“Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn digwydd bob mis Hydref ac rydym
yn falch o fod yn ei gefnogi. Rydym am i PDC fod yn gymuned gynhwysol - un lle
mae pawb yn cael eu croesawu ac yn cael eu gwerthfawrogi.
"Mae Mis Hanes Pobl Dduon yn gyfle i gydnabod
treftadaeth a diwylliant, cyfraniad a chyflawniadau ein myfyrwyr, cydweithwyr,
cyn-fyfyrwyr Du ac o dras Du gan gynnwys ein cymuned ehangach yn PDC.
"Mae hefyd yn gyfle i drafod y ffyrdd y gall pob un
ohonom ennill mwy o wybodaeth a dealltwriaeth er mwyn meithrin amgylchedd
cynhwysol a gwrth-hiliol yn PDC."
Vida Greaux, Cadeirydd Rhwydwaith Staff BME a William
Callaway, Cadeirydd Grŵp Llywio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
DIGWYDDIADAU
Dydd Gwener 8 Hydref, 12 hanner dydd - 1pm
Dydd Mercher 27 Hydref, 5.30pm – 8.00pm
Dydd Gwener 29 Hydref, 12 hanner dydd - 1pm
YMCHWIL YN PDC
Mae Dr Roiyah Saltus, cymdeithasegydd ac ymchwilydd-actifydd, yn trafod ei chefndir a'i hymchwil, sy'n ymroddedig i anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol amrywiol sy'n wynebu pobl o grwpiau poblogaeth ymylol, mudol a lleiafrifoedd ethnig.
Mae grŵp o ymchwilwyr PDC wedi archwilio’r nifer sy’n cymryd
rhaglenni sgrinio canser yng Ngorllewin Casnewydd ac yn trafod sut i ennyn
diddordeb pobl o gymunedau Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn ymchwil.
Mae’r Athro Florence Ayisi yn trafod ei gyrfa gwneud
ffilmiau a'i ffilm diweddaraf, The Bronze Men of Cameroon, sy'n astudio
treftadaeth ddiwylliannol a'r bygythiadau i arferion traddodiadol castio efydd
yn Rhanbarth Gorllewinol Camerŵn.
Dr Roiyah Saltus yw prif awdur adroddiad sy'n ymchwilio i'r
ffyrdd y mae pobl hŷn â gwreiddiau BME yn byw gyda dementia, a sut maen nhw,
a'u teuluoedd, yn ceisio gwybodaeth ystyrlon a llwybrau cymorth.
Mae gan Michael Stevens, un o Lywodraethwyr PDC, gefndir o
weithio yn y sectorau amddiffyn, diogelwch, seiber ac awyrofod. Mae'n siarad am
ei brofiad o AU a phwysigrwydd amrywiaeth.