Y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil
A3: PROFFESIYNAU PERTHYNOL I IECHYD, DEINTYDDIAETH, NYRSIO A FFERYLLIAETH
Creu atebion i gymdeithas ac i’r economi.
Ymchwil yn PDC Canlyniadau’r Fframwaith yn 2021/prod01/channel_2/media/university-of-south-wales/site-assets/images/16-other/research/Learning-Disability-Nursing-_45780.jpg)
Mae gwaith ymchwil ym maes iechyd wedi'i rannu'n ddwy thema ymchwil eang sy'n gysylltiedig ag iechyd gydol oes: Atal ac Ymyrryd, a Rhyngwyneb Polisi ac Ymarfer. Mae ymchwil yn y maes hwn yn canolbwyntio ar boblogaethau anodd eu cyrraedd, grwpiau difreintiedig a chyd-forbidrwydd, a hynny yng nghyd-destun amrywiaeth o gyflyrau iechyd corfforol a meddyliol. I gyd-fynd â hyn, ceir hanes parhaus a rhagweithiol o ymwneud â rhanddeiliaid allanol gan gynnwys cleifion, gofalwyr a theuluoedd; llunwyr polisi; a phartneriaid diwydiannol/masnachol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol.
UCHAFBWYNTIAU’R FFRAMWAITH
- Mae 100% o effaith ein hymchwil iechyd yn rhagorol yn rhyngwladol (3*)
- Cydradd gyntaf yn y Deyrnas Unedig am effaith o blith 91 o brifysgolion – ar sail 4* / 3*
- Cydradd gyntaf yng Nghymru am effaith o blith pum prifysgol – ar sail 4* / 3*
- Mae 64% o’n hallbynnau gyda’r gorau yn y byd neu’n rhagorol yn rhyngwladol (4* / 3*)
CANLYNIADAU’R UNEDAU ASESU
% 4* |
% 3* |
% ≤ 2* |
|
Cyffredinol |
12 | 53 | 35 |
Allbynnau |
20.7 | 43.1 | 36.2 |
Effaith |
0.0 | 100.0 | 0.0 |
Yr Amgylchedd |
0.0 | 12.5 | 87.5 |
I weld y canlyniadau llawn ewch i www.ref.ac.uk.