GradFest21 Creadigol: Myfyrwyr Ffasiwn a Hysbysebu yn lansio oriel stryd

24 Mehefin, 2021

Street gallery posters.jpg

Mae myfyrwyr Ffasiwn a Hysbysebu ym Mhrifysgol De Cymru (PDC) wedi lansio oriel stryd ledled Caerdydd i arddangos eu prosiectau gwych i raddedigion, fel rhan o GradFest21 Creadigol.

Mewn tro ar sioeau graddio blaenorol, nod yr oriel yw dathlu gwaith myfyrwyr drwy arddangos eu dyluniadau ar hysbysfyrddau ar draws y ddinas. Mae gwaith o'r holl gyrsiau yn y maes pwnc wedi'i gynnwys –Ddylunio Ffasiwn, Hyrwyddo Ffasiwn, Busnes a Marchnata Ffasiwn, a Dylunio Hysbysebu.

Dywedodd Simon Thomas, Arweinydd Cwrs Busnes a Marchnata Ffasiwn: “Rydym yn benderfynol o sicrhau bod gwaith caled pob myfyriwr yn cael ei ddangos mewn ffordd ddiddorol a diogel, gyda gwaith o bob un o'n cyrsiau yn cael ei arddangos, a chod QR ar bob poster i fynd â'r gwyliwr i weld mwy o'r gwaith. Rydym yn falch o gefnogi'r myfyrwyr mewn ffordd sy'n parhau'n ddiogel ac yn greadigol.”

Ychwanegodd Sam Eastcott, myfyriwr Busnes a Marchnata Ffasiwn: “Rwy’n credu bod hon yn ffordd wych a dychmygus o sicrhau ein bod ni fel myfyrwyr yn cael ein cydnabod am y gwaith caled rydym wedi'i wneud yn ystod ein hastudiaethau. Mae wir yn teimlo fel dathliad, ac o ystyried yr amgylchiadau presennol mae'n cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n gwneud synnwyr.”

Mae staff Ffasiwn a Hysbysebu wedi gweithio gyda chwmni cyfryngau Build Hollywood i gyflwyno’r ymgyrch. Mae’r oriel yn defnyddio hysbysfyrddau nas defnyddiwyd ar draws y ddinas a fyddai fel arfer yn cael eu harchebu gan fusnesau lletygarwch. Mae pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau symud dilynol wedi golygu nad yw’r byrddau hyn wedi newid ers rhywbryd, ac felly mae'r ymgyrch hon yn dod â lliw ffres, bywiog i’r ddinas.

Gallwch weld gwaith graddedigion Ffasiwn a Hysbysebu Prifysgol De Cymru ar draws gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd dros yr wythnosau nesaf, gan gynnwys:

  • Clare Road CF11 6RS
  • Lle Sant Andrew CF10 3BE
  • Pont reilffordd Ffordd Casnewydd CF24 0FB
  • Caffi Corbett Road CF10 3EB
  • Gorsaf drenau Grangetown CF11 7JB

Mae'r gwaith hefyd ar gael i'w weld ar Instagram:

@usw_fashion_marketing

@usw.advertising

@usw_fashion_promotion

@uswfashiondesign