Rhagnodi Cymdeithasol: dull gwahanol o leihau’r ddibyniaeth ar y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru

Carolyn Wallace - temporary pic

Professor Carolyn Wallace


Lansiwyd Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yn swyddogol ddechrau mis Ebrill.

Dan arweiniad y Cyfarwyddwr, yr Athro Carolyn Wallace o Brifysgol De Cymru, ac wedi’i chyd-gadeirio gan Dr Sally Rees o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, nod yr ysgol rithwir hon yng Nghanolfan PRIME Cymru yw datblygu methodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol. Mae’n adeiladu ar waith a gwblhawyd yn flaenorol gan Rwydwaith Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru. Mae’r rhwydwaith ei hun wedi derbyn dros £700,000 trwy geisiadau am gyllid hyd yn hyn. 

Beth yw rhagnodi cymdeithasol?

Mae rhagnodi cymdeithasol yn ffordd o ateb anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymarferol pobl trwy wasanaethau yn y sector gwirfoddol a’r sector cymunedol, yn hytrach na dibynnu ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddarparu ateb. Mae sawl rheswm dros gyfeirio pobl at wasanaeth rhagnodi cymdeithasol, fel profedigaeth, pryder oherwydd dyledion neu unigedd cymdeithasol.

Mae cynlluniau rhagnodi cymdeithasol yn defnyddio gweithgareddau amrywiol sy’n cael eu cynnig yn nodweddiadol gan sefydliadau’r sector gwirfoddol a chymunedol. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwirfoddoli, gweithgareddau celf, dysgu mewn grŵp, garddio, cyfeillio, coginio, cyngor ar fwyta’n iach, ac amrywiaeth o chwaraeon. 

Yn gyffredinol, mae rhagnodi cymdeithasol yn Lloegr yn digwydd trwy atgyfeiriad gan feddyg teulu at weithiwr cyswllt yn y gymuned. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae model cymysg o ragnodi cymdeithasol, sy‘n cael ei arwain gan y gymuned. Bydd unigolyn yn cael ei atgyfeirio o ofal sylfaenol, awdurdod lleol neu o’r trydydd sector, i weithiwr cyswllt neu gysylltwr cymunedol sy’n gweithio gyda’r unigolyn i roi cynllun ar waith i gyflawni nodau cytunedig yn ymwneud ag iechyd a llesiant.

Bydd gweithwyr cyswllt neu gysylltwyr cymunedol yn cydgysylltu â’r bobl sy’n cael eu hatgyfeirio ac yn gweithio drwy’r mater/materion, gan roi cyfle i’r unigolion fynegi’u hunain mewn cyd-destun diogel. Byddant yn awgrymu gweithgareddau a allai eu helpu ac ymhle y gallant siarad â phobl o’r un anian.

Mae’r model ei hun yn gymhleth ac yn amlweddog. O ganlyniad, bach iawn o dystiolaeth gadarn sydd ar gael yn sylfaen i’r ymarfer. Pwrpas Ysgol Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru yw datblygu’r dystiolaeth honno, nid dim ond i Gymru, ond i bob rhan o’r byd.

Caiff yr Ysgol ei goruchwylio gan grŵp llywio gyda chynrychiolwyr o’r byd academaidd, y trydydd sector, y GIG a gofal cymdeithasol. Gydag aelodaeth o bob cwr o Gymru, mae’r ysgol wedi cael £221,619 gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Llywodraeth Cymru i ymgymryd â phrosiect ymchwil tair blynedd ar Ragnodi Cymdeithasol. Ei gylch gwaith yw adeiladu ar y gwaith ar fethodoleg gwerthuso rhagnodi cymdeithasol, i ddatblygu safonau adrodd i gyhoeddi a datblygu deunyddiau addysgu i ymarferwyr ar sut i werthuso astudiaethau ar ragnodi cymdeithasol.

Hefyd, mae’r Athro Wallace wedi sicrhau grant o £209,188 gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) fel partner mewn prosiect ar ragnodi cymdeithasol dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Nod y prosiect hwn yw adeiladu model ar gyfer iechyd a llesiant mewn addysg uwch.

“Mae’r twf sydyn yn y brwdfrydedd ynghylch rhagnodi cymdeithasol a’i botensial i ddylanwadu ar ddarparu gwasanaethau mewn gofal sylfaenol a gofal yn y gymuned wedi rhagori ar y disgwyliadau, ond mae datblygiad y sail dystiolaeth ar ei gyfer a safonau ansawdd cadarn ar gyfer gwerthuso ar ei hôl hi,” meddai’r Athro Wallace.

“Mae tystiolaeth amrywiol i awgrymu bod rhagnodi cymdeithasol yn gostwng ymweliadau â’r feddygfa rhwng 15% a 28%. Mae’r dystiolaeth yn amrywio cymaint oherwydd bod effaith rhagnodi cymdeithasol yn dibynnu ar y math o fodel a ddefnyddir, y gweithwyr cyswllt a’u cefndir, yr ardal, a’r asedau sydd ar gael yn y gymuned.

“Mae rhagnodi cymdeithasol yn hynod bwysig. Mae’n helpu pobl i gysylltu â’u cymuned a gwella’u llesiant.”