
Mae lleoedd ar gael trwy clirio ar ein cyrsiau o hyd. Ffoniwch ni ar 03455 76 06 06
Roedd 100% o’n myfyrwyr BA (Anrh) Dylunio Hysbysebu’n fodlon â’u cwrs - Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022
Mae'r radd Dylunio Hysbysebu hon yn un o ychydig o gyrsiau hysbysebu arbenigol yn y DU. Mae wedi’i leoli ar gampws pwrpasol PDC, yng nghanolfan greadigol Caerdydd.
Rydym yn canolbwyntio ar syniadau creadigol, sgiliau technegol a deall diwylliant digidol cyfoes.
Byddwch yn archwilio meysydd fel cyfeiriad celf, ysgrifennu copi, marchnata, ymddygiad defnyddwyr a datblygu ymgyrchoedd strategol yn ogystal â sut i greu ymgyrchoedd integredig ar gyfer pob math o hysbysebu gan gynnwys y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf, dylunio symudiadau a chyfryngau printiedig traddodiadol megis allan o leoedd cartref a manwerthu a hysbysebion radio a theledu.
Bydd eich astudiaethau'n eich helpu i ennill sgiliau creadigol a thechnegol yn ogystal â'r hyder i weithio ym myd cyflym a chyfnewidiol y diwydiant hysbysebu naill ai fel gyrfa greadigol neu lwybr gyrfa ochr y cleient fel cynlluniwr cyfrifon neu brynwr cyfryngau.
Mae gennym ni gysylltiadau anhygoel gyda’r diwydiant hysbysebu a marchnata a byddwch yn gweithio gyda gweithwyr creadigol proffesiynol trwy brosiectau ‘byw’ yn y byd go iawn o ddechrau i ddiwedd y cwrs. Mae prosiectau diweddar wedi galluogi ein myfyrwyr i weithio gyda brandiau gan gynnwys Chanel, Nike, Google, Foster’s Lager, Cadburys, Dŵr Cymru, Fanta, Asahi Beer, Ben & Jerry’s ac Eurostar.
Rydym hefyd yn cymryd rhan weithredol yng nghynlluniau addysg D&AD New Blood (Dylunio a Chyfarwyddyd Celf) a’r YCN, sy’n rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr arddangos eu gwaith i asiantaethau hysbysebu proffil uchel ledled y DU.
Mae ein rhwydwaith diwydiant yn cynnwys asiantaethau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gellir gweld ein gwaith diweddaraf ar Instagram.
Mae ein graddedigion wedi symud ymlaen i yrfaoedd o fewn asiantaethau Caerdydd/Bryste gan gynnwys Blue Egg, Ubiquity, Populate, Burning Red a Epoch Design, yn ogystal ag asiantaethau byd-eang gan gynnwys Digitas LBi, Adam & Eve, Revolt, Cult Ldn, Isobar, Ogilvy, Havas Hellas a MullenLowe Llundain.
Fel rhan o’r cwrs, mae myfyrwyr yn cael y cyfle i fynychu teithiau i Fryste, Manceinion a Llundain yn ogystal ag ymweliadau tramor blynyddol i lefydd fel Toyko, Efrog Newydd, Berlin a Copenhagen.
Edrychwch ar ein cynnwys cynnig trwy ein Sianel YouTube.
Ymhlith y deg uchaf yn y DU ar gyfer asesu Dylunio Graffig (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
Ar y brig yng Nghymru ar gyfer addysgu ac asesu Dylunio Graffig (Canllaw Prifysgolion y Guardian 2024)
Gweld ein gwaith! Edrychwch ar rîl Sioe Dylunio Hysbysebu PDC 2022
2023 | Cod UCAS | Dull Astudio | Hyd | Dyddiad cychwyn | Campws | Cod Campws |
392A | Llawn amser | 3 blynedd | Medi | Caerdydd (ATRiuM) | B |
Cyrsiau Cysylltiedig

Mae ein Campws Caerdydd yng nghanol y ddinas - y cartref perffaith i'n myfyrwyr diwydiannau creadigol. Rydyn ni newydd orffen cyfnod newydd o fuddsoddi a datblygu campws, felly gallwn ni gynnig mwy fyth o gyfleusterau arbenigol.

Y gymuned a'r cyfeillgarwch y byddwch chi'n ei adeiladu sy'n gwneud y lle hwn yn arbennig. Y tu allan i'ch astudiaethau gallwch brofi ein cyfleusterau chwaraeon anhygoel ac Undeb y Myfyrwyr.

Mae byw mewn Neuaddau yn ffordd wych o gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Mae gennym lety o ansawdd uchel yn Treforest, Caerdydd a Chasnewydd.