Sut rydym yn dyrannu llety
Wrth ddyrannu ystafelloedd, byddwn yn ystyried yr hyn sydd ar gael, y dewisiadau rydych wedi’u nodi, ac unrhyw anghenion llety penodol rydych wedi sôn amdanynt.
Dysgwch fwy
Mae dewis lle i fyw yn rhan gyffrous o baratoi ar gyfer y brifysgol, ac rydym am wneud y broses o ddod o hyd i lety mor syml â phosibl.
Os ydych yn gymwys o dan ein gwarant llety, byddwn yn sicrhau y cynigir ystafell i un person i chi. Ni allwn bob amser warantu lleoliad penodol na math penodol o ystafell, ond byddwn yn gwneud ein gorau i ddiwallu eich dewisiadau lle bo modd.
A oes gennyf warant o dderbyn llety?
Os ydych yn fyfyriwr israddedig neu ôl-raddedig Newydd, boed o’r DU neu o dramor, yn eich blwyddyn astudio gyntaf, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein gwarant llety.
Gallai eich llety fod mewn neuaddau preswyl PDC, neu, yn dibynnu ar argaeledd, gydag un o’n darparwyr llety preifat a ffafrir yng Nghaerdydd neu Gasnewydd.
Mae’r warant yn ymwneud â lle mewn llety, yn hytrach na lleoliad penodol neu fath penodol o ystafell. Byddwn bob amser yn ceisio diwallu eich dewisiadau, ond os nad yw eich dewis cyntaf ar gael, byddwn yn ystyried opsiynau addas eraill sydd ar gael i chi.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
- derbyn eich cynnig i astudio yn PDC a’n dewis fel eich dewis cadarn drwy UCAS
- gwneud cais am lety erbyn y dyddiad cau ar gyfer y warant
- cais am ystafell i un person ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfan
- talu unrhyw ffi archebu neu ffi cadw ofynnol erbyn y dyddiad cau
- derbyn eich cynnig llety o fewn y terfyn amser a nodir yn y cynnig, fel arfer pedwar diwrnod
- bodloni amodau eich cynnig i astudio yn PDC
Gall yr amodau penodol a'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais newid o flwyddyn i flwyddyn; felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r warant llety ar gyfer y flwyddyn y byddwch yn ymuno â ni.
Cwestiynau Cyffredin
Rydym yn gwybod y gallai fod gennych ragor o gwestiynau am y broses dyrannu a Llety; felly rydym wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i geisio ateb eich cwestiynau.
Rydym am i’n llety myfyrwyr fod yn lleoedd croesawgar a chefnogol i fyw ynddynt, felly, ein nod yw dyrannu ystafelloedd yn deg, gan greu cymunedau myfyrwyr amrywiol.
Mae nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar gael yng Nghaerdydd a Chasnewydd, ac fe’u dyrannir yn y drefn y derbynnir y ceisiadau. Os hoffech fyw yng Nghaerdydd neu Gasnewydd yn benodol, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais cyn gynted â phosibl.
Os yw’r ystafelloedd yn y lleoliad o’ch dewis eisoes yn llawn, peidiwch â phoeni. Byddwn yn edrych ar yr opsiynau eraill sydd ar gael, gallai hyn gynnwys llety gyda darparwr llety myfyrwyr arall yn yr ardal, neu ystafell ar gampws PDC gwahanol.
Gwnawn ein gorau!
Wrth wneud cais am lety, gallwch nodi eich lleoliad a’ch math o ystafell a ffafrir. Byddwn yn ceisio darparu’r hyn rydych wedi’i ddewis lle bo modd, ond yn anffodus ni allwn warantu ystafell benodol, math penodol o ystafell na lleoliad penodol.
Os nad yw eich dewis cyntaf ar gael, byddwn yn edrych ar lety amgen a allai fod yn addas i chi.
Oes. Rydym yn gwybod bod gan rai myfyrwyr amgylchiadau a all ei gwneud hi'n anoddach dod o hyd i lety addas; felly, rydym yn ystyried y rhain wrth ddyrannu ystafelloedd.
- myfyrwyr sy'n iau na 18 oed ac na ellid disgwyl yn rhesymol iddynt logi llety preifat
- myfyrwyr sy'n gadael gofal
- myfyrwyr sydd â chyflwr meddygol hirdymor, anabledd neu nam sy'n effeithio ar y math o lety sydd ei angen arnynt
- myfyrwyr sydd angen ystafell wedi'i haddasu, neu sydd angen bod yn agos at gyfleusterau penodol
- y byddai eu cartref yn gwneud teithio i'r Brifysgol yn anymarferol
Nid yw cael blaenoriaeth yn gwarantu ystafell neu leoliad penodol, gan y bydd angen i ni hefyd ystyried pa ystafelloedd addas sydd ar gael.
Os oes gennych anabledd, cyflwr meddygol hirdymor neu ofyniad hygyrchedd a allai effeithio ar ble rydych yn byw, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn rhoi'r cyfle gorau i ni ddeall eich anghenion ac ystyried llety addas sydd ar gael.
Gall ein Gwasanaethau Lles weithio gyda chi i ddeall eich gofynion a helpu i ddod o hyd i lety addas.
Bydd angen i chi gwblhau ein ffurflen gais arferol am lety. Ystyrir ceisiadau yn unigol, ac mae argaeledd ystafelloedd sydd wedi'u haddasu neu ystafelloedd arbenigol yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael ar y pryd.
Os oes angen addasiad penodol ar ystafell, neu os oes angen i ni ystyried llety ar gyfer gofalwr sy'n dod gyda chi, rydym yn argymell cysylltu â'n Gwasanaethau Lles cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi'n gadael gofal, byddwn yn gwarantu lle i chi mewn llety myfyrwyr, lle mae lle ar gael, pan fyddwch yn gwneud cais.
Byddwn hefyd yn hepgor y blaendal cadw lle.
Gallwch; efallai y bydd opsiynau ar gael o hyd.
Nid yw ein gwarant llety yn berthnasol i fyfyrwyr sy'n parhau â'u hastudiaethau, ond rydym yn neilltuo nifer cyfyngedig o ystafelloedd ar ein campws ym Mhontypridd ar gyfer myfyrwyr sy'n dymuno aros mewn llety neuadd myfyrwyr.
Caiff yr ystafelloedd hyn eu cynnig yn y drefn y derbynnir y ceisiadau ac fel arfer, mae ceisiadau'n agor tua mis Tachwedd neu fis Rhagfyr ar gyfer y flwyddyn academaidd ddilynol.
I fod yn gymwys, rhaid i chi:
- peidio â bod â dyled llety heb ei thalu i PDC
- peidio â bod wedi cael eich gwahardd o lety'r Brifysgol yn y gorffennol
- bodloni gofynion y cwrs sydd eu hangen i barhau i astudio am y flwyddyn academaidd gyfan
Os oes gennych angen meddygol hirdymor, os ydych yn gadael gofal, neu os ydych o dan 18 oed, efallai y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i'ch cais, yn dibynnu ar y llety sydd ar gael.
Mae nifer bach o opsiynau llety i deuluoedd ar gael gennym.
Gan fod y nifer sydd ar gael yn gyfyngedig iawn, rydym yn ystyried ceisiadau ar sail unigol. Os ydych yn chwilio am lety i deuluoedd, cysylltwch â’n tîm Llety yn [email protected] i gael gwybod pa opsiynau sydd ar gael.
Weithiau, rydym yn derbyn mwy o geisiadau nag sydd gennym o ystafelloedd. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y byddwn yn creu rhestr aros.
Wrth ddyrannu unrhyw ystafelloedd sy'n dod ar gael, byddwn yn rhoi blaenoriaeth i:
- fyfyrwyr sydd o dan 18 oed
- fyfyrwyr sydd angen addasiadau penodol i'w hystafell
- fyfyrwyr y byddai eu cartref yn gwneud teithio i'r Brifysgol yn anymarferol
- ymgeiswyr eraill
Os ydych yn ymuno â ni drwy'r broses Clirio, gallwch barhau i archwilio'r opsiynau llety sydd ar gael.
Gall argaeledd newid yn gyflym ar yr adeg hon o'r flwyddyn; felly, edrychwch ar ein tudalennau gwe llety i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ystafelloedd a sut i wneud cais.
Oes gennych chi gwestiynau o hyd?
Rydym yn gwybod bod dewis lle i fyw yn benderfyniad mawr. Felly, os oes rhywbeth nad ydych yn siŵr amdano, mae ein tîm Llety yma i helpu. Gallwch hefyd ddarllen ein Polisi Dyrannu Llety llawn i gael gwybodaeth fwy manwl.