Wedi’i rhestru’n brifysgol #1 yng Nghymru

Pam ein bod ni ymhlith y gorau yn y DU o ran addysgu, canlyniadau graddedigion a phrofiad.

BETH SY'N GWNEUD I NI SEFYLL ALLAN?
Two USW students walking outside of Cardiff Campus - Atrium

Mae dewis ble i astudio yn un o'r penderfyniadau mwyaf y byddwch chi byth yn eu gwneud.


O addysgu rhagorol a dysgu ymarferol i gyfleusterau o’r radd flaenaf a chyrsiau sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, rydym yn falch o gael ein henwi’n brifysgol orau Cymru ac ymhlith 25 prifysgol orau’r DU yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2027.

Mae Canllaw Prifysgolion y Guardian yn eich helpu i gymharu prifysgolion ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i fyfyrwyr, o ansawdd addysgu i ragolygon gyrfa, fel y gallwch wneud dewis hyderus a gwybodus.

Mae'r rhestrau'n rhoi wyth sgôr wahanol i bob sefydliad i ffurfio cyfanswm o 100 ac yn cynnwys adborth myfyrwyr go iawn o'r Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol blynyddol.

Yn wahanol i dablau cynghrair sy'n llawn ymchwil, mae rhestr y Guardian yn canolbwyntio ar brofiad a chyflogadwyedd myfyrwyr gan gynnwys boddhad myfyrwyr gydag addysgu ac adborth, y gymhareb myfyrwyr i staff, y gwariant fesul myfyriwr, gwerth ychwanegol, a dilyniant gyrfa 15 mis ar ôl graddio.

Graddedigion yn dathlu
  • Rydym ar frig y rhestr yng Nghymru mewn wyth maes pwnc, gan gynnwys Peirianneg Awyrofod, Animeiddio a Dylunio Gemau, Addysg, y Gyfraith, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Nyrsio a Bydwreigiaeth.

  • Mae 8 maes pwnc a gynigir yn y Brifysgol wedi’u rhestru ymhlith 10 gorau’r DU, gyda Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus a Bydwreigiaeth yn safle 1 yn gyffredinol.

#1

yng Nghymru ac yn 24ain o blith 123 o brifysgolion y DU, yn ôl Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027.

Canllaw Prifysgolion y Guardian 2027
  • Rydym ar frig y rhestr yng Nghymru mewn wyth maes pwnc, gan gynnwys Peirianneg Awyrofod, Animeiddio a Dylunio Gemau, Addysg, y Gyfraith, Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus, Nyrsio a Bydwreigiaeth.

  • Mae 8 maes pwnc a gynigir yn y Brifysgol wedi’u rhestru ymhlith 10 gorau’r DU, gyda Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus a Bydwreigiaeth yn safle 1 yn gyffredinol.

BETH SY'N GWNEUD I NI SEFYLL ALLAN?

Ar frig y rhestr yn y DU ar gyfer Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus

Mae ein cyrsiau Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus ar frig y rhestr yn y DU ac yng Nghymru. Rydym hefyd ar frig y rhestr yng Nghymru am werth ychwanegol a boddhad ag addysgu. Mae ein myfyrwyr yn dysgu drwy wneud, gan fynd i’r afael â phrosiectau go iawn a datblygu’r sgiliau creadigol, digidol a strategol sydd eu hangen ar gyflogwyr, gyda chefnogaeth cyrsiau sydd wedi’u hachredu’n broffesiynol.

Dysgwch fwy am Farchnata

Prifysgol Orau’r DU ar gyfer Bydwreigiaeth am yr Ail Flwyddyn yn Olynol

Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol De Cymru sydd â'r safle uchaf yn ôl y Guardian yn y DU a Chymru. Mae myfyrwyr yn mwynhau dysgu trochol, yn y byd go iawn trwy leoliadau ysbyty a thrwy ein wardiau mamolaeth efelychiedig, sy'n cynnwys efelychwyr geni a mamolaeth uwch a all ail-greu gwahanol gamau o feichiogrwydd.

Dysgu mwy am Fydwreigiaeth

two students in navy overalls looking up at the underneath of a plane
Three child nursing students examining a patient simulator.
Students surrounding a Chiropractic table.
Fashion student sitting at a desk using a sewing machine.
Two hands reaching up to give judges folders of papers during a court session.
Two nursing students working in the simulation centre
two crime scene investigators photographing evidence
student in classroom using computer and looking at screen with a cgi visual of a man on screen

MAE EIN DULL O ADDYSGU YN RHOI’R WYBODAETH, Y SGILIAU A’R PROFIAD DIWYDIANNOL SYDD EU HANGEN AR FYFYRWYR I LWYDDO YN EU GYRFAOEDD.

Prof. Osama Khan

Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr



Diwrnodau Agored i ddod

Gweld pob Diwrnod Agored

Dewch i gwrdd â ni ar y campws i weld beth sy'n ein gwneud ni'n arbennig. Darganfyddwch ein cyfleusterau, crwydro'r campws, a chwrdd ag academyddion o'ch cwrs.