Gall cyfergyd ar y cae rygbi arwain at heneiddio cyflymach, yn ôl canfyddiadau ymchwil

Tom Owens concussion research

Gall dioddef cyfergydion mynych wrth chwarae rygbi arwain at ddirywiad gwybyddol cyflymach a chynyddu’r risg o ddatblygu clefyd niwroddirywiol fel clefyd Alzheimer a chlefyd Parkinson, yn ôl ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru.

Gan weithio’n agos â chwaraewyr Gleision Caerdydd, bu’r myfyriwr PhD Tom Owens (yn y llun uchod) a’r Athro Damian Bailey yn arwain astudiaeth i’r effeithiau y gall cyfergyd sy’n gysylltiedig â chwaraeon eu cael ar swyddogaeth yr ymennydd a gallu gwybyddol unigolion, gan ehangu ar ymchwil blaenorol.

Ochr yn ochr â’r astudiaeth â chwaraewyr presennol, bu’r tîm ymchwil yn Labordy Ymchwil Niwrofasgwlaidd Prifysgol De Cymru (PDC) yn gweithio gyda grŵp o chwaraewyr rygbi sydd wedi ymddeol, rhwng 60 ac 80 oed, gan ymchwilio i ganlyniadau cyfergyd ar iechyd yr ymennydd trwy gydol oes oedolion, i weld a oedd yr effaith yn gallu achosi ‘cyflymu’r broses heneiddio’. Cefnogwyd y ddwy astudiaeth ymchwil gan gyllid gan Gymrodoriaethau Ymchwil JPR Williams a’r Gymdeithas Frenhinol (mae’r Athro Bailey yn Gymrawd Wolfson y Gymdeithas Frenhinol). 

Fel rhan o wiriad iechyd trylwyr, bu chwaraewyr yn destun sgrinio cardiaidd gan ddefnyddio ECG, yn ogystal ag asesiad ffitrwydd, sampl gwaed i brofi am arwyddion o newidiadau yn iechyd yr ymennydd, asesiad o swyddogaeth pibellau gwaed, arsylwadau o swyddogaeth serebro-fasgwlaidd (sef llif gwaed i’r ymennydd) ac asesiad clinigol o swyddogaeth wybyddol (ystwythder meddyliol). 

Nod yr ymchwil oedd astudio effaith cyfergydion mynych trwy gydol oes chwaraewyr rygbi’r undeb – sef camp sydd wedi’i beirniadu o ran rheoli cyfergydion.

Dywedodd Tom: “Mae cyfergyd sy’n gysylltiedig â chwaraeon yn effeithio ar filiynau o bobl ledled y byd, ac yn bryder iechyd sylweddol, ond eto mae’n parhau i fod yn un o’r anafiadau y deallir lleiaf amdanynt sy’n wynebu’r gymuned meddygaeth chwaraeon.

“Roeddem yn amau y byddai chwaraewyr rygbi yn dangos arwyddion o ostyngiad yn swyddogaeth yr ymennydd, ac y byddai’r namau hyn yn fwyaf amlwg ymhlith chwaraewyr sydd wedi ymddeol. Mae tystiolaeth yn awgrymu y gallai cyfergydion mynych gyfrannu at anhwylderau niwrolegol hirdymor yn nes ymlaen mewn bywyd – er enghraifft, mae athletwyr chwaraeon cyswllt sydd wedi ymddeol, a oedd wedi profi tair cyfergyd neu fwy, bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef amhariad gwybyddol ysgafn, ac mae’n hysbys fod hyn yn cynyddu’r risg o ddatblygu clefydau niwroddirywiol gan gynnwys clefyd Alzheimer a dementia.”

Ar gyfer y ddwy astudiaeth, cymharwyd chwaraewyr rygbi presennol a blaenorol â grŵp rheoli, gan eu paru o ran demograffeg gan gynnwys oedran a ffitrwydd cardiofasgwlaidd (mae’r olaf yn amddiffyn yr ymennydd) – a’r prif wahaniaeth oedd nad oedd y grŵp rheoli erioed wedi chwarae rygbi proffesiynol nac wedi profi unrhyw gyfergydion.

Datgelodd yr ymchwil, a oedd yn cynnwys 90 o gyfranogwyr, fod y cyfergydion a ddioddefodd y ddau grŵp wedi arwain at namau o ran swyddogaeth wybyddol, gyda’r chwaraewyr wedi ymddeol yn dangos arwyddion o amhariad gwybyddol ysgafn. 

Nododd Tom fod chwaraewyr rygbi sydd wedi dioddef nifer o gyfergydion wedi’u nodweddu gan newidiadau i fetabolion yn eu gwaed, sy’n effeithio ar lif y gwaed a llif ocsigen i’r ymennydd, gan achosi gostyngiad o ran swyddogaeth wybyddol.

Fel rhan o’r astudiaeth, gweithiodd Tom yn agos â Dr Gareth Jones, sy’n gyn-feddyg chwaraeon arweiniol â Gleision Caerdydd, ac sy’n parhau i ymarfer fel meddyg chwaraeon, i gynnal asesiadau ar y cyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer corff a nodi unrhyw newidiadau yn eu canlyniadau ECG.

Rôl Dr Jones oedd monitro’r chwaraewyr yn ystod ymarfer corff, a bu’r prosiect ymchwil yn astudio effeithiau ymarfer corff ar lif yr ymennydd (sef llif y gwaed i’r ymennydd), gan gyfrannu ei brofiad fel meddyg arbenigol ym maes cardioleg i adolygu’r profion ECG, ochr yn ochr â’r Athro Bruce Davies, Athro Emeritws PDC mewn ffisioleg gardiofasgwlaidd. 

Dywedodd: “Fy rôl fel clinigwr oedd gwneud asesiad o risg a diogelwch ymarfer corff ymhlith chwaraewyr presennol a blaenorol, a chawsom gefnogaeth lawn yr holl gyfranogwyr.

“Wrth ystyried mater mor bwysig â chyfergyd, mae’n hanfodol y ceir cysylltiad mor agos â phosibl rhwng disgyblaethau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon.”

Ychwanegodd Tom: “Gall y canfyddiadau ymhlith y 90 o gyfranogwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil fod yn berthnasol i filiynau o bobl ledled y byd sydd wedi profi cyfergyd yn ystod eu hoes, a gall hyn awgrymu mecanwaith ar gyfer datblygiad nifer o afiechydon niwroddirywiol.”

Mae canfyddiadau’r astudiaethau hyn wedi’u cyflwyno mewn cynadleddau rhyngwladol, a byddant yn cael eu cyflwyno’n fuan ar gyfer eu cyhoeddi gan gyfnodolion gwyddonol o fri fel ‘The Journal of Physiology’ a’r ‘Journal of Cerebral Blood Flow and Metabolism’. 

Dywedodd Dan Jones, Pennaeth Gwasanaethau Meddygol Gleision Caerdydd: “Fel tîm meddygol, rydym yn falch ein bod wedi cefnogi’r prosiect hwn, oherwydd mae cyfergyd yn faes ymchwil mor bwysig. Mae cefnogi Tom a’i waith ym Mhrifysgol De Cymru yn golygu bod chwaraewyr a staff meddygol Gleision Caerdydd yn cyfrannu’n gadarnhaol ar flaen y gad ym maes Meddygaeth Chwaraeon.”