Ffasiwn
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng gofynion masnachu a chreadigrwydd.
Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025 Astudio Ffasiwn yn PDC
Casgliadau ac ymgyrchoedd yn cyfuno steil, creadigrwydd, a gwybodaeth fusnes.
BA (Anrh) Busnes a Marchnata Ffasiwn
Mae'r prosiect mawr olaf yn para’r rhan fwyaf o'r flwyddyn olaf, yn dechrau gyda'r gwaith ymchwilio a chynllunio’r prosiect yn nhymor un, cyn gweithio ar y prosiect a chyflawni’r briff mewn pryd i ddathlu’r cyflawniadau ar ddiwedd semester dau. Trwy gydol y modiwl hwn cewch eich cefnogi gyda thiwtorialau wythnosol gyda'r tîm addysgu i'ch cefnogi gyda'ch cynnydd.
Gall myfyrwyr greu eu briffiau eu hunain neu gallant ymateb i Friffiau Byw o’r diwydiant. Eleni gweithiodd myfyrwyr ar friff byw gyda chynnwys brand sliperi Bedroom Athletics, roedd cyfleoedd hefyd trwy D&AD a'r Cyngor Ffasiwn i ymateb i friffiau byw yn y diwydiant gan frandiau fel Depop, On sportswear a Pandora Jewlery. Y flwyddyn nesaf mae gennym friff byw cyffrous gyda Size?
BA (Anrh) Hyrwyddo Ffasiwn
Mae myfyrwyr BA (Anrh) Hyrwyddo Ffasiwn eleni yn cyflwyno amrywiaeth ddeinamig o Brosiectau Mawr Terfynol, yn adlewyrchu’r maes cyfathrebu ffasiwn sy’n prysur esblygu.
O ymatebion creadigol i friffiau D&AD New Blood i ymgyrchoedd steilio ffasiwn cynaliadwy â chydwybod cymdeithasol sy’n gweithredu dull cymdeithas-yn-gyntaf, mae'r gwaith yn cwmpasu zines arloesol yn cynnwys dillad stryd, hunaniaeth a diwylliant Cymreig, yn ogystal â llyfrau cynnyrch enghreifftiol Cotopaxi wedi'u curadu'n hyfryd a chylchgronau brand ASOS. Mae’r prosiectau hefyd yn ymchwilio i strategaethau digidol arloesol, cysylltiadau cyhoeddus, hysbysebu a ffotograffiaeth ddogfennol, gyda sawl cydweithrediad nodedig gyda brandiau - gan gynnwys ymgyrch gysyniadol yn uno Hollister gyda'r cerddor Gracie Abrams. Gyda'i gilydd, mae'r prosiectau hyn yn arddangos cenhedlaeth feiddgar, feddylgar a blaengar o gyfathrebwyr ffasiwn.
BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn
Mae portffolios ein myfyrwyr blwyddyn olaf yn cynrychioli penllanw blwyddyn ddwys o ymchwilio, datblygu dyluniadau, arbrofi a gwireddu casgliadau. Gan dynnu ar ymchwil marchnad a thechnegol, a strategaethau cysyniadol a hyrwyddo, mae pob portffolio yn arddangos hunaniaeth greadigol unigryw. Eleni, bydd gwaith ein graddedigion yn cael ei gynnwys ar-lein fel rhan o Ragolwg Graddedigion Wythnos Ffasiwn Llundain ym mis Medi.
Diddordeb mewn Ffasiwn?
Mae graddau ffasiwn ym Mhrifysgol De Cymru yn archwilio ac yn meithrin y cysylltiad rhwng masnacholdeb a chreadigedd. Ein nod yw cynhyrchu graddedigion ffasiwn â gweledigaeth sy'n barod ar gyfer gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd manwerthu a ffasiwn.