
Sefydlwyd Prifysgol De Cymru yn 2013 yn dilyn uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.
Mae gan y ddau sefydliad a ddaeth ynghyd i greu Prifysgol De Cymru hanes cyfoethog ac amrywiol, a gallant olrhain eu gwreiddiau yn ôl dros 180 o flynyddoedd.

Sefydliad Peirianwyr Casnewydd
Sefydlwyd Sefydliad Peirianwyr Casnewydd yn 1841 yng nghanol dinas Casnewydd, i ddarparu addysg bellach i weithwyr a masnachwyr. Roedd dynion a menywod yn gallu mynychu amrywiaeth o ddarlithoedd am ddau swllt y chwarter, i astudio pynciau fel ‘mynd ar drywydd cyrhaeddiad a gwybodaeth’ ac ‘ofergoeliaeth boblogaidd’.

Sefydliad Technegol Casnewydd
Agorodd Sefydliad Technegol Casnewydd yn 1910 ac roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel yr ‘Ysgol Gelf’. Roedd yr adeilad brics coch eiconig gyda chromen gopr, a safai ar lan ddwyreiniol yr Afon Wysg, yn darparu'r mynegiant pennaf o fenter a balchder dinesig; sefydliad llawn offer a phwrpas, a oedd yn fodel o sefydliad technegol ac ysgol gelf yn ei ddydd.

Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Mynwy
Daeth arweinwyr diwydiannol lleol ynghyd yn 1913 i ffurfio Ysgol Mwyngloddiau De Cymru a Mynwy. Gwasanaethodd yr Ysgol y diwydiant glo a oedd yn tra-arglwyddiaethu yng nghymoedd De Cymru, ac roedd yn eiddo ac yn cael ei hariannu gan brif berchnogion glo Cymru. Cafodd ei hailenwi'n Ysgol Mwyngloddiau a Thechnoleg yn yr 1940au, gan hyfforddi gweithwyr glo ifanc a chadetiaid y fyddin.

Coleg Hyfforddi Caerllion
Agorodd y coleg (Coleg Hyfforddi Sir Fynwy gynt) yn 1914 i hyfforddi myfyrwyr gwrywaidd fel athrawon. Ni dderbyniwyd myfyrwyr benywaidd yng Ngholeg Caerllion tan 1962, a dilynodd ehangiad cyflym, gyda’r niferoedd yn mynd o 140 i 750.

Coleg Technegol Morgannwg
Daeth yr Ysgol Mwyngloddiau a Thechnoleg yn Goleg Technegol Morgannwg yn 1949, gan adlewyrchu ei phortffolio a oedd yn ehangu, ac fe’i hailenwyd yn Goleg Technoleg Morgannwg yn 1958. Erbyn hynny, roedd y sefydliad wedi ehangu i gynnig ystod o gyrsiau mewn gwyddoniaeth, technoleg a masnach, ac ychwanegwyd y cwrs Cymraeg i Oedolion cyntaf erioed yn 1967.

Polytechnig Morgannwg
Yn 1970, daeth y coleg yn goleg polytechnig - sefydliad addysgol trydyddol yn cynnig diplomâu uwch, graddau israddedig ac ôl-raddedig. Unodd Polytechnig Morgannwg â Choleg Addysg Morgannwg yn y Barri a chafodd ei ail-ddynodi’n Goleg Polytechnig Cymru yn 1975.

Coleg Addysg Uwch Gwent
Unodd Coleg Addysg Caerllion, Coleg Celf a Dylunio Casnewydd a Choleg Technoleg Gwent yn 1975 i ffurfio Coleg Addysg Uwch Gwent. Rhwng Medi 1975 ac Ebrill 1992, trosglwyddwyd y rhan fwyaf o’i bortffolio Addysg Bellach i golegau Addysg Bellach, a chafodd ei sefydlu'n gadarn fel yr unig sefydliad Addysg Uwch yng Ngwent ac un o brif ddarparwyr Addysg Uwch Cymru.

Prifysgol Morgannwg
Enillodd Coleg Polytechnig Cymru yn Nhrefforest statws prifysgol yn 1992, a daeth yn Brifysgol Morgannwg gyda mwy na 11,500 o fyfyrwyr wedi cofrestru ar un campws yn unig. Ar ôl ennill statws Prifysgol, roedd y sefydliad bellach yn gallu dyfarnu ei raddau israddedig ac ôl-raddedig ei hun mewn ystod o bynciau.

Coleg Prifysgol Cymru Casnewydd
Yn 1996, daeth Coleg Addysg Uwch Gwent yn rhan o Brifysgol Cymru, fel Coleg Prifysgol Cymru Casnewydd. Dyfarnwyd pwerau dirprwyedig i'r coleg gan Brifysgol Cymru i oruchwylio graddau ymchwil, gan gynnwys graddau PhD. Paratôdd y Coleg ar gyfer statws prifysgol trwy ehangu ei gwricwlwm, cynyddu ei gysylltiadau rhyngwladol, a chynyddu ei ddefnydd o gyllid Ewropeaidd i gefnogi gwaith datblygu rhanbarthol.

Prifysgol Cymru Casnewydd
Ym mis Mai 2004, sicrhaodd Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd Gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor i ddefnyddio’r teitl Prifysgol Cymru, Casnewydd, fel cyfansoddwr llawn o’r brifysgol ffederal, gyda chymuned o fyfyrwyr o fwy na 50 o wledydd.

Coleg Merthyr Tudful
Daeth Coleg Merthyr Tudful yn rhan o Brifysgol Morgannwg yn 2006.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru
Daeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, conservatoire yng Nghaerdydd, yn is-gwmni sy’n eiddo llwyr i Brifysgol Morgannwg yn 2007.

Adeilad Atrium Campws Caerdydd
Agorodd Prifysgol Morgannwg ei hadeilad ATRiuM yng nghanol dinas Caerdydd yn 2007, gan gynnig cyfleuster dysgu pwrpasol i fyfyrwyr y diwydiannau creadigol. Daeth yr adeilad o’r radd flaenaf â disgyblaethau creadigol celf a dylunio, y cyfryngau a chyfathrebu, a drama a cherddoriaeth ynghyd.

UHOVI
Lansiwyd Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd (UHOVI) yn 2009 fel partneriaeth rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, gyda’r nod o annog mwy o bobl i ystyried addysg uwch yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Campws Casnewydd
Agorodd Campws Casnewydd gwerth £35m yng nghanol dinas Casnewydd, ac mae’n gartref i 2,700 o fyfyrwyr Ysgol Fusnes Casnewydd a sawl adran Ysgol y Cyfryngau a Dylunio’r Brifysgol. Ystyrir yr adeilad eiconig, sydd ar lan yr Afon Wysg, yn nodwedd bwysig o adfywio canol y ddinas.

Prifysgol De Cymru
Ym mis Ebrill 2013, ffurfiwyd PDC yn dilyn uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd. Ers ei ffurfio, mae'r Brifysgol wedi cynnig dros 500 o gyrsiau, gan groesawu myfyrwyr o fwy na 120 o wledydd.

Campws Gwell Caerdydd
Ym mis Tachwedd 2016, agorwyd Campws Gwell Caerdydd yn swyddogol ar ôl i estyniad gwerth £15m gael ei ychwanegu at adeilad presennol yr Atrium. Mae’r campws yn atgynhyrchu gweithleoedd diwydiant ar draws y sector diwydiannau creadigol, o ffilm a theledu i animeiddio, drama, ffotograffiaeth a cherddoriaeth.

Datblygiad Parc Chwaraeon PDC
Ym mis Ionawr 2018, dadorchuddiwyd datblygiad gwerth £15m ym Mharc Chwaraeon PDC, gan gynnwys y cae pêl-droed 3G maint llawn cyntaf mewn prifysgol yng Nghymru, a adeiladwyd i safon Fifa Pro a World Rugby 22. Mae'r cyfleuster gwell hefyd yn cynnwys canolfan arbenigol newydd ar gyfer cryfder a chyflyru.