Caerdydd
Nodyn: Dylai staff sy’n teithio i Brifysgol De Cymru nodi bod mannau i barcio ceir yn gyfyngedig iawn ar bob campws, yn enwedig ar ddechrau tymor yr Hydref.
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Mae’r holl gampysau'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac yn hawdd eu cyrraedd ar y ffordd.
Nodyn: Mae parcio ceir yng nghampws Atriwm yn amodol ar argaeledd ac yn gyfyngedig dim ond i staff sy’n gweithio ar y safle.
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Mae’r holl gampysau'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac yn hawdd eu cyrraedd ar y ffordd.
Teithio ar fws:
Yng Nghampws Atriwm mae arhosfan bws union gyferbyn ag Adeilad Atriwm.
Llwybrau ac amserlenni bysiau:
Gellir cael rhagor o fanylion am lwybrau ac amserlenni bysiau gan Traveline Cymru
Noder: mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ostyngiad o 34% wedi’i ymestyn i ddiwedd mis Chwefror ac ar ôl hynny bydd yn dychwelyd i 5%.
Teithio ar drên:
Mae Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd ryw 5 munud ar droed o Gampws Atriwm.
Gostyngiadau tocyn tymor trên blynyddol ar gyfer Staff Grŵp PDC:
Gostyngiad o 5% ar docynnau tymor trên blynyddol - Trafnidiaeth Cymru
Fel rhan o gynllun teithio grŵp PDC ac ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, rydym yn gallu cynnig gostyngiad o 5% ar docynnau tymor trenau blynyddol i staff. Mae gostyngiad ar gael ar draws holl wasanaethau llwybrau Trafnidiaeth Cymru. Ceir rhestr o’r amseroedd diweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
- I gyfrifo prisiau eich taith unigol, ewch i Gyfrifiannell Tocyn Tymor gwefan Ymholiadau National Rail
- Rhowch yr orsaf yr ydych yn teithio iddi ac ohoni a bydd y gyfrifiannell yn cyfrifo’r pris heb ostyngiad. I gael eich pris gostyngol cyfrifwch 5% o’r pris heb ostyngiad. Bydd angen i chi dalgrynnu i’r 10 ceiniog agosaf.
- Ar ôl i'ch Rheolwr Llinell lofnodi'r ffurflen gais wedi'i llenwi, ac anfon copi drwy e-bost at Ddesg Gymorth yr Adran Ystadau yna dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi i Trafnidiaeth Cymru. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â'r aelod o staff er mwyn cadarnhau'r gost a darparu manylion banc ar gyfer y taliad. Yna, cysylltir â chi gyda chost y tocyn a rhoddir eich manylion banc i Trafnidiaeth Cymru, er mwyn i staff wneud taliad cyflymach gan ddefnyddio bancio symudol neu fancio ar y rhyngrwyd. Fel arall gall Trafnidiaeth Cymru dderbyn taliad cerdyn debyd/credyd dros y ffôn neu gellir postio sieciau i'w hadran yn y brif swyddfa.
- Pan fydd y teithiwr yn barod i gyflwyno'r cais bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar y ffurflen gais. ID ein cwmni yw USW-2019-TFWBT.
- Pan gaiff y taliad ei gadarnhau bydd y tocyn yn cael ei brosesu a'i bostio yn rhad ac am ddim i'r cyfeiriad o ddewis. Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau am newid neu ad-daliadau am docynnau diangen yn uniongyrchol i'r tîm Teithio Busnes, a gellir datrys unrhyw broblemau gyda’r tocyn tymor, er enghraifft methu symud rhwystrau ac ati, yn y swyddfa archebu leol.
Ar ôl i chi gadarnhau pris eich tocyn gyda’r orsaf, llenwch un o’r ffurflenni cais isod. Mae opsiwn i dalu am hyn ymlaen llaw gyda Trafnidiaeth Cymru, neu dalu am y tocyn mewn 10 taliad misol drwy wneud cais am fenthyciad di-log gyda’r Brifysgol.
Grŵp PDC - gostyngiad o 5% ar docyn tymor trên blynyddol i staff HEB BOLISI BENTHYCIAD A FFURFLEN GAIS (DIM BENTHYCIAD)
Grŵp PDC - gostyngiad o 5% ar docyn tymor trên blynyddol i staff POLISI BENTHYCIAD A FFURFLEN GAIS (GYDA BENTHYCIAD)
Dim ond i staff sydd â lleiafswm o 10 mis o gyflogaeth mae’r benthyciad di-log ar gael - i dalu am gost gychwynnol y tocynnau tymor. Mae’n rhaid i’ch Rheolwr Llinell a’r Gyflogres gymeradwyo hyn. Rhaid talu’r benthyciad yn ôl mewn 10 taliad misol.
Ar ôl ei llenwi a’i hawdurdodi, cyflwynwch y ffurflen hon, ynghyd â rhif adnabod staff dilys, llun maint pasbort a’ch taliad i unrhyw orsaf gyda staff ar lwybr Cledrau’r Cymoedd.
Beicio neu gerdded:
Mae beicio i’r Brifysgol yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beiciau a cheffylau sy’n cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans
Cysgodfannau a standiau beiciau:
Mae giât y gellir ei chloi ar y prif gysgodfan beiciau. I gael mynediad ar gyfer y giât, llenwch Ffurflen Cynllun Cofrestru Beic i ddechrau. Bydd mynediad yn cael ei ychwanegu at eich cerdyn yn fuan ar ôl i chi lenwi’r ffurflen.
Os cewch unrhyw broblemau, cysylltwch â Desg Derbynfa Atriwm ar 01443 668543.
Cawodydd a loceri:
Mae loceri ar gael yn y cysgodfannau beiciau ac mae cawodydd am ddim ar gael i feicwyr ar ail lawr adeilad Atriwm.
Cyclescheme:
Mae Staff PDC yn gymwys i gymryd rhan yng Nghynllun Aberthu Cyflog Cyclescheme. Gallwch arbed 25% o gost beic a thalu amdano o’ch cyflog mewn rhandaliadau dros flwyddyn gan arbed talu treth a thaliadau YG. Mae nifer fawr o siopau beiciau wedi cofrestru gyda Cyclescheme. I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan yn y cynllun dilynwch y camau isod:
- Ewch i ddolen Cyclescheme PDC
- Rhowch eich cod post yn yr adran berthnasol ar dudalen Cyclescheme i ddod o hyd i’ch siop feiciau gofrestredig agosaf
- Cyn cwblhau’r adran "Take the next Step” ar wefan Cyclescheme, ewch i siop, dewiswch feic a chael dyfynbris.
- Rhowch fanylion y dyfynbris ar y dudalen we.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio, cysylltwch â’r Gyflogres.
- Nodyn: Nid yw Halfords yn gweithredu dan Cyclescheme. Mae ganddyn nhw eu cynllun Beicio i’r Gwaith eu hunain.
Dan y rheolau aberthu cyflog ni all y trefniant ar gyfer Cyclescheme leihau enillion arian parod gweithiwr yn is na’r cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol, fel y nodir ar wefan CThEM.
Mae Grŵp PDC (PDC, CBCDC, Coleg Merthyr Tudful) wedi sicrhau cynnig gyda siopau beiciau lleol sy’n agos i bob campws/sefydliad. Cytunwyd y bydd y siopau beiciau a restrir yn cynnig gostyngiad o hyd at 15% oddi ar feiciau ac offer beic i aelodau staff Grŵp PDC sy’n llunio'r dogfennau a restrir isod:
Campws Atriwm:- The Bike Shed neu Tredz Bikes
Dangoswch pwy ydych chi i Brifysgol De Cymru gan ddefnyddio eich slip cyflog ynghyd ag ID llun ar gyfer staff. Yn amodol ar Delerau ac Amodau.
Beiciau wedi’u Hadnewyddu, Llogi Beiciau a Hyfforddiant Beicio:
Mae Cadw Caerdydd i Symud yn cynnig dewis o feiciau fel newydd am gyfradd ostyngol, llogi beiciau a chyfleusterau hyfforddiant beicio. Ewch i wefan Cadw Caerdydd i Symud am fwy o wybodaeth.
Cynllun Cofrestru Beic:
Mae’r adran Ystadau a Chyfleusterau wedi sefydlu Ffurflen Cynllun Cofrestru Beic. Gall staff sy'n beicio i’r Brifysgol gofrestru eu manylion gyda disgrifiad o’u beic, gan wella’r tebygolrwydd o ddod o hyd i’r beic os caiff ei golli neu ei ddwyn.
Gostyngiadau:
Rydym wedi sicrhau gostyngiad gyda rhai darparwyr siopau beiciau lleol.
Mae EC Cycles wedi pennu cyfradd gostyngiad sefydlog o 10% yn y siop os ydych chi’n darparu ID. Fodd bynnag, os ydych chi’n gwsmer ffyddlon, maen nhw’n cynnig gostyngiad o 15%.
Mae DT Bicycles yn cynnig gostyngiad i fyfyrwyr gyda cherdyn NUS Extra dilys.
Cerdded:
Mae cerdded i’r Brifysgol yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beiciau a cheffylau yn cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans
Apiau Teithio:
P’un ai a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dycnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o raglenni, gan gynnwys y canlynol:
Parcio ceir a rhannu ceir
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Rydym yn annog pob aelod o staff i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus lle bo hynny’n bosibl.
Staff Campws ATRiwM - gostyngiad i Staff ac Ymwelwyr barcio yn NCP Heol Pellett Caerdydd
Mae PDC wedi sicrhau’r fargen ganlynol gyda’r NCP ar gyfer maes parcio Heol Pellett, maes parcio Heol Knox a maes parcio Plas Dumfries.
Sut i gofrestru (mae’n hawdd iawn)
- Yn gyntaf, ewch i NCP Park Pass
- Ychwanegwch eich manylion personol
- Llenwch fanylion eich cerbyd
- Gallwch gofrestru hyd at 4 cerbyd ar un cyfrif, ond dim ond un cerbyd a ganiateir i’w ddefnyddio fesul cyfrif ar unrhyw un adeg.
- Dewiswch eich math o gyfrif a dywedwch wrthym sut yr hoffech dalu
- Rhowch eich ID Arbedwr a’ch cod cynnau, sef UW6X4CRD
- Bydd hyn yn ysgogi eich bargen Arbedwr arbennig. Edrychwch ar eich llythyr NCP ParkPass am fanylion.
- Tanysgrifiwch i gael cynigion unigryw i’ch blwch derbyn
- Dywedwch wrthym ba rybuddion fydd yn eich helpu i reoli eich cyfrif yn y ffordd orau
Bydd eich cerdyn NCP ParkPass yn cael ei bostio atoch o fewn 6 diwrnod gwaith i chi gofrestru. Fodd bynnag, cofiwch, tan hynny, bydd angen i chi dalu am barcio fel arfer.
Mae’r rhain bellach wedi’u pennu ar gyfer y meysydd parcio canlynol ar brisiau ParkPass presennol:-
- MAES PARCIO HEOL PELLETT- £5 i barcio am 6 awr, £6 i barcio am 12 awr
- MAES PARCIO HEOL KNOX - £4 i barcio am 6 awr, £6 i barcio am 12 awr
- MAES PARCIO PLAS DUMFRIES - £4 i barcio am 6 awr, £6 i barcio am 12 awr
Mae hyn yn golygu y bydd y defnyddiwr yn talu £ 4/£5 am y 6 awr gyntaf yn y meysydd parcio dan sylw, unwaith y byddant yn mynd y tu hwnt i’r 6 awr bydd yn symud i’r 2il lefel brisio o £6 am 12 awr, eto os arhosir am dros 12 awr yna bydd y pris yn symud i’r byrddau tariff ar bob un o’r meysydd parcio hyn.