Er mor gyffrous ag y gall prifysgol fod, gall hefyd ddod â heriau. Gall pethau deimlo'n llethol, ac efallai y bydd angen cefnogaeth arnoch gyda'ch lles a'ch iechyd meddwl. Rydyn ni yma i chi. Gall ein cynghorwyr siarad â chi i archwilio eich anghenion, eich cyfeirio at gymorth a'ch cefnogi'n uniongyrchol. Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o ddigwyddiadau i helpu i wella eich lles.
Os ydych chi'n astudio cwrs Prifysgol De Cymru trwy Goleg Partner, mae'r tudalennau hyn yn dweud wrthych chi pa ddarpariaethau a gwasanaethau y gallwch chi gael mynediad atynt gan PDC a pha rai gan eich coleg.
Am eich holl wybodaeth am ffioedd dysgu a thaliadau llety.
Ein cenhadaeth yw grymuso myfyrwyr i gyflawni llwyddiant academaidd trwy feithrin hyder, annibyniaeth a sgiliau trosglwyddadwy gydol oes.
Gall ein Tîm Cyngor Arian Myfyrwyr eich cynorthwyo gydag ochr ariannol eich astudiaethau.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn sefydliad democrataidd sy'n annibynnol ar y Brifysgol ac yn cael ei redeg gan fyfyrwyr, ar gyfer myfyrwyr. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnal gweithgareddau, digwyddiadau a lleoliadau ar gyfer gwirfoddoli a datblygu sgiliau.
Mae Argraffu a Dylunio PDC yn cynnig ystod o wasanaethau argraffu, dylunio, copïo a rhwymo i fyfyrwyr, staff a chwsmeriaid allanol.
Dylai eich amser ym Mhrifysgol De Cymru fod yn bleserus ac yn llwyddiannus wrth aros yn ddiogel ac yn saff. Efallai na fyddwch chi'n dod i gysylltiad â throseddu'n bersonol ac, yn galonogol, nid yw'r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn dod i gysylltiad â hynny, ond drwy gymryd ychydig o ragofalon, gallwch chi fod yn weithredol o ran lleihau'r siawns o ymddygiad bachu cyfle.
Mae Swyddogion Llwyddiant Myfyrwyr (SSOs) yn darparu cyngor ac arweiniad rheng flaen i'ch helpu i oresgyn rhwystrau i'ch astudiaethau. Mae SSOs wedi'u neilltuo i feysydd pwnc penodol, ond gallant hefyd helpu gydag ymholiadau cyffredinol.
Mae Gwasanaethau'r Llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr, academyddion ac ymchwilwyr PDC. Cymerwch olwg ar ein tudalen sgiliau Llyfrgell i chi ddechrau arni.
Gwasanaethau'r Llyfrgell