
Mae gan y Brifysgol dair cyfadran - y Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth; y Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol; a'r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg.
Mae gan bob
cyfadran nifer o feysydd pwnc sydd wedi'u grwpio i wahanol ddisgyblaethau ac
arbenigedd. Mae ystod gynhwysfawr o adrannau gwasanaeth proffesiynol, o Gyllid ac AD i Wasanaethau Gyrfaoedd a Myfyrwyr, sy'n cefnogi gwaith y cyfadrannau a Phrifysgol De Cymru.
Mae gennym hefyd grwpiau a chanolfannau ymchwil, lle mae ymchwilwyr yn gweithio ar draws ffiniau a disgyblaethau, gyda phartneriaid a chyllid allanol, i ymgymryd ag ymchwil gymhwysol a dylanwadol.
Cyfadrannau
Mae’r Gyfadran Cyfrifiadura, Peirianneg a Gwyddoniaeth yn cynnwys wyth maes pwnc:
- Peirianneg Awyrofod a Mecanyddol
- Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau
- Gwyddorau Biolegol a Fforensig
- Amgylchedd Adeiledig a Pheirianneg Sifil
- Gwyddorau Cemegol ac Amgylcheddol
- Cyfrifiadura a Gwyddorau Mathemategol
- Seiberddiogelwch
- Gwybodeg ac Electroneg
Deon FCES yw Dr Paul Davies.
Dysgwch am y cyrsiau sydd ar gael a'r ymchwil a wneir yn y gyfadran.
Mae’r Gyfadran Busnes a Diwydiannau Creadigol yn cynnwys 12 maes pwnc:
- Cyfrifeg a Chyllid
- Rheoli Busnes
- Diwylliant ac Animeiddio
- Ffasiwn, Marchnata a Ffotograffiaeth
- Ffilm a Theledu
- Gemau a Dylunio
- Busnes Byd-eang
- Cyfraith
- Arweinyddiaeth a Gwasanaethau Cyhoeddus
- Cerddoriaeth a Drama
- Rheoli Gweithrediadau
- Datblygiad proffesiynol
Deon FBCI yw’r Athro Barry Atkins.
Dysgwch am y cyrsiau sydd ar gael a'r ymchwil a wneir yn y gyfadran.
Mae’r Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg yn cynnwys 14
maes pwnc:
- Perthynol i Iechyd a Ceiropracteg
- Ymarfer Nyrsio Cymunedol a Phroffesiynol
- Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- AGA ac Ymarfer Addysgol
- Nyrsio (Oedolyn)
- Nyrsio (Anabledd Dysgu, Iechyd Meddwl, Plant)
- Plismona Gweithredol
- Plismona a Throseddeg
- Addysg Ôl-orfodol
- Dysgu Proffesiynol mewn Addysg
- Seicoleg
- Chwaraeon
- Astudiaethau Therapiwtig
- Gwaith Ieuenctid, Cymunedol a Chymdeithasol
Deon FLSE yw Dr James Gravelle.
Dysgwch am y cyrsiau sydd ar gael a'r ymchwil a wneir yn y gyfadran.
Gwasanaethau proffesiynol
Mae’r Gofrestrfa Academaidd yn helpu i gynnal uniondeb safonau academaidd y Brifysgol, ac mae’n gyfrifol am reoli’r agweddau gweinyddol ar amser myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru.
Mae ein rhwydwaith byd-eang o 250,000 o raddedigion yn cynnwys cyn-fyfyrwyr sy’n gweithio ar draws y sbectrwm llawn o sectorau a phroffesiynau, ac sydd oll yn aelodau oes o’r Brifysgol.
Mae Gwasanaethau Arlwyo yn darparu arlwyo a lletygarwch i fyfyrwyr a chydweithwyr PDC. Mae'r tîm hefyd yn gweithio'n agos gyda Chanolfan Gynadledda PDC i ddarparu ar gyfer ystod eang o ddigwyddiadau.
Mae’r Ganolfan Gwella Dysgu ac Addysgu yn helpu i gefnogi, datblygu a chydnabod cydweithwyr a myfyrwyr fel datblygwyr addysgol, ymarferwyr, ymchwilwyr ac arweinwyr.
Mae'r Swyddfa Gwasanaethau Masnachol yn darparu ystod o wasanaethau i fusnesau, gan gynnwys darparu rhaglenni datblygiad proffesiynol, o gyrsiau byr i gymwysterau ffurfiol.
Mae'r adran Ystadau a Chyfleusterau yn gofalu am ystâd gyfan PDC, gan gynnwys cyfleustodau, glanhau, diogelwch, parcio, cynnal a chadw, cynaladwyedd a phrosiectau adeiladu mawr.
Mae’r Adran Gyllid yn rheoli holl weithgareddau ariannol y Brifysgol, gan gynnwys cyfrifon, caffael, yswiriant, cyflogres, a systemau cyllid ac adrodd.
Nod Myfyrwyr y Dyfodo yw darparu marchnata eithriadol, rhaglenni ysgol a choleg, allgymorth a derbyniadau i ysgogi recriwtio myfyrwyr ar draws y Brifysgol.
Mae’r adran AD yn darparu swyddogaeth AD bwrpasol ar gyfer y Brifysgol, a chytundebau lefel gwasanaeth ar gyfer Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru a Choleg Merthyr Tudful.
Mae PDC Rhyngwladol yn arwain datblygiad gwasanaethau rhyngwladol, yn recriwtio myfyrwyr rhyngwladol ac yn darparu gwasanaeth Cyngor Mewnfudo a Rhyngwladol i Fyfyrwyr.
Mae Gwasanaethau Llyfrgell yn darparu ystod eang o wasanaethau llyfrgell a gwybodaeth o ansawdd uchel i fyfyrwyr Prifysgol De Cymru, academyddion ac ymchwilwyr.
Mae RISe yn cefnogi cydweithwyr academaidd a myfyrwyr ôl-raddedig, gan ganolbwyntio ar effaith ymchwil; cyllid a grantiau; ac Ysgoloriaeth Sgiliau Cyfnewid Gwybodaeth Prifysgol De Cymru (KESS).
Mae’r USO yn darparu cymorth ar gyfer llywodraethu a rheoli Prifysgol De Cymru, yn ogystal â chydgysylltu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gweithredu a monitro Safonau’r Gymraeg.
Mae’r USO yn darparu cymorth ar gyfer llywodraethu a rheoli Prifysgol De Cymru, yn ogystal â chydgysylltu ei darpariaeth cyfrwng Cymraeg, a gweithredu a monitro Safonau’r Gymraeg.