Mae’r tîm Gofod a Phrosiectau yn helpu’r Cyfarwyddwr Ystadau a Chyfleusterau i reoli’r broses o ddyrannu, defnyddio a datblygu gofod ar draws y Brifysgol. Mae’r tîm yn gweithio gyda chyfadrannau ac adrannau i ddarparu gofodau sy’n cefnogi ystod eang o anghenion ar draws y Brifysgol, gan greu’r amgylchedd dysgu gorau posibl ar gyfer myfyrwyr PDC.

Mae’r tîm Prosiectau yn rhan o’r gwaith o lunio’r briff gofod ar gyfer prosiectau adeiladu cyfalaf a’r gwaith o gynllunio a chyflawni prosiectau llai yn yr haf, mewn cydweithrediad â’r tîm Prosiectau Cyfalaf.

Mae’r Tîm Gofod yn gyfrifol am sicrhau bod mannau ar draws y Brifysgol yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau bosibl. Mae ganddynt hefyd ystod eang o ddata ar yr adeiladau a’r mannau sy’n ffurfio Ystad PDC. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau adeiladau, data GIA (Gross Internal Data) a dyrannu lle. 

Os oes angen unrhyw wybodaeth arnoch am ystad y Brifysgol, mae croeso i chi gysylltu â’r Swyddog Cynllunio Gofod.

I gael gwybodaeth am brosiectau Ystadau, cysylltwch â;
E-bost: Mike Bessell - Rheolwr Cynllunio a Phrosiectau Ystadau
Ffôn: (01443) 4 82039

I gael gwybodaeth am Gynllunio Gofod, cysylltwch â;
E-bost: Becky Grant - Swyddog Cynllunio Gofod
Ffôn: (01443) 4 54120