Nodyn:  Dylai staff sy’n teithio i Brifysgol De Cymru nodi bod mannau i barcio ceir yn gyfyngedig iawn ar bob campws, yn enwedig ar ddechrau tymor yr Hydref.

Mae’r Brifysgol yn argymell yn gryf eich bod yn ystyried trefniadau teithio gwahanol i yrru lle bo hynny’n bosibl. Mae’r holl gampysau'n cael eu gwasanaethu gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd ac yn hawdd eu cyrraedd ar y ffordd.

Teithio ar fws

Yng nghampws Trefforest, mae’r arosfannau bysiau y tu allan i’r prif gampws ar Heol Llanilltud a Stryd Brook. 

Ger campws Glyn-taf, mae’r arosfannau bysiau ar Heol Pentrebach a Heol Caerdydd.

Llwybrau ac amserlenni bysiau

Gellir cael rhagor o fanylion am lwybrau ac amserlenni bysiau gan Traveline Cymru

Noder: mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ostyngiad o 34% wedi’i ymestyn i ddiwedd mis Chwefror ac ar ôl hynny bydd yn dychwelyd i 5%.

Teithio gyda thrên:

Mae gorsaf Trefforest gwta bum munud ar droed o gampysau Trefforest a Glyn-taf.

Gostyngiadau tocyn tymor trên blynyddol ar gyfer Staff Grŵp PDC:

Gostyngiad o 5% ar docynnau tymor trên blynyddol - Trafnidiaeth Cymru

Fel rhan o gynllun teithio grŵp PDC ac ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru, rydym yn gallu cynnig gostyngiad o 5% ar docynnau tymor trenau blynyddol i staff. Mae gostyngiad ar gael ar draws holl wasanaethau llwybrau Trafnidiaeth Cymru. Ceir rhestr o’r amseroedd diweddaraf ar wefan Trafnidiaeth Cymru

  • Rhowch yr orsaf yr ydych yn teithio iddi ac ohoni a bydd y gyfrifiannell yn cyfrifo’r pris heb ostyngiad. I gael eich pris gostyngol cyfrifwch 5% o’r pris heb ostyngiad. Bydd angen i chi dalgrynnu i’r 10 ceiniog agosaf.
  • Ar ôl i'ch Rheolwr Llinell lofnodi'r ffurflen gais wedi'i llenwi, ac anfon copi drwy e-bost at Ddesg Gymorth yr Adran Ystadau  yna dylid anfon y ffurflen wedi'i llenwi i Trafnidiaeth Cymru. Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cysylltu â'r aelod o staff er mwyn cadarnhau'r gost a darparu manylion banc ar gyfer y taliad. Yna, cysylltir â chi gyda chost y tocyn a rhoddir eich manylion banc i Trafnidiaeth Cymru, er mwyn i staff wneud taliad cyflymach gan ddefnyddio bancio symudol neu fancio ar y rhyngrwyd. Fel arall gall Trafnidiaeth Cymru dderbyn taliad cerdyn debyd/credyd dros y ffôn neu gellir postio sieciau i'w hadran yn y brif swyddfa.
  • Pan fydd y teithiwr yn barod i gyflwyno'r cais bydd angen i chi lenwi'r ffurflen ar y ffurflen gais. ID ein cwmni yw USW-2019-TFWBT.
  • Pan gaiff y taliad ei gadarnhau bydd y tocyn yn cael ei brosesu a'i bostio yn rhad ac am ddim i'r cyfeiriad o ddewis. Dylid cyflwyno unrhyw geisiadau am newid neu ad-daliadau am docynnau diangen yn uniongyrchol i'r tîm Teithio Busnes, a gellir datrys unrhyw broblemau gyda’r tocyn tymor, er enghraifft methu symud rhwystrau ac ati, yn y swyddfa archebu leol. 

 

Ar ôl i chi gadarnhau pris eich tocyn gyda’r orsaf, llenwch un o’r ffurflenni cais isod.  Mae opsiwn i dalu am hyn ymlaen llaw gyda Trafnidiaeth Cymru, neu dalu am y tocyn mewn 10 taliad misol drwy wneud cais am fenthyciad di-log gyda’r Brifysgol.  

Grŵp PDC - gostyngiad o 5% ar docyn tymor trên blynyddol i staff HEB BOLISI BENTHYCIAD A FFURFLEN GAIS (DIM BENTHYCIAD) 

Grŵp PDC - gostyngiad o 5% ar docyn tymor trên blynyddol i staff POLISI BENTHYCIAD A FFURFLEN GAIS (GYDA BENTHYCIAD)

Dim ond i staff sydd â lleiafswm o 10 mis o gyflogaeth mae’r benthyciad di-log ar gael - i dalu am gost gychwynnol y tocynnau tymor.  Mae’n rhaid i’ch Rheolwr Llinell a’r Gyflogres gymeradwyo hyn. Rhaid talu’r benthyciad yn ôl mewn 10 taliad misol

Ar ôl ei llenwi a’i hawdurdodi, cyflwynwch y ffurflen hon, ynghyd â rhif adnabod staff dilys, llun maint pasbort a’ch taliad i unrhyw orsaf gyda staff ar lwybr Cledrau’r Cymoedd.

Teithio rhwng campysau
Mae’r Brifysgol wedi trefnu gwasanaeth bws gwennol rhwng safleoedd ein campysau ym Mhontypridd, cliciwch yma i weld yr Amserlen.

Mae beicio i’r Brifysgol yn hawdd diolch i rwydwaith cynhwysfawr o lwybrau beiciau a cheffylau sy’n cysylltu â Chaerdydd o bob cyfeiriad. I gael manylion llawn y llwybrau Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ewch i Sustrans

Cysgodfannau a standiau beiciau:
Mae giât y gellir ei chloi ar y cysgodfannau beiciau y tu allan i Floc K a J. I gael mynediad ar gyfer y giât, llenwch Ffurflen Cynllun Cofrestru Beic i ddechrau.  Bydd mynediad yn cael ei ychwanegu at eich cerdyn yn fuan ar ôl i chi lenwi’r ffurflen.

Os ydych yn cael unrhyw broblem, cysylltwch â’r tîm  Diogelwch Ystadau.

Cawodydd a loceri:
Mae loceri ar gael yn y cysgodfannau beiciau ac mae cawodydd am ddim ar gael ym Mloc B, y Ganolfan Chwaraeon a’r Tramshed.

Cyclescheme:
Mae Staff PDC yn gymwys i gymryd rhan yng Nghynllun Aberthu Cyflog Cyclescheme. Gallwch arbed 25% o gost beic a thalu amdano o’ch cyflog mewn rhandaliadau dros flwyddyn gan arbed talu treth a thaliadau YG. Mae nifer fawr o siopau beiciau wedi cofrestru gyda Cyclescheme.  I gael gwybod mwy neu i gymryd rhan yn y cynllun dilynwch y camau isod:

  • Ewch i ddolen Cyclescheme PDC
  • Rhowch eich cod post yn yr adran berthnasol ar dudalen Cyclescheme i ddod o hyd i’ch siop feiciau gofrestredig agosaf
  • Cyn cwblhau’r adran "Take the next Step” ar wefan Cyclescheme, ewch i siop, dewiswch feic a chael dyfynbris. 
  • Rhowch fanylion y dyfynbris ar y dudalen we. 

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio, cysylltwch â’r Gyflogres

 

Dan y rheolau aberthu cyflog ni all y trefniant ar gyfer Cyclescheme leihau enillion arian parod gweithiwr yn is na’r cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol, fel y nodir ar wefan CThEM.

Beiciau wedi’u Hadnewyddu, Llogi Beiciau a Hyfforddiant Beicio:

Mae Cadw Caerdydd i Symud yn cynnig dewis o feiciau fel newydd am gyfradd ostyngol, llogi beiciau a chyfleusterau hyfforddiant beicio. Ewch i wefan Cadw Caerdydd i Symud am fwy o wybodaeth.  

Cynllun Cofrestru Beic:
Mae’r adran Ystadau a Chyfleusterau wedi sefydlu Cynllun Cofrestru Beic. Gall staff sy'n beicio i’r Brifysgol gofrestru eu manylion gyda disgrifiad o’u beic, gan wella’r tebygolrwydd o ddod o hyd i’r beic os caiff ei golli neu ei ddwyn.

Gostyngiadau:

Rydym wedi sicrhau gostyngiad gyda rhai darparwyr siopau beiciau lleol:  
Mae EC Cycles wedi pennu cyfradd gostyngiad sefydlog o 10% yn y siop os ydych chi’n darparu ID.  Fodd bynnag, os ydych chi’n gwsmer ffyddlon, maen nhw’n cynnig gostyngiad o 15%.
Mae DT Bicycles yn cynnig gostyngiad i fyfyrwyr gyda cherdyn NUS Extra dilys.

Cerdded

Un o’r newidiadau pwysicaf y gall pawb ei wneud i helpu’r problemau parcio yn y Brifysgol yw cerdded rhwng campysau yn hytrach na gyrru. Dyma’r llwybr mwyaf uniongyrchol o gampws Trefforest i gampws Glyn-taf:-

  • Gadewch gampws Trefforest drwy fynedfa Stryd Brook, a throwch i’r dde i lawr Stryd Brook. 
  • Croeswch y ffordd ac yn y pen trowch i’r chwith fel eich bod yn cerdded tuag at yr orsaf. 
  • Ewch i mewn i’r orsaf a chroesi dros y rheilffordd gan ddefnyddio’r bont i gerddwyr.
  • Pan fyddwch wedi mynd drwy’r orsaf, croeswch y ffordd a cherdded i lawr Stryd y Castell (stryd ochr gyda Pink Shop ar y gornel). 
  • Ar ôl cyrraedd diwedd y ffordd, croeswch (Rhybudd: Mae trigolion lleol wedi nodi’r groesfan hon fel man lle dylid bod yn ofalus iawn) y stryd a defnyddio’r groesfan i gerddwyr dros Afon Taf. 
  • Ar ôl i chi groesi’r afon, trowch i’r chwith gan ddilyn y llwybr troed wrth ochr yr afon.
  • Croeswch y ffordd yn y pen, a chadwch ar yr ochr dde er mwyn i chi groesi’r ffyrdd ymadael sydd wedi cau. 
  • Dilynwch y llwybr i fyny drwy ymyl y glaswellt, ac ar ben y bryn bach hwn, croeswch y ffordd, a thoi i’r dde i Heol y Fynwent.
  • Mae campws Glyn-taf ar yr ochr dde.

Apiau Teithio:
P’un ai a ydych am roi cynnig ar lwybrau newydd, ymdrechu i fod yn gyflymach, eisiau wynebu her, cael gwell dycnwch neu wella ffitrwydd, gall cerddwyr, rhedwyr a beicwyr ddefnyddio nifer o raglenni, gan gynnwys y canlynol:
Mapmywalk
Runkeeper
Cyclingbuddy