Myfyrwyr Coleg Partner

Os ydych chi'n astudio mewn coleg partner, bydd eich amserlen arholiadau ar gael trwy dîm eich cwrs ar y dyddiad a nodir ar y dudalen Dyddiadau Allweddol ar gyfer Arholiadau.

Gwneir yr holl drefniadau ar gyfer eich arholiad, gan gynnwys y lleoliad, gan eich sefydliad astudio a bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyfleu ganddynt.

Newidiadau i amserlenni arholiadau

Unwaith y bydd yr amserlen wedi'i chyhoeddi i'ch calendr Outlook, efallai y bydd achlysuron pan fydd yn rhaid gwneud newidiadau anochel. Os yw hyn yn angenrheidiol, bydd eich amserlen yn cael ei diweddaru'n awtomatig yn eich calendr Outlook, a byddwch hefyd yn derbyn e-bost yn eich hysbysu o'r newidiadau.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio'ch amserlen yn rheolaidd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes angen i chi wneud trefniadau teithio cyn eich arholiadau.

Os ydych chi'n astudio ar gampws PDC, cyhoeddir eich amserlen arholiadau ar gyfer y prif gyfnodau ar-lein ar y dyddiad a nodir yn y dudalen Cyfnodau Arholiadau a Dyddiadau Allweddol.

Rhaid i fyfyrwyr fod ar gael trwy gydol y cyfnodau arholiadau i sefyll eu harholiadau. Ni ystyrir addasiadau ar gyfer gwyliau personol. 

Wrth osod yr amserlen arholiadau, nod y Brifysgol yw lleihau nifer y myfyrwyr y disgwylir iddynt sefyll mwy nag un arholiad mewn diwrnod neu ar ddiwrnodau olynol. Fodd bynnag, mae hyn weithiau'n anorfod oherwydd cymhlethdod yr amserlen arholiadau.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio'ch amserlen bersonol yn rheolaidd.  Bydd angen i chi ystyried hyn os oes rhaid i chi wneud trefniadau teithio estynedig cyn eich arholiadau.

Mae eich amserlen yn dangos cod y modiwl, teitl, cod asesu, dyddiad, amser ac ystafell eich arholiadau.

Sylwer, cyhoeddir gwybodaeth am ystafell a lleoliad bythefnos cyn yr arholiadau.  Ewch i Dod o hyd i Ystafell i ddod o hyd i le y cynhelir eich arholiad.

Bydd eich amserlen hefyd yn dangos anodiadau amserlen arholiadau, sef llaw-fer ar gyfer y math o arholiad rydych chi'n ei sefyll.

Gwybodaeth Darpariaeth Arbennig

Ewch i dudalennau'r Gwasanaeth Anabledd

Os oes unrhyw broblemau gyda'ch amserlen (e.e. gwrthdaro arholiadau, arholiadau’n ymddangos lle nad ydych wedi cofrestru ar eu cyfer mwyach, neu os oes unrhyw arholiadau ar goll) yna cysylltwch â [email protected] cyn gynted â phosibl.

Os oes gennych ymholiad am amserlen eich arholiadau, cysylltwch ag [email protected]