PDC yn ennill £20m o gontractau iechyd yng Nghymru
12-07-2021
Mae Prifysgol De Cymru (PDC) wedi ennill contract gwerth miliynau o bunnoedd i barhau i ddarparu cyrsiau gofal iechyd dros y deng mlynedd nesaf.
Gan ddechrau ym mis Medi 2022, bydd hyn yn ychwanegu tri chwrs newydd at bortffolio gwyddorau gofal presennol PDC: Ymarferydd Adran Weithredu, Ffisiotherapi a Therapi Galwedigaethol.
Cyhoeddwyd gwahoddiad i dendro am addysg iechyd ledled Cymru gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ym mis Tachwedd 2020, yn dilyn adolygiad strategol o addysg israddedigion ym maes iechyd proffesiynol. Mae AaGIC yn gyfrifol am sicrhau bod pobl a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol Cymru yn elwa ar ddull cydlynol a chyson o ymdrin ag addysg a hyfforddiant, ac am foderneiddio a chynllunio'r gweithlu.
Mae AaGIC wedi ymgymryd â'i broses gomisiynu fwyaf erioed gan dendro a dyfarnu contractau i SAU i ddarparu addysg cyn-gofrestru fodern i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, fydd yn diwallu anghenion gwasanaethau'r GIG a chleifion yng Nghymru yn y dyfodol.
Dywedodd Dr Linda Evans, Deon y Gyfadran Gwyddorau Bywyd ac Addysg: "Rwy'n hynod falch o ymdrech ac ymroddiad pawb a gymerodd ran yn y gwaith o lunio'r tendr. Doedd hi ddim yn dasg hawdd, a gwnaed llawer iawn o waith yn paratoi cynlluniau a chynhyrchu tystiolaeth.
"Mae'r adborth rydym wedi ei dderbyn hyd yn hyn yn dangos bod ansawdd ein cyflwyniadau yn uchel. Mae hyn yn ddatblygiad arwyddocaol yn ein portffolio iechyd ac mae'n gam pellach tuag at wireddu ein huchelgais i fod yn brif ddarparwr addysg iechyd yng Nghymru."
Dywedodd Chris Jones, Cadeirydd AaGIC: "Diolch i bawb a gymerodd ran, gan gynnwys rhanddeiliaid a helpodd i lunio'r contractau - gwaith fydd, yn ei dro, yn llywio dyfodol addysg gofal iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Phrifysgolion a Byrddau Iechyd i ddod â'r agwedd fodern hon at fywyd ac arfogi myfyrwyr â'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad i ddechrau gyrfaoedd llwyddiannus a gwerth chweil."
Rhannwch yr erthygl hon
Newyddion Diweddaraf

PDC yn dod yn llysgennad Sefydliad Prydeinig y Galon ar gyfer cynllun cynaliadwyedd
23-12-2021

Hanesion Graddio: "Dydw i ddim yn credu mewn rhestri bwced. Y cyfan rwyf am ei wneud yw graddio."
22-12-2021

PDC yn cefnogi entrepreneuriaid benywaidd mewn partneriaeth gyda NatWest
22-12-2021

Myfyriwr ffoaduriaid yn creu podlediad arobryn i helpu pobl sy'n ceisio lloches
21-12-2021

Athro PDC yn cyhoeddi antholeg er budd Hosbis Plant Tŷ Hafan
17-12-2021

PDC yn neidio 39 lle yn nhabl cynghrair People and Planet
17-12-2021

Petruster chwilio am gariad: pam na fyddai pobl efallai yn rhuthro i mewn i berthynas newydd y gaeaf hwn
17-12-2021

Hanesion Graddio: Pennaeth ysgol yn gwireddu uchelgais oes i ennill gradd Doethuriaeth
16-12-2021

Hanesion Graddio: Banc bwyd lleol wedi ysbrydoli Tracey i gasglu nwyddau babis
15-12-2021