Ffilm ac Effeithiau Gweledol
Trwy ein cyrsiau ymarferol a'n cyfleusterau o'r radd flaenaf, gallwn gynnig y cyfleoedd gorau i fyfyrwyr adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus mewn ffilm a theledu.
Gŵyl Graddedigion Creadigol 2025 Astudio Ffilm ac Effeithiau Gweledol yn PDC
Ffilmiau byrion ac effeithiau gweledol yn adlewyrchu sgiliau technegol a sgiliau storïa cryf.
BA (Anrh) Effeithiau Gweledol a Graffeg Symudol
Callum Hard
What is Peace
Ar gyfer eu Prosiect Mawr Terfynol, roedd gofyn i’r myfyrwyr greu darn o waith trawiadol, mawr; rhywbeth fyddai’n arddangos y sgiliau roedden nhw’n bwriadu eu defnyddio yn y diwydiant. I wireddu hyn, gwnaeth Callum gyfarwyddo, ffilmio a golygu ffilm fer (dros 30 munud) ar ddod o hyd i heddwch wrth feicio yn y mynyddoedd, gan archwilio'r gwrthgyferbyniad rhwng yr hyn sy'n ymddangos yn gyffrous o'r tu allan, ond sy’n dod â heddwch mewnol.
Lewis Wills
Teitlau Agoriadol Cloak and Dagger
Mae Lewis Wills, dylunydd graffeg symudol trydedd flwyddyn, wedi creu teitlau agoriadol ar gyfer y sioe Cloak and Dagger. Gan ystyried pynciau'r sioe, mae Lewis wedi cyfuno sgiliau ymarferol darlunio 2D â llaw gyda sgiliau 3D hynod dechnegol, a’u cyfuno i bwysleisio gwrthwynebiadau ‘Cloak and Dagger’ y gyfres, o ran y ffordd mae’n edrych, ac yn y ffordd y cafodd y teitlau eu creu.
Lucy Clover
The Girl with All the Gifts
Ar gyfer ei Phrosiect Mawr Terfynol, mae Lucy wedi creu teitlau agoriadol ar gyfer y ffilm The Girl with All the Gifts. Yn waelodol i ddull Lucy wrth greu'r teitlau hyn roedd sicrhau bod pynciau'r ffilm yn cael eu hadlewyrchu drwy’r amser yn y delweddau, ac o ran eu hawyrgylch a’r teimlad eu bod wedi’u gwneud â llaw. Mae hon yn enghraifft wych o ffurf yn defnyddio’r swyddogaethau sydd ar gael bellach, gan ddefnyddio technegau 3D i greu effaith wedi'i dynnu â llaw pan oedd angen.
Matthew Parratt
Beyond Human
Roedd Matthew yn benderfynol o orffen ei dair blynedd gyda ffrwydrad o greadigrwydd, a dyna'n union sydd wedi digwydd. Mae Beyond Human yn fideo hyrwyddo ffilm mae wedi'i chreu, sy'n arddangos ystod o effeithiau gweledol nodedig o safon y diwydiant trwy ddefnyddio meddalwedd Nuke. Mae'r fideo hyrwyddo’n cynnwys arch-arwr ifanc a chymhleth; perffaith ar gyfer arddangos sgiliau Effeithiau Gweledol amlwg (llygaid disglair) i Effeithiau Gweledol mwy cynnil (paentio allan a chywiro).
Neve Clarke
Story Time
Mae'n hawdd rhagweld canlyniadau sgrin werdd, yn enwedig yn oes ffilmiau mawr fel Star Wars a Marvel. Yr hyn sy'n llai hawdd yw meddwl y tu allan i'r bocs o ran posibiliadau sgrin werdd; rhywbeth y mae Neve wedi bod yn ei archwilio ar ddechrau ei hail flwyddyn. Gan integreiddio ffilmio byw mewn amgylchedd tebyg i 2D, mae Neve wedi gwireddu’r Effeithiau Gweledol ac wedi darlunio pob elfen o'r amgylchedd â llaw, oll yn baratoad ar gyfer y gwaith mae’n gobeithio’i wneud yn y dyfodol fel artist amgylcheddol.
BA (Anrh) Ffilm
Diddordeb mewn Ffilm a'r Cyfryngau?
Mae'r cyfryngau o'n cwmpas, o ffilmiau mawr a darlledu teledu i gyfryngau cymdeithasol a chrewyr cynnwys. Mae'r gweithwyr proffesiynol y tu ôl iddynt yn llunio'r straeon a welwn a sut rydym yn deall y byd.