Diwydiannau Creadigol

Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025

Mae Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025 yn arddangosfa ar-lein o waith blwyddyn olaf myfyrwyr ar gyrsiau creadigol Prifysgol De Cymru. Mae'n arddangos y syniadau, y sgiliau a'r prosiectau gafodd eu datblygu gan fyfyrwyr wrth iddyn nhw baratoi at yrfaoedd yn y diwydiannau creadigol.

POP!-film

Dathliad o’r Doniau Creadigol yn PDC

O ffilm a gemau i ffasiwn, ffotograffiaeth, cerddoriaeth a mwy, mae'r ŵyl yn dod ag amrywiaeth eang o waith cyffrous a gwreiddiol ynghyd.
First Flight - Molly Hill

Animeiddio a Gemau

Cymeriadau, straeon a bydoedd rhyngweithiol gwreiddiol wedi'u creu yn defnyddio offer a thechnegau o safon y diwydiant.

Interior design student sitting in a studio using a laptop and smiling.

Dylunio

Prosiectau dylunio graffig, darlunio, hysbysebu a dylunio mewnol yn ymateb i heriau o’r byd go iawn.

gradfest-drama-film-projects

Drama a Pherfformio

Perfformiadau a gwaith creadigol gan fyfyrwyr yn paratoi at yrfa ar y llwyfan a’r sgrin a gyda digwyddiadau byw.

Jack-Hughes-Noble-Pursuits-image

Ffasiwn

Casgliadau ac ymgyrchoedd yn cyfuno steil, creadigrwydd, a gwybodaeth fusnes.

A group of students film inside a USW studio at Cardiff Creative Campus with ambient lighting

Ffilm ac Effeithiau Gweledol

Ffilmiau byrion ac effeithiau gweledol yn adlewyrchu sgiliau technegol a sgiliau storïa cryf.

Two media production students using tv recording equipment in a tv studio

Cyfryngau

Prosiectau cyfryngau yn dod â syniadau creadigol, gallu technegol, a pherthnasedd i’r byd go iawn ynghyd.

Musicians play on stage at immersed festival

Cerddoriaeth a Sain

Cerddoriaeth, dyluniadau sain, a chynyrchiadau byw gan fyfyrwyr sy'n barod i weithio ym meysydd cerddoriaeth a sain.

A woman in an old looking dress holds a burning torch and looks at intently on a hillside at sunset

Ffotograffiaeth

Ffotograffiaeth bwerus yn archwilio hunaniaeth, diwylliant a storïau personol.

student-25

Llwyddiant gan raddedigion PDC

Mae’r Ŵyl Graddedigion Creadigol yn dathlu gwaith blwyddyn olaf myfyrwyr – ond mae hefyd yn fan gwych i gychwyn gyrfa. Mae llawer o raddedigion PDC yn mynd yn eu blaen i yrfaoedd cyffrous mewn gwahanol feysydd yn y diwydiannau creadigol.

O weithio ym maes ffilm a theledu, dylunio ar gyfer brandiau byd-eang, perfformio ar y llwyfan a lansio labeli ffasiwn, i gynhyrchu cerddoriaeth a gemau - mae cyn-fyfyrwyr PDC yn gadael eu hôl yn y DU a ledled y byd.

Mae ein cysylltiadau cryf â’r diwydiant, ein haddysgu ymarferol, a phrosiectau byd go iawn yn helpu myfyrwyr i adeiladu'r hyder a'r sgiliau i lwyddo.


Ein myfyrwyr

Student sat at a desk working on a laptop
Ollie Clutton-Latham - BA (Anrh) Cyfathrebu Graffeg

"Mae'r profiad ymarferol wedi bod yn wych, o weithio ar friffiau byw i ryddid creadigol mewn prosiectau dylunio."

Fashion design student working on a piece of clothing, using a sewing machine in a fashion studio
Michalina Zukowska – BA (Anrh) Dylunio Ffasiwn

"Mae'r cynnydd yn  fy sgiliau a fy hyder yn gwneud y cyfan yn werth chweil."

Student Lucy making notes whilst sat a desk
Lucy Clover - BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol

"Trwy gydol fy astudiaethau, rydyn ni wedi cael cyfleoedd amhrisiadwy i rwydweithio."

Music graduate, Steve poses for a photo with a guitar
Steve Kenward – BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol

"Fe ges i’r sgiliau roedd eu hangen arnaf gan PDC."


Partneriaethau Creadigol PDC

Four students sat on steps outside the Cardiff Campus.
    • Cynghrair Sgrîn Cymru a Chynyrchiadau Bad Wolf

    • Cynllun Lleoliadau i Ôl-raddedigion  gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC

Partneriaethau Creadigol PDC

Mae Caerdydd yn gartref i gymuned greadigol fywiog, ac mae llawer o'r cwmnïau ar garreg ein drws yn gweithio mewn partneriaeth â ni i gyflwyno briffiau byw, darlithoedd gwadd a lleoliadau gwaith i'n myfyrwyr.

Archwilio ein partneriaethau creadigol
  • Cynghrair Sgrîn Cymru a Chynyrchiadau Bad Wolf

  • Cynllun Lleoliadau i Ôl-raddedigion  gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC