Casnewydd
Nodyn: Dylai staff sy'n teithio i Gampws Casnewydd nodi mai dim ond i ymwelwyr a deiliaid bathodynnau glas y mae lleoedd parcio ar gael. Edrychwch ar Parcio i Staff am ragor o wybodaeth.
Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Mae’r holl gampysau'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac yn hawdd eu cyrraedd ar y ffordd.
Noder: Dylai staff sy ' n teithio i gampws Casnewydd nodi mai dim ond i ymwelwyr a deiliaid bathodynnau glas y mae parcio ceir ar gael.
Mae ' r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio amgen i yrru lle bo hynny ' n bosibl. Mae ' r holl gampysau ' n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac yn hawdd eu cyrraedd ar y ffordd.
Teithio ar fysiau:
Bws Casnewydd yw prif ddarparwr trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghasnewydd. Mae dal y bws i fynd am y ddinas ac i Gaerdydd, Cas-Gwent a Chwmbrân nid yn unig yn arbed arian i chi, ond mae ' n dda i ' r amgylchedd hefyd gan ei fod yn helpu i gwtogi ar nifer y ceir ar y ffordd a lefelau llygredd is. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bws Casnewydd neu cysylltwch â 01633 670563.
Llwybrau ac amserlenni bysiau:
Gellir cael manylion pellach am lwybrau bysiau ac amserlenni oddi wrth Traveline Cymru
Noder: mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ostyngiad o 34% wedi’i ymestyn i ddiwedd mis Chwefror ac ar ôl hynny bydd yn dychwelyd i 5%.
Teithio ar drên:
Mae gorsaf drenau Casnewydd 20 munud ar droed o Gampws Casnewydd.
Gostyngiadau tocyn tymor trên blynyddol ar gyfer Staff Grŵp PDC:
Gostyngiad o 5% ar docynnau tymor trên blynyddol - Trafnidiaeth Cymru
Fel rhan o gynllun teithio grŵp PDC ac ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, rydym yn gallu cynnig gostyngiad o 5% ar docynnau tymor trenau blynyddol i staff. Mae gostyngiad ar gael ar draws holl wasanaethau llwybrau Trafnidiaeth Cymru. Ceir rhestr o’r amseroedd diweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru.
- I gyfrifo prisiau eich taith unigol, ewch i Gyfrifiannell Tocyn Tymor gwefan Ymholiadau National Rail
- Rhowch yr orsaf yr ydych yn teithio iddi ac ohoni a bydd y gyfrifiannell yn cyfrifo’r pris heb ostyngiad. I gael eich pris gostyngol cyfrifwch 5% o’r pris heb ostyngiad. Bydd angen i chi dalgrynnu i’r 10 ceiniog agosaf.
- Ar ôl i'ch Rheolwr Llinell lofnodi'r ffurflen gais wedi'i llenwi, ac anfon copi drwy e-bost at Ddesg Gymorth yr Adran Ystadau yna dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi i Trafnidiaeth Cymru. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â'r aelod o staff er mwyn cadarnhau'r gost a darparu manylion banc ar gyfer y taliad. Yna, cysylltir â chi gyda chost y tocyn a rhoddir eich manylion banc i Trafnidiaeth Cymru, er mwyn i staff wneud taliad cyflymach gan ddefnyddio bancio symudol neu fancio ar y rhyngrwyd. Fel arall gall Trafnidiaeth Cymru dderbyn taliad cerdyn debyd/credyd dros y ffôn neu gellir postio sieciau i'w hadran yn y brif swyddfa.
- Pan fydd y teithiwr yn barod i gyflwyno'r cais bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar y ffurflen gais. ID ein cwmni yw USW-2019-TFWBT.
- Pan gaiff y taliad ei gadarnhau bydd y tocyn yn cael ei brosesu a'i bostio yn rhad ac am ddim i'r cyfeiriad o ddewis. Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau am newid neu ad-daliadau am docynnau diangen yn uniongyrchol i'r tîm Teithio Busnes, a gellir datrys unrhyw broblemau gyda’r tocyn tymor, er enghraifft methu symud rhwystrau ac ati, yn y swyddfa archebu leol.
Ar ôl i chi gadarnhau pris eich tocyn gyda’r orsaf, llenwch un o’r ffurflenni cais isod. Mae opsiwn i dalu am hyn ymlaen llaw gyda Trafnidiaeth Cymru, neu dalu am y tocyn mewn 10 taliad misol drwy wneud cais am fenthyciad di-log gyda’r Brifysgol.
Grŵp PDC - gostyngiad o 5% ar docyn tymor trên blynyddol i staff HEB BOLISI BENTHYCIAD A FFURFLEN GAIS (DIM BENTHYCIAD)
Grŵp PDC - gostyngiad o 5% ar docyn tymor trên blynyddol i staff POLISI BENTHYCIAD A FFURFLEN GAIS (GYDA BENTHYCIAD)
Dim ond i staff sydd â lleiafswm o 10 mis o gyflogaeth mae’r benthyciad di-log ar gael - i dalu am gost gychwynnol y tocynnau tymor. Mae’n rhaid i’ch Rheolwr Llinell a’r Gyflogres gymeradwyo hyn. Rhaid talu’r benthyciad yn ôl mewn 10 taliad misol.
Ar ôl ei llenwi a’i hawdurdodi, cyflwynwch y ffurflen hon, ynghyd â rhif adnabod staff dilys, llun maint pasbort a’ch taliad i unrhyw orsaf gyda staff ar lwybr Cledrau’r Cymoedd.
Beicio neu gerdded
Mae beicio i Gampws Casnewydd yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beicio Sustrans. Mae llwybr 4 ac 8 Sustrans yn cysylltu Canol Dinas Casnewydd â Chaerdydd ac mae llwybr 88 yn cysylltu Canol Dinas Casnewydd â Chaerllion. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans
Cysgodfannau a standiau beiciau
Mae cyfleusterau cloi beiciau allanol wrth ymyl y brif fynedfa.
Mae cawodydd am ddim a loceri sy'n derbyn arian ar gael wrth ymyl y brif fynedfa.
Cyclescheme
Mae Staff PDC yn gymwys i gymryd rhan yng Nghynllun Aberthu Cyflog Cyclescheme. Gallwch arbed 25% o gost beic a thalu amdano o’ch cyflog mewn rhandaliadau dros flwyddyn gan arbed talu treth a thaliadau YG. Mae nifer fawr o siopau beiciau wedi cofrestru gyda Cyclescheme. I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan yn y cynllun dilynwch y camau isod:
- Ewch i ddolen Cyclescheme PDC
- Rhowch eich cod post yn yr adran berthnasol ar dudalen Cyclescheme i ddod o hyd i’ch siop feiciau gofrestredig agosaf
- Cyn cwblhau’r adran "Take the next Step” ar wefan Cyclescheme, ewch i siop, dewiswch feic a chael dyfynbris.
- Rhowch fanylion y dyfynbris ar y dudalen we.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio, cysylltwch â’r Gyflogres.
- Nodyn: Nid yw Halfords yn gweithredu dan Cyclescheme. Mae ganddyn nhw eu cynllun Beicio i’r Gwaith eu hunain.
Dan y rheolau aberthu cyflog ni all y trefniant ar gyfer Cyclescheme leihau enillion arian parod gweithiwr yn is na’r cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol, fel y nodir ar wefan CThEM.
Beiciau wedi’u Hadnewyddu, Llogi Beiciau a Hyfforddiant Beicio:
Mae Cadw Caerdydd i Symud yn cynnig dewis o feiciau fel newydd am gyfradd ostyngol, llogi beiciau a chyfleusterau hyfforddiant beicio. Ewch i wefan Cadw Caerdydd i Symud am fwy o wybodaeth.
Cynllun Cofrestru Beic:
Mae’r adran Ystadau a Chyfleusterau wedi sefydlu Cynllun Cofrestru Beic. Gall staff sy'n beicio i’r Brifysgol gofrestru eu manylion gyda disgrifiad o’u beic, gan wella’r tebygolrwydd o ddod o hyd i’r beic os caiff ei golli neu ei ddwyn.
Gostyngiadau:
Rydym wedi sicrhau gostyngiad gyda rhai darparwyr siopau beiciau lleol.
Mae EC Cycles wedi pennu cyfradd gostyngiad sefydlog o 10% yn y siop os ydych chi’n darparu ID. Fodd bynnag, os ydych chi’n gwsmer ffyddlon, maen nhw’n cynnig gostyngiad o 15%.
Mae DT Bicycles yn cynnig gostyngiad i fyfyrwyr gyda cherdyn NUS Extra dilys.
Cerdded:
Mae gorsaf drenau Casnewydd tua 20 munud ar droed o’r Campws. Mae gorsaf fysiau Casnewydd tua 15 munud ar droed o’r Campws.
Apiau Teithio:
P’un ai a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dycnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o raglenni, gan gynnwys y canlynol:
Mae’r Brifysgol wedi sicrhau gostyngiad o 20% i fyfyrwyr yng Nghanolfan Kingsway. I fod yn gymwys am y gostyngiad hwn, sganiwch eich tocyn wrth ddesg derbynfa’r campws ar y llawr gwaelod.
Trwyddedau parcio preswyl oddi ar y campws:
Os oes gennych gar y byddwch yn ei barcio ar y ffordd y tu allan i ' ch tŷ, yng Nghasnewydd, efallai y bydd arnoch angen trwydded parcio ar gyfer preswylwyr. Mae mwy o wybodaeth ar gael gan Gyngor Casnewydd.
YourParkingSpace:
Mae YourParkingSpace yn cynnig disgownt o 10% i staff a myfyrwyr ar unrhyw lefydd parcio sydd wedi ' u trefnu gyda nhw ledled y DU. Defnyddiwch y Cod hyrwyddo UNISOUTHWALES10.
Plismona cymunedol yr heddlu:
Mae ' r dudalen hon wedi ' i chynllunio i roi trosolwg i chi o rôl plismona cymunedol yn ogystal â darparu gwybodaeth gyswllt a chyngor diogelwch sylfaenol: plismona cymunedol yr heddlu