
Mae'r Brifysgol yn cynhyrchu ystod o bolisïau a chyhoeddiadau allweddol i gefnogi a llywio ein hymchwil, ein haddysgu a'n gweithgareddau proffesiynol, a darparu diweddariadau ar weithgareddau a pherfformiad y Brifysgol.
Mae ein cyhoeddiadau, sydd ar gael i'w lawrlwytho, yn cynnwys ein Datganiadau Ariannol a'n Hadolygiad Blynyddol, a'n Cynlluniau Ffioedd a Mynediad.

Datganiadau Ariannol ac Adolygiad Blynyddol
Mae ein Datganiadau Ariannol a'n Hadolygiad Blynyddol yn myfyrio ar y flwyddyn academaidd flaenorol ac yn cynnwys y trefniadau llywodraethu a rhai o'n cyflawniadau, llwyddiannau a datblygiadau diweddar.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cynnwys trosolwg o’n perfformiad ariannol, gan gynnwys datganiadau ar incwm a gwariant, gan egluro’r prif dueddiadau a’r ffactorau sy’n debygol o effeithio ar ein perfformiad a’n sefyllfa yn y dyfodol.
Cipolwg ar Gyllid PDC
Cynllun Ffioedd a Mynediad
O dan Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, mae'n ofynnol i'r Brifysgol ddatblygu Cynllun Ffioedd a Mynediad bob blwyddyn.
Mae’r cynllun yn nodi’r gweithgareddau y byddwn yn eu cyflawni i sicrhau cyfle cyfartal a mynediad teg i grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch.


Strategaeth Cronfa Arloesi
Mae'r Brifysgol wedi cynhyrchu Strategaeth Cronfa Arloesi ar gyfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ochr yn ochr ag astudiaeth achos sy'n dangos ein gwaith Cenhadaeth Ddinesig.
Gallwch lawrlwytho Strategaeth Cronfa Arloesi Ymchwil Cymru 2020/21–2022/23 a'r astudiaeth achos Cenhadaeth Ddinesig isod.
OFFERYN AC ERTHYGLAU LLYWODRAETHU
Yr Offeryn ac Erthyglau Llywodraethu yw dogfennau cyfreithiol sylfaenol cyfansoddiad ac ymarfer Prifysgol De Cymru. Hefyd, maen nhw’n diffinio ffynonellau awdurdod a chyfrifoldebau o fewn y sefydliad.
Polisïau
Mae polisïau ein Prifysgol yn ymdrin â phynciau fel Hygyrchedd, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, a Chynaladwyedd.
Mae’r dogfennau hyn yn nodi safbwynt PDC ar amrywiaeth o faterion ac yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer cydymffurfio, gan ein helpu i gydymffurfio â chyfreithiau a rheoliadau perthnasol. Gweler nifer o bolisïau PDC isod.