Y tîm cynllunio gofod sy’n rheoli’r broses o ddyrannu lle yn adeiladau’r Brifysgol a chaiff y broses ei hawdurdodi gan Fwrdd y Cyfarwyddwyr a’r Grŵp Rheoli Gofod. Rhaid trafod unrhyw ofynion i addasu neu ailddyrannu lle gyda’r tîm Cynllunio Gofod yn gyntaf, a fydd yn cynghori a yw’r gofyniad yn ddichonadwy ac yn helpu gyda’r gwaith cynllunio.  

Caiff cyfadrannau ac adrannau eu hannog i edrych dros ddeuddeg mis ymlaen llaw os yw gofod i gael ei nodi a’i ddarparu. Mae angen rhoi ystyriaeth briodol i'r gost a'r amser sy'n gysylltiedig â gwneud yr addasiadau gofynnol.

Os oes gan gyfadrannau neu adrannau ofod nad oes ei angen arnynt bellach, dylid rhoi gwybod i’r tîm Cynllunio Gofod er mwyn gallu dechrau ar y broses o ailddyrannu.

Mae’r adran ystadau yn cwrdd yn rheolaidd â chyfadrannau ac adrannau i bennu anghenion a blaenoriaethau o ran lle. Dylai anghenion y gyfadran neu’r adran gael eu trafod yn gyntaf gyda Phenaethiaid Gweinyddiaeth neu Benaethiaid Adrannau. Dylai ceisiadau am ofod ychwanegol gyd-fynd â’r amcanion academaidd/adrannol a fynegir mewn cynlluniau strategol. Yna bydd yr adran Cynllunio Gofod yn ceisio awgrymu atebion i anghenion o ran gofod. 

Pan fydd cais ffurfiol wedi dod i law a lle wedi’i nodi, ei gymeradwyo gan y gyfadran/adran a’i gymeradwyo gan y Grŵp Rheoli Gofod, caiff y lle ei ddarparu a chaiff cronfa ddata’r gofod ei diweddaru yn unol â hynny.

Lle mae gofynion gofod cyfadran neu adran yn arwain at gomisiynu adeilad newydd, neu adnewyddu neu addasu adeilad Prifysgol sy’n bodoli eisoes, bydd yr Adran Ystadau a Chyfleusterau yn gweithio gyda chyfadrannau ac adrannau i bennu gofynion o ran llety.

Mae’r tîm Cynllunio Gofod yn helpu i ddatblygu Briff y Prosiect ac amserlen y llety, gan ddarparu arweiniad cynnar ar ba mor ymarferol yw’r dyluniad a’r dewisiadau sydd ar gael o ran gofod.

Mae’r tîm ar gael i roi cyngor i gyfadrannau ac adrannau ar gynlluniau ar gyfer swyddfeydd ac ystafelloedd addysgu presennol, er mwyn sicrhau bod yr holl ofod yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol i ddiwallu anghenion y Brifysgol.

Gellir darparu cynlluniau gofod ar gais drwy gysylltu â’r tîm Cynllunio Gofod.