Omoboyede (John) Alalabiaye Alalabiaye

Archwiliodd PhD Omoboyede (John) Alalabiaye sut y gall cyllid arloesol gefnogi polisïau amgylcheddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y diwydiant olew a nwy.

Busnes
Omoboyede Alalabiaye standing wearing USW lanyard and holding thesis

Enillais arbenigedd mewn dulliau meintiol, ansoddol a chymysg, a helpodd fi i sicrhau swydd darlithio yn PDC.


Trosolwg o’r ymchwil

Astudiais 34 o wledydd sy'n ddibynnol ar olew a chanfyddais fod lleihau allyriadau yn anodd oherwydd diffyg buddsoddiad, technoleg a chymhellion ariannol. Datblygais fframwaith yn pwysleisio'r angen am arweinyddiaeth gadarn gan y llywodraeth, gan gynnwys rheoliadau, cymhellion ac adnoddau i hyrwyddo arferion cynaliadwy. Profodd y fframwaith hwn yn effeithiol pan gafodd ei ddefnyddio gyda sector olew a nwy Nigeria. Mae fy nghanfyddiadau'n cynnig mewnwelediadau gwerthfawr i lunwyr polisi, gwledydd olew a nwy, rhanddeiliaid y diwydiant, selogion newid hinsawdd ac academyddion. 

Fy adeg hapusaf oedd sylweddoli bod fy astudiaeth wedi adeiladu ar fframweithiau damcaniaethol presennol, a’u gwella, yn enwedig ar ôl cyfnod lle roeddwn yn cwestiynu fy newis o bwnc. Cadarnhaodd hyn werth academaidd ac ymarferol yr ymchwil. 

Wrth gynnal yr ymchwil hon, enillais arbenigedd mewn dulliau meintiol, ansoddol a chymysg, a helpodd fi i sicrhau swydd darlithio yn PDC. Cryfhaodd y profiad fy ngwydnwch a'm natur benderfynol hefyd. Nawr, fy nod yw datblygu fy ngyrfa academaidd, mentora myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig, cyhoeddi fy ymchwil, rheoli fy muddsoddiadau a byw bywyd boddhaus. 

Ymchwil ôl-raddedig

CRYFHAODD Y PROFIAD FY NGWYDNWCH A'M NATUR BENDERFYNOL HEFYD.

Omoboyede (John) Alalabiaye

Myfyriwr PhD

Ffocws yr ymchwil 

Archwiliodd PhD Omoboyede (John) Alalabiaye, a ariannwyd gan Gronfa Datblygu Technoleg Petrolewm Nigeria, sut y gall cyllid arloesol gynorthwyo polisïau amgylcheddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y diwydiant olew a nwy. Wrth astudio 34 o wledydd sy'n ddibynnol ar olew, canfu fod lleihau allyriadau yn heriol oherwydd buddsoddiad, technoleg a chymhellion cyfyngedig. Mae ei fframwaith yn pwysleisio arweinyddiaeth gref gan y llywodraeth, sy'n hanfodol ar gyfer hyrwyddo arferion cynaliadwy. Mae'r mewnwelediadau hyn o fudd i lunwyr polisi, diwydiant a'r byd academaidd.

student-25

 diddordeb mewn ymchwil ôl-raddedig?

P'un a ydych chi'n dilyn PhD, MPhil, neu radd Meistr trwy Ymchwil, byddwch chi'n cael eich tywys gan arbenigwyr angerddol a blaenllaw, gan wneud effaith gadarnhaol ar unigolion, cymunedau, elusennau, busnesau a llywodraethau ledled y byd.