Ffotograffiaeth
Mae angen pobl sy'n gallu cael effaith gydag un ddelwedd ar y byd, a dyna'n union rydyn ni'n ei wneud. Mae ein myfyrwyr ffotograffiaeth talentog yn defnyddio lluniau i adlewyrchu eiliadau pwysig ac i adrodd straeon anhygoel.
Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025 Astudio ffotograffiaeth yn PDC
O ffasiwn i fforenseg, mae ein myfyrwyr ffotograffiaeth yn gweithio gydag arbenigwyr o wahanol ddiwydiannau i gyflwyno straeon trwy eu hiaith weledol eu hunain.
BA (Anrh) Ffotograffiaeth
________________________________________________________________________________________________________________________
Yn ystod eu blwyddyn olaf, mae myfyrwyr BA Ffotograffiaeth PDC yn cychwyn, datblygu a chyhoeddi gwaith all fod ar sawl ffurf. Y myfyrwyr unigol sy’n dewis y pwnc ar gyfer y prosiectau hyn ac maen nhw’n cael eu tywys drwy gyfres o gamau/pwyntiau pwysig drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys ymchwilio, datblygu, mireinio a chyhoeddi o fewn cyd-destun byd go iawn penodol wedi’i d ddewis yn ofalus. O ganlyniad, mae'r prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn yr Ŵyl Graddedigion eleni yn ganlyniad i gyfnod estynedig o arbrofi a gwneud penderfyniadau. Gobeithio y gwnewch chi fwynhau'r gwaith hynod uchelgeisiol ac eang y maen nhw wedi'i greu ac y byddwch yn dathlu eu llwyddiannau sylweddol gyda ni.
Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser i'n tîm staff weithio gyda'r myfyrwyr hyn dros y tair blynedd diwethaf ac rydym yn dymuno'n dda iddyn nhw i gyd wrth iddyn nhw gychwyn ar ddyfodol disglair, amrywiol ac addawol. Edrychwn ymlaen hefyd at groesawu'r genhedlaeth nesaf; felly, os oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio gyda ni a dod yn rhan o'n cymuned o ddysgwyr sy'n gweithio i lunio dyfodol ffotograffiaeth a’r diwylliant gweledol, cysylltwch â ni.
Croeso i'r Ystafell Aros
Mae Yr Ystafell Aros yn gyhoeddiad sy'n arddangos gwaith Graddedigion BA Ffotograffiaeth PDC 2025, cwrs tair blynedd a gyflwynir o'n campws pwrpasol trawiadol yng nghanol Caerdydd.
Lawrlwytho'r Ystafell Aros
BA (Anrh) Ffotograffiaeth Ddogfennol
Ar y Dot. Mae'n golygu cyrraedd yn union ar amser a bod yn y lle iawn. Mae'r arddangosfa hon yn uchafbwynt tair blynedd o waith caled gan grŵp o fyfyrwyr sy'n ymroddedig i greu straeon cymhleth, manwl, ac, yn anad dim, amserol. Mae'r naratifau a gyflwynir yma yn amrywio o ffotonewyddiaduraeth gymdeithasol i fersiynau arloesol o raglenni dogfen, a phopeth rhyngddynt.
Mae Ar y Dot yn cynnwys prosiectau terfynol deg ffotograffydd dogfen sydd ar fin mynd i mewn i'r byd proffesiynol. Cyflwynir y cyfresi sydd wedi'u cynnwys mewn myrdd o ffyrdd, gan gynnwys trwy brintiau, tafluniadau, llyfrau lluniau, gosodiadau safle-benodol, a thirweddau sain. Mae'r themâu a archwilir yn cynnwys ffermydd rhyng-genhedlaeth; lloches, mudo a diaspora; crefydd a threfedigaethiaeth; mannau diogel, perthnasoedd teuluol, a modelau rôl; hunaniaeth; a chwiliad am gymunedau go iawn a dychmygol. Mae'r lleoliadau a ddarlunnir yn cynnwys Cymru a Lloegr, yn ogystal â Ffrainc, yr Almaen, a Chwrdistan.
Mae’r deg prosiect yn adlewyrchu’r amrywiaeth o ddiddordebau sydd gan y grŵp yn ogystal â thraddodiad y cwrs o ymarfer ddogfen trylwyr a bywiog. Mae’n gwerthoedd craidd wastad wedi cynnwys parch, amrywiaeth a chydraddoldeb gan adrodd straeon, wedi cyfuno â dyfnder o ymchwil a nodedigrwydd gweledol. Rydym ni’n gobeithio fod y naratifau sydd wedi’u casglu dan faner On the Dot yn sbarduno ymateb pendant ym mhob un sy’n eu cyfarfod yn yr arddangosfa hon ac yn rhoi ysbrydoliaeth newydd i eraill sydd eisiau dilyn yn nhraed y myfyrwyr.
- Karin Bareman, ar ran tîm addysgu Ffotograffiaeth Ddogfennol 2025
Diddordeb mewn Ffotograffiaeth?
Gyda chyrsiau mewn Ffotograffiaeth a Ffotograffiaeth Ddogfennol, mae Prifysgol De Cymru wedi ennill enw da yn genedlaethol ac yn rhyngwladol am ragoriaeth. Fe welwch stiwdios ffotograffiaeth o safon fyd-eang ar y campws a chymuned o bobl angerddol sy'n ymwneud â llunio dyfodol diwylliant gweledol.