Sylfaen) neu flwyddyn 1 cwrs cymwys israddedig amser llawn (rhoddir manylion cyrsiau anghymwys ym mharagraff 8 isod) a rhaid iddynt fod yn astudio neu eisoes wedi cwblhau'r pynciau neu'r cymwysterau penodol sy'n ofynnol i gael mynediad i'r cwrs hwnnw. Er enghraifft, pan fo cwrs yn ei gwneud yn ofynnol i ymgeiswyr fod wedi astudio pwnc penodol, ni fydd ymgeiswyr nad ydynt yn astudio neu nad ydynt wedi cwblhau'r pwnc hwnnw yn gymwys ar gyfer y Cynllun. Mae mynediad uwch (h.y. mynediad i flwyddyn 2 a 3) neu flwyddyn o gwrs Atodol wedi'i eithrio o'r Cynllun hwn oherwydd gofynion Cydnabod Dysgu Blaenorol. 

4. Ni fydd unrhyw ymgeiswyr sydd angen TGAU neu sydd ag amodau prawf Saesneg cydnabyddedig fel rhan o'u cynnig yn gymwys ar gyfer y Cynllun. 

5. Mae ymgeiswyr sy'n dymuno gohirio eu mynediad i flynyddoedd dilynol yn gymwys ar gyfer y Cynllun.  

6. Ni fydd ymgeiswyr sydd ag ymholiadau heb eu hystyried yn ymwneud â'u statws ffioedd cartref yn y DU yn gymwys ar gyfer y Cynllun.  

7. Ni fydd ymgeiswyr ar gyfer y cyrsiau a restrir yn amod 8 yn gymwys ar gyfer y cynllun.   
  
Manylion y Cynllun 

8. Mae pob cwrs Prifysgol lle mae ymgeisydd wedi gwneud cais am fynediad blwyddyn 0 neu flwyddyn 1 ac yn academaidd addas ar gyfer y cwrs y maent wedi gwneud cais iddo (gweler paragraff 3) yn gymwys ar gyfer y Cynllun hwn gydag un eithriad. Mae rhai cyrsiau na ellir eu cynnwys yn y Cynllun hwn oherwydd gofynion achrediad neu fynediad penodol gan gorff allanol. Mae'r rhain wedi'u rhestru isod:  
  
BSc (Anrh) Nyrsio (Oedolion)  
BSc (Anrh) Nyrsio (Plant)  
BSc (Anrh) Nyrsio (Iechyd Meddwl)  
BSc (Anrh) Nyrsio (Anableddau Dysgu)  
BSc (Anrh) Bydwreigiaeth  
BSc (Anrh) Ymarfer Adran Lawdriniaeth  
BSc (Anrh) Therapi Galwedigaethol  
BSc (Anrh) Ffisiotherapi  
Meistr mewn Ceiropracteg  
BSc (Anrh) Gwyddorau Meddygol  
BSc (Anrh) Gwaith Cymdeithasol  
BA (Anrh) Addysg Gychwynnol i Athrawon Cynradd gyda SAC   
BSc (Anrh) Cwnsela ac Ymarfer Therapiwtig  
Pob cwrs Atodol blwyddyn o hyd  

 9. Nid yw'r Cynllun hwn yn rhoi blaenoriaeth i ymgeiswyr am lety PDC. Unwaith y bydd ymgeisydd yn derbyn eu cynnig gyda PDC yn gadarn, dylent wneud cais am lety yn y ffordd arferol. Nid oes proses ymgeisio â blaenoriaeth ar gyfer llety i rai sydd wedi cael cynnig Diamod, ond mae rhywfaint o'n llety yn debygol o gael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin. Caiff ymgeiswyr eu hannog i wneud cais am lety a thalu eu blaendal cyn gynted ag y byddant yn derbyn eu cynnig gan PDC yn gadarn.   

10. Os yw'r graddau a gaiff ymgeisydd wrth gael mynediad yn is na'r meini prawf mynediad a hysbysebwyd ar gyfer y cwrs, bydd PDC yn anrhydeddu'r cynnig Diamod, waeth beth fo'r graddau a gafwyd. Dylid annog ymgeiswyr i geisio cael y graddau gorau y gallant gan y bydd y graddau hyn yn eu dilyn am weddill eu bywyd a gallai effeithio ar astudiaethau neu rai llwybrau gyrfa yn y dyfodol.

11. Mae Telerau ac Amodau ychwanegol yn berthnasol fel yr amlinellir yn llythyr cynnig yr ymgeisydd, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i Delerau ac Amodau Polisi Derbyn, Telerau ac Amodau Myfyrwyr, a Thelerau ac Amodau Llety (fel y bo'n berthnasol).  

12. Os yw ymgeisydd yn derbyn cynnig Diamod yn Gadarn ar UCAS, ni allant dderbyn dewis Yswiriant hefyd. Dim ond os yw'r rhain yn gynigion Amodol (ac nid Diamod) y gallant dderbyn dewis Cadarn ac Yswiriant. Os byddant yn derbyn PDC fel cynnig Yswiriant Diamod, ac os yw prifysgol eu dewis Cadarn Amodol yn newid eu cynnig i Ddiamod, mae hyn yn golygu bod eu lle yn cael ei gadarnhau yn y brifysgol arall honno.

13. Mae'r Cynllun yn berthnasol i'r cwrs/cyrsiau y mae'r ymgeisydd wedi cael cynnig ar eu cyfer yn unig ac nid unrhyw gyrsiau eraill.   
 14. Bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw gan y Brifysgol at ddibenion y Cynllun a bydd yn cael ei storio a'i defnyddio yn unol â pholisi preifatrwydd PDC: Hysbysiadau Preifatrwydd a Defnydd o Wybodaeth Bersonol | Prifysgol De Cymru (yn agor mewn tab newydd).  

15. Bydd y telerau ac amodau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, ac mae'r Brifysgol a chi yn cytuno i ddefnyddio llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.  

16. Os bydd unrhyw anghydfod, rydych yn cydnabod bod gan y Brifysgol weithdrefnau derbyn llym y mae'n rhaid iddi eu dilyn, gan gynnwys rheoli meini prawf derbyn perthnasol ar gyfer ei chyrsiau ac felly mae penderfyniad y Brifysgol yn derfynol.  

17.Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio'r Telerau ac Amodau hyn a/neu dynnu'r Cynllun hwn yn ôl heb rybudd. Os caiff y telerau hyn eu diwygio neu eu tynnu yn ôl, bydd pob Cynnig Diamod cyn y diwygiadau / tynnu'n ôl yn cael ei anrhydeddu.  

 18. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i dynnu cynnig yn ôl pan fo'r wybodaeth a ddarparwyd mewn cais yn sylweddol anghywir, anghyflawn, camarweiniol neu na ellir ei gwirio, yn unol â Pholisi Derbyn a thelerau ac amodau perthnasol. 

19. Dylid cyfeirio cwestiynau ynghylch y Cynllun hwn at [email protected].   

Geirfa 

Cynnig amodol – yn golygu cynnig o le ar gwrs yn ddibynnol ar amodau. I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen i chi fodloni'r amodau – fel arfer yn gysylltiedig â chanlyniadau eich arholiadau. Mae hwn yn fath cyffredin o gynnig i ymgeiswyr sy'n gwneud cais yn uniongyrchol o addysg bellach. 

Gohirio – yn golygu yr hoffech gario cynnig i ddechrau eich cwrs i'r flwyddyn academaidd ganlynol. Rhaid i gynigion fod yn Ddiamod cyn 31 Awst 2027 neu fel arall ni ellir cadarnhau gohirio. 

Gofynion mynediad – yw gofynion darparwr y cwrs i gael eich derbyn i astudio ar eich dewis gwrs; gall hyn gynnwys cymwysterau a phynciau neu raddau penodol, cyfweliadau, profion derbyn, a gofynion meddygol. Fodd bynnag, nid oes sicrwydd y cewch gynnig os ydych yn bodloni'r gofynion hyn neu os ydych eisoes wedi bodloni'r gofynion hyn. 

Dewis cadarn – yn golygu cynnig rydych chi'n ei dderbyn fel eich dewis cyntaf. 

Dewis yswiriant – yn golygu cynnig rydych chi'n ei dderbyn fel eich ail ddewis – rhag ofn na fyddwch yn bodloni amodau eich cynnig cadarn. Mae cyfyngiadau yn berthnasol, fel a nodwyd ym mhwynt 12 uchod. 

Graddau a ragwelir – yn golygu'r graddau y mae athro, tiwtor, neu gynghorydd arall sy'n gymwys i wneud sylwadau ar addasrwydd academaidd myfyriwr yn credu y byddant yn eu cyflawni pan fyddant yn cwblhau eu cymhwyster uwchradd. 

Cynnig diamod – yw’r cynnig o le ar gwrs heb unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymwysterau a phrofiad er mwyn cael mynediad i'r cwrs (mae telerau ac amodau mynediad yn berthnasol) – mae’r lle ar gael i chi os ydych ei eisiau.