Ein Hanes

Sefydlwyd Prifysgol De Cymru yn 2013 ar ôl uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae gan y ddau sefydliad a unodd i greu Prifysgol De Cymru hanes cyfoethog ac amrywiol, a gall y ddau olrhain eu gwreiddiau dros 170 blynedd. 


1841: SEFYDLIAD MECANEG CASNEWYDD

Newport Mechanics Institute

Cafodd Sefydliad Mecaneg Casnewydd ei sefydlu ym 1841 yng nghanol dinas Casnewydd er mwyn darparu addysg bellach i weithwyr a chrefftwyr. Roedd modd i weithwyr benywaidd a gwrywaidd fynychu cyfres o ddarlithoedd am ddau swllt fesul chwarter, i astudio pynciau fel ‘mynd ar drywydd cyflawniad a gwybodaeth’ ac ‘ofergoelion poblogaidd’. 


1910: SEFYDLIAD TECHNEGOL CASNEWYDD

Agorwyd Sefydliad Technegol Casnewydd ym 1910 ac roedd yn cael ei adnabod yn lleol fel yr ‘Ysgol Gelf’. Roedd yr adeilad briciau coch eiconig, gyda’i gromen gopr, yn gorwedd ar lan ddwyreiniol Afon Wysg, ac roedd yn symbol mawreddog o fenter a balchder dinesig; roedd yn sefydliad a gafodd ei adeiladu’n benodol at y diben ac wedi’i lenwi â’r holl gyfarpar, ac roedd yn enghraifft wych o sefydliad technegol ac ysgol gelf nodweddiadol y cyfnod.  


1913: YSGOL CLODDFEYDD DE CYMRU A SIR FYNWY

South Wales and Monmouthshire School of Mines

Daeth arweinwyr diwydiannol lleol ynghyd ym 1913 i ffurfio Ysgol Cloddfeydd De Cymru a Sir Fynwy, a agorwyd yn Nhrefforest gyda charfan o 17 o fyfyrwyr diploma cloddio. Roedd yr ysgol yn gwasanaethu’r diwydiant glo mawr oedd yn meddiannu cymoedd De Cymru ar y pryd, a phrif berchnogion cloddfeydd Cymru oedd yn berchen arni a’i hariannu. Newidiodd ei henw i’r Ysgol Gloddfeydd a Thechnoleg yn y 1940au ac roedd yn un o’r lleoedd a hyfforddodd y ‘Bevin Boys’ – sef gweithwyr glo ifanc rhwng 18 a 25 oed – yn ogystal â chadetiaid y fyddin.


1914: COLEG HYFFORDDI CAERLLION

Caerleon College 1914

Agorodd y coleg (a elwid yn Goleg Hyfforddi Sir Fynwy yn flaenorol) ym 1914 i hyfforddi myfyrwyr gwrywaidd i fod yn athrawon. Ni wnaeth Coleg Caerllion dderbyn myfyrwyr benywaidd nes 1962, a thyfodd yn gyflym yn dilyn hynny, gyda’r niferoedd yn codi o 140 i 750. 


1949: COLEG TECHNEGOL MORGANNWG

Cymerodd Gyngor Sir Morgannwg yr awenau yn yr ysgol yn ystod y Dirwasgiad, a daeth yn Goleg Technegol Morgannwg ym 1949, oedd yn adlewyrchu ei bortffolio cynyddol, a chafodd ei ailenwi eto yn Goleg Technoleg Morgannwg ym 1958. Erbyn hyn, roedd y sefydliad wedi ehangu i gynnig amrywiaeth o gyrsiau amser llawn, rhyngosod a rhan-amser mewn gwyddoniaeth, technoleg a masnach, ac ychwanegwyd y cwrs Cymraeg i Oedolion cyntaf erioed ym 1967.


1970: COLEG POLYTECHNIG MORGANNWG

Polytechnic of Wales 1975

Ym 1970, daeth yn goleg polytechnig - sef sefydliad addysg trydyddol a gynigiodd diplomâu uwch, a graddau israddedig ac ôl-raddedig. Unodd Coleg Polytechnig Morgannwg â Choleg Addysg Morgannwg yn y Barri, a chafodd ei ailenwi’n Goleg Polytechnig Cymru ym 1975.


1975: COLEG ADDYSG UWCH GWENT

Unodd Coleg Addysg Caerllion, Coleg Celf a Dylunio Casnewydd a Choleg Technoleg Gwent ym 1975 i ffurfio Coleg Addysg Uwch Gwent. Cafodd y Coleg ei weinyddu gan Gyngor Sir Gwent rhwng Medi 1975 ac Ebrill 1992, pan enillodd statws corfforaethol. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd ran helaeth o’i bortffolio Addysg Bellach ei drosglwyddo i golegau Addysg Bellach, ac enillodd ei le fel yr unig sefydliad Addysg Uwch yng Ngwent, ac un o’r prif ddarparwyr Addysg Uwch yng Nghymru. 


1992: PRIFYSGOL MORGANNWG

Ty Crawshay University of Glamorgan

Enillodd Goleg Polytechnig Cymru yn Nhrefforest statws prifysgol ym 1992, a daeth yn Brifysgol Morgannwg, gyda dros 11,500 o fyfyrwyr wedi’u cofrestru ar un campws yn unig. Wedi iddo dderbyn statws Prifysgol, roedd modd i’r sefydliad ddyfarnu ei raddau israddedig ac ôl-raddedig ei hun mewn amrywiaeth o bynciau.  


1996: COLEG PRIFYSGOL CYMRU, CASNEWYDD

In 1996, the Gwent College of Higher Education was admitted into the University of Wales as the University of Wales College Newport. Delegated powers to supervise research degrees, including PhDs, were awarded to the college by the University of Wales. The College prepared for university status by expanding its curriculum, growing its international links and increasing its use of European funding to support regional development work.


2004: PRIFYSGOL CYMRU, CASNEWYDD

University of Wales Newport launch 2

Ym mis Mai 2004, cafodd Coleg Prifysgol Cymru, Casnewydd gymeradwyaeth y Cyfrin Gyngor i ddefnyddio’r teitl Prifysgol Cymru, Casnewydd, fel aelod llawn o’r brifysgol ffederal, gyda chymuned o fyfyrwyr o dros 50 o wledydd. 


2007: COLEG BRENHINOL CERDD A DRAMA CYMRU

Daeth Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, sef conservatoire wedi’i leoli yng Nghaerdydd, yn is-gorff ym mherchnogaeth lwyr Prifysgol Morgannwg yn 2007.


2007: ADEILAD YR ATRIUM, CAMPWS CAERDYDD

Atrium (old Glamorgan branding)

Agorodd Brifysgol Morgannwg ei adeilad ATRiuM eiconig yng nghanol dinas Caerdydd yn 2007, gan gynnig cyfleuster dysgu penodol i fyfyrwyr y diwydiannau creadigol. Daeth yr adeilad modern â disgyblaethau celf a dylunio, y cyfryngau a chyfathrebu a drama a cherddoriaeth ynghyd, i feithrin datblygiad entrepreneuraidd a deallusol y myfyrwyr a’r staff. 


2009: UHOVI

Lansiwyd Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd (UHOVI) yn 2009 fel partneriaeth rhwng Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, â’r nod o annog mwy o bobl i ystyried addysg uwch yn rhai o ardaloedd tlotaf Cymru. 


2011: CAMPWS DINAS CASNEWYDD

Newport City Campus by night

Agorodd adeilad Campws y Ddinas, gwerth £35m, yng nghanol dinas Casnewydd, gan roi cartref i 2,500 o fyfyrwyr o Ysgol Fusnes Casnewydd a rhan helaeth o adran Ysgol y Cyfryngau a Dylunio’r Brifysgol. Roedd yr adeilad eiconig, sydd wedi’i leoli ar lan Afon Wysg, yn cael ei weld fel nodwedd bwysig o adfywiad canol y ddinas.


2013: PRIFYSGOL DE CYMRU

USW launch 2013

Ym mis Ebrill 2013, ffurfiwyd Prifysgol De Cymru, yn sgil uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd, dan arweiniad yr Is-ganghellor, sef yr Athro Julie Lydon a’r Canghellor, sef y cyn-Archesgob Caergaint, Rowan Williams.  

Ers ei ffurfio, mae’r Brifysgol wedi cynnig dros 500 o gyrsiau, a chroesawu myfyrwyr o dros 120 o wledydd. Mae buddsoddi diweddar yng nghampysau PDC yn cynnwys estyniad gwerth £15m i Gampws Caerdydd yn 2016, estyniad £15m i barc chwaraeon y Brifysgol yn 2018 ac agor campws Dubai PDC yn 2018, gan gynnig graddau mewn peirianneg cynnal a chadw awyrennau a chyrsiau Meistr mewn diogelwch seiber, ymysg pynciau eraill.