Parcio ceir a rhannu ceir:

Sut mae trefnu rhannu car i deithio i’r Brifysgol ac oddi yno?

Hysbysebu eich hun:
P’un ai a ydych chi'n gyrru eich hun ac yn awyddus i rannu cost eich taith gyda’ch cyd-aelodau o staff, neu os nad ydych yn gyrru ac yr hoffech gael lifft i’r gwaith, gallwch drefnu i rannu car naill ai drwy holi’r staff yn eich swyddfa, neu drwy roi neges ar y Farchnad ar yr Hyb. 

Codi tâl:
Cyfrifwch beth fyddech chi fel arfer yn ei wario ar betrol (a’r tollau os yn berthnasol) i gyrraedd y gwaith, a rhannu hynny â nifer y bobl yn y car. Cofiwch gynnwys eich cyfran chi o’r costau. Mae teithio o Gaerdydd i Bontypridd yn costio tua £10-15 yr wythnos mewn car cyffredin (heb gynnwys treth a chostau cynnal a chadw, ond cyfrifoldeb y gyrrwr yw hyn fel arfer).

Gwybodaeth ddefnyddiol am rannu car:
Nid yw rhannu ceir yn gwneud eich yswiriant yn annilys, ar yr amod nad ydych yn codi mwy ar eich teithwyr na faint mae’r daith yn ei chostio. Fodd bynnag, holwch eich cwmni yswiriant am esboniad.

Nid oes yn rhaid i chi rannu ag unrhyw un sy’n gofyn: er enghraifft, os ydych chi ond yn teimlo’n hapus rhannu â rhywun o’r un rhyw, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, nodwch hynny yn eich hysbyseb.

Nid oes angen i chi gael car i rannu car. Os oes angen lifft arnoch, hysbysebwch hynny i yrwyr ar y Farchnad a chynnig talu am y petrol.

Byddai’r Brifysgol yn elwa staff yn rhannu ceir, byddai mwy o le yn y meysydd parcio, byddai’r ffyrdd yn dawelach, ac o ganlyniad efallai y byddwch yn cyrraedd adref yn gyflymach hyd yn oed.

Parcio i staff ar y campws:
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Rydym yn annog pob aelod o staff a myfyrwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny’n bosibl.

Mae bysiau gwennol i gyd-fynd â’r ddarpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ac yn ei gwneud yn haws teithio rhwng campysau.

Bydd trwydded parcio staff yn costio £7.50 ar y cynllun talu misol drwy eich cyflog. i wneud cais am barcio, cwblhewch Gais Staff am Drwydded Parcio a'i ddychwelyd i Diogelwch Ystadau. Bydd trwyddedau parcio VIP yn cael eu prisio ddwywaith y gost drwydded safonol, sy'n £15 y mis. 

Ni fydd staff bellach yn gallu prynu trwyddedau parcio drwy'r siop ar-lein

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Phorthdy Diogelwch Trefforest ar 01443 482055 neu e-bostio’r tîm Diogelwch Ystadau.

Costau:
Os mai gyrru yw eich unig ddewis ac nad ydych am brynu trwydded flynyddol bydd angen i chi dalu i barcio bob dydd ym meysydd parcio Heol Llanilltud a Glyn-taf. Bydd y rheini sy'n defnyddio’r meysydd parcio hyn bob dydd yn talu £1 am barcio hyd at 5 awr a £2 am unrhyw gyfnod dros 5 awr hyd at hanner nos.

Mae lle parcio dros nos ar gael a chodir tâl ar y gyfradd ddyddiol.

Oriau agor:
Mae meysydd parcio Trefforest a Glyn-taf ar agor 24/7. 

Beiciau modur:
Wrth gyrraedd campws Trefforest, bydd angen i yrwyr beiciau modur fynd i’r prif borthdy i gofrestru eu cerbyd a byddant yn cael gwybod ble i barcio. Ni chodir tâl am barcio beic modur yn Nhrefforest. Rhaid cofrestru pob beic modur gyda’r Gwasanaeth Diogelwch.

Diogelwch:

Mae diogelwch staff yn fater hollbwysig ac mae ein holl feysydd parcio yn cael eu monitro 24 awr y dydd gan wasanaeth diogelwch y campws. Gall staff sy'n poeni am eu diogelwch ofyn i rywun eu hebrwng at y car. Os ydych am i aelod o staff y tîm Diogelwch eich hebrwng, siaradwch yn uniongyrchol ag aelod o’r tîm diogelwch ar gampws Trefforest neu Glyn-taf a byddant yn hapus i’ch helpu.

Parcio ceir (gan gynnwys trwyddedau parcio i bobl anabl)

Parcio ar gyfer staff ag anableddau:
Caiff trwyddedau parcio i bobl anabl eu rhoi am ddim i staff sy’n cael bathodyn glas (rhaid darparu copi ar eu cyfer) sy'n eu galluogi i barcio ar y campws. Os nad oes gennych fathodyn glas, yna bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth feddygol ategol gyda’ch cais a chodir ffi pro-rata am y drwydded. Bydd y ffi yn dibynnu ar faint o amser sy’n weddill yn y flwyddyn academaidd. 

Os oes gennych anabledd dros dro, mae’n bosibl y cewch hefyd wneud cais am barcio i bobl anabl ar gampws. Rhaid darparu tystiolaeth feddygol ategol gyda’ch cais. Efallai y bydd yn rhaid i staff hefyd drafod eu hamgylchiadau unigol gyda Chynghorydd Anabledd gyda phob achos yn cael ei asesu'n unigol.

I wneud cais am le parcio anabl dros dro, cysylltwch â’r tîm Iechyd Galwedigaethol.

Hoffem atgoffa’r holl staff na all y Brifysgol warantu lle parcio oherwydd nad oes llawer o le ar gael.

Trwyddedau parcio preswyl oddi ar y campws:
Os oes gennych gar y byddwch yn ei barcio ar y ffordd y tu allan i’ch tŷ yn Nhrefforest, mae’n bosibl y bydd arnoch angen trwydded parcio preswylydd i wneud hynny. 

Bydd preswylwyr sy’n byw mewn ardal barcio i breswylwyr ac sy'n cadw ac yn defnyddio car fel arfer yn gymwys i gael trwydded. Bydd hyn yn eich galluogi i barcio mewn mannau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer deiliaid trwydded. Gall parcio mewn ardal trwydded preswylwyr heb drwydded ddilys arwain at ddirwy. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am drwyddedau parcio ar wefannau Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyngor Caerdydd.
 
Meysydd parcio eraill ym Mhontypridd:
Mae wythnosau cyntaf y flwyddyn academaidd yn arbennig o brysur, gyda llawer o alw am y mannau parcio ceir sydd ar gael 2000 i fyfyrwyr, staff ac ymwelwyr. Yn ystod y tymor, gall yr holl fannau parcio fod yn llawn erbyn 8.45am, felly mae'n rhaid i staff sy'n gyrru yn aml gyrraedd y campws cyn 9am. Mae’r cynnydd mewn traffig hefyd yn rhoi pwysau ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac yn aml yn achosi oedi hir o fwy na 30 munud i gyrraedd maes parcio’r myfyrwyr. Os oes angen i chi yrru, mae yna feysydd parcio eraill yng nghanol tref Pontypridd.