Paratoi ar gyfer eich arholiadau
- Gwiriwch eich amserlen i sicrhau bod yr holl arholiadau wedi'u rhestru (cysylltwch ag [email protected] os oes gennych unrhyw ymholiadau).
- Os oes gennych Gynllun Cymorth Unigol (ISP) dilys, sicrhewch fod y ddarpariaeth sydd ei hangen arnoch yn cael ei hadlewyrchu yn eich amserlen. Sylwer: os oes gennych ddarllenydd, ysgrifennydd neu deipydd fel rhan o'ch ISP ac os oes angen un arnoch ar gyfer arholiad, mae'n hanfodol eich bod yn siarad â'ch Arweinydd Modiwl i sicrhau bod un yn cael ei archebu.
- Byddwch yn ymwybodol o'r gweithdrefnau cyrraedd a gadael, ac ymgyfarwyddwch â lleoliad yr ystafell arholiad gan ddefnyddio MapsIndoors.
- Ymgyfarwyddwch â'r rheolau ynghylch ymddygiad myfyrwyr yn ystod arholiad, gan gynnwys eitemau nad ydynt yn cael eu caniatáu yn yr ystafell arholiad.
Ymgyfarwyddwch â rheolau ymddygiad myfyrwyr yn ystod arholiad, gan gynnwys eitemau na chaniateir mewn ystafell arholiad.
Byddwch yn ymwybodol o Rheoliadau Arholiad, 'Fit Polisi ‘Ffitrwydd i Sefyll’a Rheoliadau ar gyfer Cyrsiau a Addysgir.
Rhaid i chi ddarparu eich cerdyn adnabod myfyriwr yn ystod yr arholiad - cofiwch hyn ar gyfer pob arholiad
Gwaith papur enghreifftiol:
- Gweld sampl o bapur cwestiwn
- Gweld sampl o lyfryn ateb enghreifftiol
Bydd papurau arholiad blaenorol, os ar gael, yn cael eu rhannu gan eich tîm cwrs trwy Blackboard.